Rhaid dysgu gwersi o adroddiad brawychus Foden - Comisiynydd

"Mae'r ffaith bod safbwyntiau a phrofiadau plant heb eu hystyried yn ddigonol yn fethiant systemig enfawr," medd Comisiynydd Plant Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffaith bod degau o gyfleoedd wedi'u colli i atal y pedoffeil Neil Foden rhag cam-drin merched yn rhywiol "yn frawychus", medd Comisiynydd Plant Cymru.
Roedd Rocio Cifuentes yn ymateb i gyhoeddiad adolygiad hynod feirniadol am y methiannau arweiniodd at ei droseddu.
"Dro ar ôl tro, roedd methiannau i wrando ar blant, a methiannau gan bobl a ddylai fod wedi gweithredu a gan sefydliadau a ddylai fod wedi eu hamddiffyn," meddai Ms Cifuentes.
"Mae'r ffaith bod yr adolygiad wedi canfod bod safbwyntiau a phrofiadau plant heb eu hystyried yn ddigonol yn fethiant systemig enfawr."
'Rhaid gweld newid ar frys'
Yn siarad ar raglen y Post Prynhawn ddydd Mawrth, ychwanegodd Sara Jermin o Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru bod yr "adroddiad yn frawychus - rhaid i ni weld newid".
"Fe wnaeth Ymchwiliad Clywch arwain at newidiadau a gwelliannau cenedlaethol ond beth ni wedi bod yn bryderus amdano yw sut mae'r gweithdrefnau a'r atebolrwydd hynny yn gweithio ar lawr gwlad.
"Mae'n rhaid i'r adroddiad yma fod yn sbardun i gryfhau'r system.
"Ni wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiadau ynghylch system llywodraethiant diogelu plant yng Nghymru ac ry'n ni'n bles eu bod nhw wedi cyhoeddi bod hyn yn mynd i ddigwydd.
"Rhaid gweld newid ar frys yn lleol ac yn genedlaethol."

Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru, Lynne Neagle wedi ymddiheuro i'r dioddefwyr
Disgrifiodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Lynne Neagle, ganfyddiadau yr adroddiad fel rhai "difrifol a syfrdanol" wrth iddi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion a gyfeiriwyd ati.
"Rydym wedi ymrwymo i weithredu ar bob un ohonynt ar unwaith," meddai.
Talodd deyrnged hefyd i ddioddefwyr Foden am y "dewrder rhyfeddol" a ddangoswyd ganddynt.
"Mae'n ddrwg gennyf am y cam-drin a wnaethont ddioddef, mae'n ddrwg gennyf am yr ymddiriedaeth a fradychwyd ac mae'n ddrwg gennyf eu bod wedi cael eu methu gan gynifer o'r bobl a'r sefydliadau a ddylai fod wedi'u hamddiffyn," ychwanegodd.
Dywedodd Ms Neagle fod y methiannau o fewn yr ysgol dan sylw a Chyngor Gwynedd yn "syfrdanol, yn siomedig ac yn ofidus" a chyhoeddodd y byddai nawr yn cadeirio grŵp a fydd yn goruchwylio'r camau a gymerir gan y cyngor mewn ymateb i'r adroddiad.
"Rwyf wedi cytuno ar becyn cymorth i Gyngor Gwynedd i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r [Adolygiad Ymarfer Plant], ac i ddarparu'r sicrwydd sydd ei angen ynghylch diogelwch a lles plant a phobl ifanc.
"Byddaf yn monitro'n agos yr effaith y mae hyn yn ei chael," meddai Ms Neagle.
Ychwanegodd yr ysgrifennydd addysg y byddai canllawiau, gweithdrefnau a strategaethau'n cael eu hadolygu mewn ymateb i rai o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad.
Ymddiheurodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys "o waelod calon" i'r dioddefwyr
Wrth groesawu'r adroddiad dywedodd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd ei bod ar ran y cyngor yn "ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef ac yn talu teyrnged i'w dewrder a'u cryfder".
Ychwanegodd bod "Bwrdd Rhaglen" wedi ei sefydlu o dan gadeiryddiaeth yr Athro Sally Holland, cyn-Gomisiynydd Plant Cymru, ac y byddan nhw "yn mynd drwy'r adroddiad efo crib mân i adnabod y camau pellach sydd angen eu cymryd fel nad ydi camgymeriadau yn cael eu hailadrodd".
"Ni fyddwn yn cuddio o'n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant – nawr ac i'r dyfodol," ychwanegodd.
"Bydd y Bwrdd Ymateb yn parhau i graffu, herio a chynghori'r Cyngor wrth i'r awdurdod symud ymlaen. Byddwn yn sicrhau bod Cyngor Gwynedd yn atebol i'w ddinasyddion drwy fesur effaith y newidiadau a wneir ac adrodd yn dryloyw.
"Mae hyn yn hanfodol i roi hyder i blant a'u teuluoedd bod camau'n cael eu cymryd i ddysgu gwersi o'r achos hwn," meddai Sally Holland.
Ychwanegodd Cadeirydd a Phennaeth Dros Dro Ysgol Friars y bydd arweinyddiaeth yr ysgol a'r llywodraethwyr yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd a phartneriaid diogelu i sicrhau bod gwersi'r adolygiad hwn yn arwain at newid parhaol.
'Ni fyddwn yn cuddio'
Derbyniodd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dafydd Gibbard, bod y cyfrifoldeb am sawl agwedd o'r hyn ddigwyddodd yn disgyn ar ysgwyddau'r cyngor.
"Mae'r cyfrifoldeb am nifer o'r methiannau sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad hwn yn gorwedd gyda Chyngor Gwynedd ac rydym yn ymddiheuro'n gwbl ddidwyll i'r holl ddioddefwyr am hynny," meddai Mr Gibbard.
"Mewn sefyllfaoedd lle mae sefydliad dan y chwyddwydr, mae tuedd weithiau i fod yn amddiffynnol.
"Rwyf yn addo heddiw na fydd Cyngor Gwynedd yn gwneud hynny. Ni fyddwn yn cuddio o'n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant nawr ac i'r dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg: "Fyddwn ni byth yn anghofio'r niwed a'r effaith pellgyrhaeddol mae hyn wedi ei gael ar fywydau plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn yr ysgol.
"Ni allwn newid y gorffennol, ond byddwn yn parhau i gydweithio gyda arweinyddiaeth newydd a llywodraethwyr Ysgol Friars i gefnogi cymuned yr ysgol i ymdopi gyda'r hyn sydd wedi digwydd."

"Mae'n hanfodol bod y rhai sy'n gweithio gyda phlant yn gallu adnabod arwyddion cam-drin, yn ceisio gwrando a chlywed llais y plentyn, ac yn dilyn gweithdrefnau diogelu," medd llefarydd ar ran NSPCC Cymru.
"Er mwyn amddiffyn plant, mae hefyd yn hanfodol bod arweinwyr mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yn creu diwylliant lle gall pobl ifanc, rhieni a staff sôn am bryderon.
"Mae angen i hyn ddigwydd trwy lens 'beth os ydw i'n iawn?' yn hytrach na 'beth os ydw i'n anghywir?'
"Rhaid i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant fod yn chwilfrydig ac yn wyliadwrus, ac os na chaiff pryderon eu hateb yn effeithiol, rhaid eu huwchgyfeirio nes cyrraedd datrysiad."
'Catalog erchyll o fethiannau'
Dywedodd yr Aelod lleol yn Senedd Cymru, Sian Gwenllian, bod dydd Mawrth yn "ddiwrnod tywyll iawn".
Mae'r AS Plaid Cymru ei hun yn gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, a dywedodd: "Dyma i ni gatalog erchyll o fethiannau sy'n peri gofid mawr.
"Mae'r adroddiad yn ysgytwol, yn peri dychryn a sioc o'i ddarllen o, ac mae'n meddyliau ni i gyd efo'r plant sydd wedi dioddef camdriniaeth erchyll - yn ferched ac yn fechgyn," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar, "na ddylid gadael unrhyw garreg heb ei throi wrth geisio atal rhywbeth mor ffiaidd â hyn rhag digwydd eto byth".
"Heb os, fe wnaeth troseddau ffiaidd Foden syfrdanu'r wlad ac mae pobl yn haeddu atebion... sef sut y llwyddodd rhywun mewn sefyllfa o rym fel hon i ddianc am gyhyd, heb gael ei wirio," ychwanegodd.
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, wrth y Senedd ei bod wedi galw o'r blaen am adolygiad cenedlaethol annibynnol o ddiogelu plant "oherwydd nad problemau lleol yw'r rhain, nid problemau gwleidyddol ydynt; rhai systemig ydynt.
"Rydyn yn wlad fach, ond eto dyma ni, gyda methiant difrifol arall - ac heb wrando ar blant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
