Dros hanner disgyblion hŷn ysgol gynradd Cymru wedi cael eu bwlio

Mae 29% o blant ysgol Cymru rhwng 7-11 hefyd wedi profi seibrfwlio
- Cyhoeddwyd
Mae dros hanner plant 7-11 oed yng Nghymru wedi cael eu bwlio yn yr ysgol yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Dyna ddarganfyddiad adroddiad newydd gan y Rhwydwaith Ymchwil Mewn Ysgolion (SHRN) sydd yn bwrw golwg ar iechyd a lles plant a phobl ifanc Cymru.
Cafodd dros 50,000 o ddisgyblion ysgol gynradd eu holi. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n dweud eu bod yn cael trafferthion gyda'u cwsg ac roedd dros 30% wedi cael anawsterau emosiynol sylweddol.
Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd ysgrifennydd cabinet Llywodraeth Cymru dros addysg, Lynne Neagle AS bod y ffigyrau yn "ddigon i'ch sobri".

Disgyblion Ysgol Gynradd Cogan ym Mhenarth oedd rhai o'r 51,662 o ddisgyblion a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil
Cymerodd mwy na 500 o ysgolion cynradd Cymru ran yn yr astudiaeth gan SHRN, sef partneriaeth ymchwil rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd ysgolion o bob un o'r 22 awdurdod lleol eu holi. Un ohonyn nhw oedd Ysgol Cogan ym Mhenarth, Bro Morgannwg.
"Yr hyn ddaeth i'r amlwg i ni fel ysgol oedd bod y disgyblion yn poeni am eu hunanddelwedd ac am ffurfio perthynas - yn enwedig gyda ffrindiau," meddai Tom Lewis sy'n athro ac yn arwain tîm iechyd a lles yr ysgol.
Mae'r gwaith ymchwil wedi galluogi'r ysgol i weithredu - er enghraifft, cynnal sesiynau penodol i fynd i'r afael â phryderon y disgyblion a magu hyder.
Dywedodd Mr Lewis: "Un enghraifft o'r math o weithgareddau maen nhw'n gwneud yn y sesiynau yma yw adeiladu pont gyda'i gilydd gan ddefnyddio hyn a hyn o ddeunyddiau. Mae pob disgybl yn cymryd rôl wahanol yn y tîm ac yn gorfod cymryd perchnogaeth dros hynny.
"Mae'r canlyniadau wedi bod yn bositif iawn. Ni wedi gweld gwellhad yn agwedd y plant tuag at eu gwaith, gwellhad yn eu sgiliau creadigol nhw, y ffordd maen nhw'n datrys problemau yn yr ysgol a hefyd y ffordd maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd mewn grŵp."

Mae'r athro Tom Lewis wedi gweld effaith bositif ar ddisgyblion ers i'r ysgol weithredu ar ganlyniadau'r gwaith ymchwil
Ymysg y canfyddiadau eraill mae'r canran uchel o ddisgyblion sy'n berchen ar ffôn symudol.
Dywedodd dros 70% o ddisgyblion blwyddyn 6 bod ganddyn nhw un, ac mae traean o'r holl ddisgyblion cafodd eu holi yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol naill ai bob dydd neu sawl gwaith yr wythnos.
Tydi hynny ddim yn synnu'r ymarferydd gorbryder Sioned Roberts. Yn ei rôl mae Sioned yn cynnal sesiynau iechyd meddwl a lles gyda phlant yn yr ysgol, ac yn breifat.
"Dwi yn meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith enfawr ar iechyd meddwl y bobl ifanc yma," meddai Sioned.
"Ers talwm efallai sa chi'n gweld hynna fwy efo plant hŷn, ond wrth i blant ieuengach gael mynediad at gyfryngau cymdeithasol a phethau fel yna mae 'na broblemau yn codi.
"Cymhariaeth yw un. Maen nhw'n gweld beth sydd allan yna a chymharu. 'Dyn nhw ddim yn deall, 'dyn nhw ddim yn ddigon aeddfed i weld bod pobl yn rhoi'r pethau gorau o'u bywydau ar lein."
Ychwanegodd: "Hefyd wrth dreulio cymaint o amser ar-lein 'dyn nhw ddim yn treulio amser yn creu perthnasau da ac iach."

Mae Sioned Roberts yn dweud bod canlyniadau'r ymchwil yn adlewyrchiad o'r hyn mae hi'n ei weld wrth weithio gyda disgyblion
Yn ei gwaith gyda disgyblion, mae Sioned yn ceisio dysgu pwysigrwydd dilyn arferion da.
"Dwi'n dweud wrth bobl ifanc i fonitro y defnydd o'u ffonau symudol nhw, i fwyta'n iach a dim ond hanner sy'n gwneud ymarfer corff bump gwaith yr wythnos.
"Mae ymarfer corff, ac yn enwedig mynd allan i'r awyr iach, mor, mor bwysig. Maen nhw'n bethau mor elfennol a mor syml.
"Tydi o ddim yn gorfod bod yn rhywbeth ychwanegol i feddwl am, tydi o ddim yn gorfod bod yn boen ar rieni. Ond jyst plethu fo mewn i fywyd fel bod o'n rhan naturiol.
"Hefyd dwi yn teimlo bod perthnasau iach yn creu unigolion iach a hyderus."
'Gorbryder fy mab yn mynd trwy'r to tra'n aros am asesiad'
- Cyhoeddwyd28 Hydref
Galw am 'arweiniad clir' ar addysgu darllen mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd7 Medi
Ymhlith y darganfyddiadau eraill mae:
68% o blant yn dweud eu bod nhw'n cael trafferthion yn cysgu weithiau neu bob amser, ac mae 15% yn mynd i'r gwely am 22:00 neu'n hwyrach;
30% yn profi "anawsterau emosiynol sylweddol neu arwyddocaol yn glinigol". Mae mwy o ferched na bechgyn, a mwy o blant o deuluoedd o incwm is yn dioddef;
29% o ddysgwyr blwyddyn chwech yn nodi eu bod wedi cael eu seiberfwlio yn ystod y misoedd diwethaf;
48% yn dweud eu bod yn bwyta ffrwythau o leiaf unwaith y dydd gyda merched yn fwy tebygol o wneud na bechgyn;
37% yn bwyta llysiau o leiaf unwaith y dydd.
Ar gyfer bron pob cwestiwn yn yr arolwg, roedd gan blant na sy'n uniaethu fel bachgen neu ferch ganlyniad gwaeth.
'Pwysig clywed gan blant yn uniongyrchol'
Mewn ymateb i'r adroddiad dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae'n bwysig ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc er mwyn deall yn well sut maen nhw'n teimlo a beth sy'n effeithio arnyn nhw, er mwyn i ni gynllunio'n gwaith at y dyfodol."
Ychwanegodd: "Mae cefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn un o fy mlaenoriaethau. Fel llywodraeth, rydyn ni'n buddsoddi dros £13 miliwn yn flynyddol mewn Dull Ysgol Gyfan i ymdrin ag iechyd meddwl, gyda dros £3 miliwn yn cael ei wario'n uniongyrchol ar gwnsela mewn ysgolion."