Merch 12 oed o Wynedd yn rhedeg ym Marathon SheUltra Portiwgal

Awel gyda'i chyfnither Sophie ar ôl gorffen y ras
- Cyhoeddwyd
Mae merch 12 oed o Wynedd wedi rhedeg bron i 26 milltir ym marathon SheUltra.
Aeth Awel drosodd i Bortiwgal dros y penwythnos i gymryd rhan yn y ras ar 1 Tachwedd.
I Awel roedd yn benwythnos llawn cynnwrf nid yn unig oherwydd y ras ond hefyd gan mai dyma'r tro cyntaf erioed iddi hedfan a mynd dramor.
Ac roedd gwobr haeddiannol yn ei disgwyl ar ôl ddychwelyd i Gymru - diwrnod i ffwrdd o'r ysgol er mwyn dod dros y cyfan.
"Dwi 'di blino dipyn ac mae'r coesau yn stiff ond dwi'n teimlo'n ocê rŵan," meddai wrth Cymru Fyw.
Fe redodd 25.66 milltir o'r ras 27.66 milltir ar ôl methu un troad cyn iddi groesi'r llinell derfyn i gymeradwyaeth pawb.
Awel yn croesi'r llinell derfyn yn y ras SheUltra ym Mhortiwgal
Fe wnaeth Awel fagu diddordeb mewn rhedeg ychydig o flynyddoedd yn ôl wedi iddi hi a'i thad, Dylan, ddechrau helpu trefnwyr rasys, gan gynnwys Ras y Brenin Enlli.
Meddai: "O'n i marshlo ar Ynys Enlli ac roedd 'na grŵp o ferched yn neud y ras - roedden nhw'n gorfod gwneud chwe lap o gwmpas yr ynys. 'Naethon nhw gynnig i fi fynd efo nhw a 'nesh i un lap, a siarad efo nhw a chael sgwrs a mwynhau o."
Aeth y disgybl Ysgol Brynrefail yn ei blaen i gymryd rhan yn y SheUltra cynta' yn 2024, sef y ras marathon ultra elusennol cynta' i gael ei drefnu i ferched yn unig - sy'n dechrau yn Abersoch ac yn gorffen 50km yn ddiweddarach ym Mhwllheli.
Fe wnaeth hi gwblhau 18 milltir o'r ras honno a rhedeg Ras Marathon Pererinion Gogledd Cymru eleni.

Awel ar yr awyren yn hedfan am y tro cyntaf erioed, ac yn barod am y SheUltra
Meddai ei thad Dylan: "Mae hi'n marshlo ers mae hi'n ddim o beth a 'dan ni'n mynd am dro neu redeg. Mae hi wedi cerdded rhan fwya' o arfordir Pen Llŷn - dim ond y darn rhwng Uwchmynydd ac Aberdaron sydd ganddi ar ôl.
"'Naeth hi'r SheUltra bron i ddwy flynedd yn ôl heb lawer o trainio.
"Ar ôl 18 milltir wnaeth hi ddeud 'mae'n nhraed i'n brifo gai stopio rŵan?'. 'Cei tad' medda fi - ti 'di 'neud 18 milltir yn barod'."
Eleni aeth gam ymhellach ar ôl cofrestru i redeg y SheUltra ym Mhortiwgal, sef y tro cyntaf i'r ras gael ei chynnal tu hwnt i Ben Llŷn.
Oherwydd ei hoed doedd hi ddim yn gallu cael amser swyddogol, ond roedd yn cael cymryd rhan gan fod ei theulu yn gyfrifol amdani.

Awel a Sophie ar y traeth yn ardal yr Algarve, Portiwgal
Roedd hi'n cyd-redeg yr holl ffordd gyda'i chyfnither Sophie ac roedd ei thad wedi mynd drosodd gyda hi i Bortiwgal.
Meddai Dylan: "Roedd rhan gynta'r ras yn reit hegar ar y traeth yn rhedeg trwy'r tywod.
"O'n i'n trio mynd o un checkpoints i'r llall i weld Awel ac edrych ar ôl ei thraed - sannau glân a Vaseline. Roedd checkpoint three yn anodd - roedd o reit wrth y gwesty, a gorfod mynd pum milltir i ffwrdd cyn dod yn ôl i orffen. Ond roedd hi'n rêl boi."
Dywedodd Awel ei bod yn lwcus i osgoi blisteri ond bod Sophie, sy'n 23, wedi cael rhai gan nad oedd ei sgidiau rhedeg yn ffitio'n berffaith.
"Doedd o ddim yn hawdd ar ddechrau'r ras," meddai Awel. "Ar y dechrau roedd y tywydd yn boeth, ond wedyn doedd o ddim yn rhy bad.
"Roedd pawb yn y ras yn gweld fi a d'eud 'how old is she?!'
"Ro'n i'n reit nerfus yn y bore ond roedd o'n rili neis."
'Wedi dod yn bell'
Roedd ei mam, Catrin, wedi aros yng Nghymru ac wrth ei bodd yn derbyn neges destun ganddi ar ddiwedd y ras.
"O'n i'n prowd ofnadwy," meddai.
"Mae hi wedi dod yn bell. Gafodd hi ei geni yn premature a doedd hi ond yn pwyso pwys a hanner pan oedd hi'n fabi felly mae hi wedi gorfod dal fyny - ond mae hi wedi rŵan.
"Dwi'm yn gwybod sut mae hi'n g'neud o. Mae'n amazing - mae'n dod yn naturiol a tydi hi ddim yn gorfod gwneud lot o training. Mae hi'n gryf ofnadwy a ti'n gorfod bod yn gryf yn feddyliol i'w wneud o hefyd."
A'r cam nesa i Awel?
"Dwi am drio gwneud yr un yn Portiwgal eto blwyddyn nesa'," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref

- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf
