Trigolion yn Nhrefynwy'n dod at ei gilydd i daclo'r llifogydd

TrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned yn Nhrefynwy wedi dod ynghyd medd AS lleol

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn dod at ei gilydd yn Nhrefynwy er mwyn helpu teuluoedd a busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd difrifol yn Nhrefynwy, yn ôl yr AS lleol.

"Mae'r gymuned hon yn hynod o garedig a gwydn," meddai Catherine Fookes, wrth i ganolfan hamdden y dref groesawu pobl sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi.

Mae eglwys hefyd yn cael ei defnyddio fel 'man gollwng' ar gyfer rhoddion, fel dillad, ac mae busnesau lleol wedi bod yn darparu bwyd poeth.

Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De 'ddigwyddiad difrifol' yn yr ardal fore Sadwrn gyda dwsinau o bobl yn cael eu hachub gan y criwiau.

TrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 'digwyddiad difrifol' ei ddatgan am 01:30 fore Sadwrn

Roedd pedwar rhybudd llifogydd difrifol mewn grym gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol (CNC) yn ardal Gwy yn Nhrefynwy fore Sul, gyda phryder o "berygl sylweddol i fywyd".

Mae lefelau dŵr Afon Mynwy wedi cyrraedd ei uchaf ar gofnod, gan fynd heibio'r rheiny cafodd eu cofnodi yn ystod Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert yn 2024.

Dywedodd Aelod Seneddol Trefynwy ei bod hi'n "gyfnod pryderus iawn i breswylwyr a busnesau nawr" ac er bod y broses o lanhau'n parhau, y bydd angen ailystyried yr amddiffynfeydd llifogydd presennol.

"Roedd y sefyllfa'n debyg gyda'r amddiffynfeydd llifogydd yn 2020 ond y tro hwn, mae'r nifer o ddŵr sy'n cyrraedd mor gyflym mewn cyn lleied o oriau, yn sicr heb ei brofi o'r blaen," meddai Catherine.

"Dwi'n meddwl nawr, gyda'r newid mewn hinsawdd a'r nifer o ddigwyddiadau tywydd mawr rydym yn eu profi, bydd yn rhaid i ni ailedrych ar ein hamddiffynfeydd llifogydd."

Strydoedd a llifogydd Trefynwy
Disgrifiad o’r llun,

Effaith y ddwy afon sydd wedi gorlifo gan achosi llifogydd yng nghaeau ac ar strydoedd Trefynwy

Dywedodd ei bod yn galw am "fwy o arian ar gyfer preswylwyr a rhagor o arian ar gyfer y broses lanhau".

Mae hefyd yn galw am "fwy o arian ar gyfer yr amddiffynfeydd llifogydd", gan fod llifogydd wedi bod yn Y Fenni a ger pentref Ynysgynwraidd - sydd wedi cael llifogydd "bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf".

"Un o'r pethau mwyaf anhygoel yng nghanolfan hamdden Trefynwy ddoe oedd yr aelodau staff anhygoel, a'r holl wirfoddolwyr yn dod i mewn gan ddweud, 'na i warchod y teulu hwn', 'na i gymryd y teulu arall' a ffrindiau'r bobl yn rhedeg o gwmpas gan gynnig rhywle i aros i bobl â chathod a chŵn ac ati, na fyddai'n gallu aros mewn gwestai."

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi delio â thros 80 o alwadau erbyn prynhawn Sadwrn.

Catherine Hall a Susie Martinez a'i meibion yn Nhrefynwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae siop Catherine Hall (chwith), perchennog busnes yn Nhrefynwy wedi cael ei effeithio gan y llifogydd, a chafodd Susie Martinez a'i meibion sy'n byw yn yr ardal eu hachub gan gwch yn ystod oriau mân y bore

Disgrifiodd Susie Martinez, sy'n 42 oed, sut y cafodd hi a'i meibion Louis, 9, a Joey, 5, eu hachub o'u fflat yn Nhrefynwy ddydd Sadwrn am 03:30.

"Roedd yn rhaid i ni ddringo allan drwy'r ffenestr ac i mewn i'r cwch," meddai.

"Roedd yn ddychrynllyd."

Dywedodd Catherine Hall sy'n berchennog siop ei bod wedi ei gadw ar agor i gwsmeriaid er gwaethaf y difrod.

"Mae chwech wythnos i fynd tan y Nadolig, a dwi'm yn siŵr beth fydd yn digwydd cyn hynny.

"Mae'n ofnadwy. Dwi 'di colli gwerth miloedd ar filoedd o stoc."

'Peidiwch â chadw draw'

Mae'r AS wedi annog siopwyr i beidio â chadw draw o Drefynwy wrth i'r Nadolig agosáu, er mwyn sicrhau na fydd busnesau sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd yn dioddef o hynny.

"Mae busnesau'n parhau i fod ar agor heddiw felly plîs peidiwch ag osgoi Trefynwy am y chwech wythnos nesaf, oherwydd byddwn yn glanhau'r difrod yn gyflym," meddai.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd swm record o £77m yn cael ei fuddsoddi ym maes amddiffyn llifogydd eleni, fel rhan o'u "hymrwymiad" at warchod dros 45,000 o dai.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, a hoffem ddiolch i'r gwasanaethau argyfwng a'r asiantaethau lleol sydd wedi bod yn gweithio'n galed i gadw'n cymunedau'n ddiogel."

Ychwanegodd y Llywodraeth eu bod "mewn cysylltiad â Chyngor Sir Trefynwy am y cymorth sydd ar gael" a bod Busnes Cymru ar gael i "ddarparu gwybodaeth ymarferol" a "chyngor busnes" i helpu busnesau reoli'r difrod sydd wedi'i achosi gan y stormydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram, neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig