'Adroddiad damniol a dychrynllyd' - dioddefwr Neil Foden

Mae Jo, nid ei henw cywir, yn dweud i Neil Foden feithrin perthynas amhriodol â hi dros gyfnod o bum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ddisgybl y gwnaeth Neil Foden grwmio yn dweud bod casgliadau'r Adroddiad Ymarfer Plant yn "ddamniol a dychrynllyd".
Fe wnaeth Jo, nid ei henw cywir, fynychu Ysgol Friars, ac mi wnaeth Foden feithrin perthynas amhriodol â hi dros gyfnod o sawl blwyddyn.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C, sy'n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru, fod rhannu ei phrofiadau gyda thîm yr adolygiad, a chlywed casgliadau'r adolygiad hwnnw yn "eithriadol o anodd".
Jo ydi'r unig ddioddefwr i siarad yn gyhoeddus, gan ymddangos gyntaf ar raglen ddogfen BBC Wales Investigates - My Headteacher the Paedophile yn 2024.
Dywedodd i Foden feithrin perthynas amhriodol gyda hi dros gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau pan oedd hi'n ddisgybl, ac y byddai uwch-aelodau o staff yn aml yn ei gweld yn ei swyddfa, ond fyth yn gwneud yn siŵr ei bod hi'n iawn.
Ychwanegodd y byddai athrawon yn ei gweld yn mynd i mewn i gar Foden ym maes parcio'r ysgol, ond na wnaethon nhw godi cwestiynau ynglŷn â hynny.
Neil Foden yn cael ei garcharu am 17 mlynedd
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
'Dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli' i atal y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl
Neil Foden: Beth sydd wedi digwydd hyd yma, a phryd?
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
Dywedodd Jo, a gyfrannodd i'r Adolygiad Ymarfer Plant, fod ymateb Cyngor Gwynedd i bryderon yn "ddychrynllyd".
"Mae derbyn pryderon gan staff ysgol ac asiantaethau eraill a gwneud dim ynglŷn â hynny yn anfaddeuol.
"Drwy anwybyddu rhybuddion, fe wnaethon nhw ganiatáu iddo barhau.
"Fe wnaeth ei ddyrchafu o olygu bod ganddo fwy o ddisgyblion i gam-fanteisio arnyn nhw."
Wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod yn yr ysgol ac mewn gofal, dywedodd Jo fod y bobl oedd i fod i'w gwarchod "wedi methu â gwneud hynny".
Dywedodd ei fod yn ei "chythruddo ac yn torri ei chalon" i ddeall faint o bryderon oedd wedi cael eu codi, ond heb ymchwilio'n iawn iddyn nhw.

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024
Mae Jo yn disgrifio ei hun ar y pryd fel person bregus oedd â neb i droi atyn nhw.
"Roedd yna bobl oedd i fod i fy nghadw yn saff", meddai.
"Os gwnaethon nhw fethu fy amddiffyn i, pwy arall y maen nhw wedi methu eu hamddiffyn?
"Gallai cymaint o bobl fod wedi atal yr hyn oedd yn digwydd. Gobeithio y bydd yr adroddiad yma yn gorfodi'r holl bobl yna i dderbyn atebolrwydd ac i gydnabod eu methiannau i amddiffyn plant.
"Dwi wir yn gobeithio y bydd yr adroddiad yma yn gorfodi newidiadau ymysg pawb oedd ynghlwm â fo, ac y gall mwy o bobl drwy'r wlad ddysgu o'r profiad dychrynllyd yma."
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod "eisoes wedi ymrwymo i weithredu ar yr holl gasgliadau ac argymhellion heb oedi".
Brolio ei bŵer mewn negeseuon cyfrinachol
Mae'r Adroddiad Ymarfer Plant yn disgrifio Foden fel "ffigwr pwerus" oedd yn "mynd ar ôl sylw'r cyfryngau".
Dywedodd Jo y byddai ei bwyslais ar gael sylw gan y cyfryngau yn eglur o'i negeseuon iddi, oedd yn aml yn crybwyll ei ymddangosiadau yn y wasg ac ar gyfryngau lleol a chenedlaethol.
Fe wnaeth Jo a Foden gyfnewid cannoedd o negeseuon e-bost a ffôn, gyda nifer ohonyn nhw, meddai Jo, yn sôn am faterion sensitif yn ymwneud â'r ysgol, a'i ymddangosiadau ar y cyfryngau.
Mae rhai wedi cael eu rhannu gyda Newyddion S4C.

Neges gan Foden i Jo ar 2 Gorffennaf 2018, lle mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu nad oedd yn poeni am benawdau negyddol amdano'i hun
Dywedodd fod y negeseuon yn aml yn awgrymu nad oedd Foden yn poeni am weld penawdau negyddol amdano'i hun.
Mae un neges Whatsapp, gafodd ei hanfon ar 2 Gorffennaf 2018, tra roedd Jo yn dal i fod yn yr ysgol, fel petai'n cyfeirio at achos tribiwnlys cyflogaeth ar y pryd lle roedd cyfeiriad wedi bod at Foden fel person unbeniaethol oedd yn anfodlon derbyn "methiannau ar ei ran".
Yn y neges destun i Jo, fe ysgrifennodd: "Mae gan bawb bwynt lle maen nhw'n torri, does neb wedi ffeindio fy un i eto."
Mewn tribiwnlys gwahanol, ychydig ddyddiau yn ddiweddarach ar 5 Gorffennaf 2018, cafodd swm o £8,000 ei ddyfarnu i gyn-athro, wedi i'r gwrandawiad ddod i'r casgliad bod Foden ac uwch-staff wedi ei drin o mewn "modd dibwys a dialgar".

Negeseuon WhatsApp gan Foden i Jo, ar 23 Mehefin 2021, lle mae'n ymddangos bod Foden yn brolio am ddiarddel ei ddisgybl cyntaf yn Ysgol Dyffryn Nantlle
Dywedodd Jo fod Foden wedi talu rhai o'i chostau prifysgol wedi iddi adael yr ysgol.
Fe fyddai yn ymweld â hi bob tymor, byddai'n mynd â hi am goffi ac i'r siopau a byddai'n aml yn prynu anrhegion iddi.
Ar 21 Mehefin 2021, daeth Foden yn bennaeth strategol yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Mewn negeseuon at Jo ddeuddydd yn ddiweddarach mae'n ymddangos fel petai'n brolio: "Dwi newydd ddiarddel fy mhlentyn cyntaf."
Ychwanegodd fod un disgybl wedi gweiddi mewn dosbarth bod Foden "wedi bod mewn trwbl am gyffwrdd plant".
O fewn dyddiau o ddechrau ei rôl newydd, roedd wedi diarddel pedwar disgybl.

Negeseuon rhwng Foden a Jo ar 11 Tachwedd 2021, yn trafod ei benderfyniad i wahardd disgyblion rhag cael cinio ysgol os oedd ganddyn nhw ddyled o fwy nag 1c
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ar 11 Tachwedd 2021, wrth i'r dadlau gynyddu ynglŷn â'i benderfyniad i wahardd disgyblion rhag cael cinio ysgol oedd ganddyn nhw ddyled o fwy nag 1c am eu cinio ysgol, dywedodd Foden wrth Jo "ei fod wedi cael ei daflu o dan y bws gan y cyngor".
Dywedodd Jo ei fod bob amser yn "hoffi darbwyllo pobl na allai gael ei ypsetio na'i frifo".
'Targedu teulu' ar ôl codi pryderon am fwlio
Mae mam o Fangor yn dweud i'w theulu gael eu "targedu" ar ôl codi pryderon am fwlio yn ysgol ei mab, Ysgol Friars.
Yn ôl Julia Lock, 46, cyn-athrawes gyflenwi yng Ngwynedd, cafodd ei mab ei fwlio yn yr ysgol pan oedd yn 11 oed.
Fe gododd hi bryderon gyntaf yn Chwefror 2011, ond dywedodd i lythyrau dilynol a cheisiadau am gyfarfodydd gyda Foden gael eu hanwybyddu.
Mewn rhwystredigaeth, fe gysylltodd â'i chynghorydd ac Aelod Seneddol lleol, wnaeth ei helpu hi, ond chafodd ei phryderon ddim eu datrys.
Dywedodd Julia i'r sefyllfa waethygu pan wnaeth ei brawd, Andrew, oedd yn gweithio yn yr ysgol, ymyrryd.
Roedd Andrew Lock, 44, wedi bod yn dechnegydd cymorth TG yn Ysgol Friars am 15 mlynedd.
Ym mis Mehefin 2011, fe eisteddodd gyda Julia yn nerbynfa'r ysgol tra roedd hi'n ceisio siarad gyda Foden am ei phryderon bod ei mab yn cael ei fwlio.
Ar ôl aros am ddwy awr, fe wnaeth uwch-aelod o staff ddweud wrthyn nhw nad oedd Foden ar gael, gan adael y ddau wedi ypsetio.

Mae Andrew Lock a'i chwaer Julia yn honni i Neil Foden dargedu'r teulu ar ôl i Julia godi pryderon bod ei mab 11 oed yn cael ei fwlio yn Ysgol Friars
Ddyddiau yn ddiweddarach, cafodd Andrew ei atal o'i waith, wedi ei gyhuddo o "weithredu yn erbyn uwch-aelod o staff" oherwydd ei ymateb y prynhawn hwnnw.
Mae'r teulu yn herio'r honiad hwnnw, gan ddweud bod Foden yn eu targedu.
"Roedd fel petai ganddo ysbiwyr ym mhobman", meddai Andrew, "os oedd rhywbeth yn dod i'w sylw, roedd yn dechrau chwarae gemau."
Wedi ei lorio ar ôl cael ei atal o'i waith, fe wnaeth Andrew geisio lladd ei hun.
"Fe wnaeth Foden ddinistrio fy mywyd yn llwyr. Fe wnaeth o ddwyn fy mywyd," meddai.
Foden 'fel meistr pypedau'
Ar ôl gwrandawiad disgyblu, fe wnaeth Andrew ddychwelyd i Ysgol Friars ym mis Ionawr 2012, gyda Foden yn cynyddu ei lwyth gwaith i "lefel oedd ddim yn gynaliadwy", meddai, gan ei adael o dan straen ac yn isel ei ysbryd.
"Dwi'n credu bod Neil Foden fel meistr pypedau, yn feistr ar gamddefnyddio pobl. Dwi eisiau i bobl wybod digon i atal hyn rhag digwydd eto."
Ar ôl misoedd o bryderon nad oedd Foden wedi ymdrin â'r sefyllfa yn ymwneud â'r bwlio, fe aeth Julia Lock at Adran Addysg Cyngor Gwynedd, Heddlu'r Gogledd, a sefydliadau eraill yn cynnwys y corff arolygu addysg, Estyn.
Dywedodd: "Mae gen i bentwr o lythyrau a negeseuon e-bost, ond doedd neb yn gwrando."
Mae Newyddion S4C wedi gweld y llythyrau sydd, meddai Julia Lock, yn dangos bod Foden yn rheoli'r naratif a bod yr awdurdodau yn derbyn fersiwn Foden o ddigwyddiadau.
Fe wnaeth Foden wrthod ymchwilio i'r cwynion am fwlio, gan ddweud bod y ffordd yr oedd hi'n codi'r mater gyda chynghorwyr a'r awdurdod lleol yn 'scattergun' ac yn groes i bolisïau ysgol.

Llythyr gan Neil Foden i Julia Lock ym mis Mai 2013 yn ei chyhuddo o fod yn 'scattergun' ac o fynd yn groes i bolisïau ysgol
Mae Julia Lock yn dweud ei bod yn meddwl bob dydd am y ffordd y gwnaeth Foden drin ei theulu.
"Wnaeth pobl o'i amgylch o, fel Cyngor Gwynedd, fyth ei ddwyn i gyfrif", meddai.
"Mae'n fy nychryn i faint o faterion, falle ddim i gyd yn rhai rhywiol, ond camdriniaeth mewn gwahanol ffyrdd, na chafodd eu hymchwilio.
"Rydyn ni'n siarad am amddiffyn plant, ac mae hynny yn achosi loes."
Mae'r teulu yn galw am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud mai "dyna'r unig ffordd i ddarganfod y gwirionedd".
Mae Julia yn dweud bod yn rhaid edrych ar faterion cyn 2019, yn mynd yn ôl degawdau i gynnwys materion gafodd eu codi gan rieni eraill.
"Nid fi ydi'r unig un, dwi'n siŵr o hynny", meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r ymchwilwyr annibynnol yn yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi bod yn ymchwilio i honiadau am dros flwyddyn, ac rydym eisoes wedi ymrwymo i weithredu ar holl gasgliadau'r adolygiad yn llawn ac heb oedi."
'Fe wnaeth Foden ymosod ar fy mab'
Yn ôl mam arall o Fangor, fe wnaeth Neil Foden ymosod ar ei mab yn Ysgol Friars yn 2021, bythefnos yn unig wedi iddo ddechrau ei dymor cyntaf yno.
Dywedodd Dawn Roberts fod ei mab 11 oed, oedd ag anghenion dysgu ychwanegol ac a oedd yn "fach i'w oedran" wedi cael ei ddal i lawr gan Foden, oedd "i bob pwrpas yn eistedd ar ei ben o."
Fe wnaeth Dawn Roberts gysylltu gyda thîm yr Adolygiad Ymarfer Plant, a chafodd wybod y byddai achos ei mab yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.
Mae hi wedi penderfynu siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ei phrofiadau, gan ddweud bod y digwyddiad yn dal i achosi gofid iddi.
Dywedodd iddo ddigwydd ar ôl i'w mab, mae'n ymddangos, fethu a rhoi pecyn o gardiau chwarae o'r neilltu. Cafodd Foden ei alw, ac fe ddirywiodd y sefyllfa yn sydyn.
Mae lluniau CCTV, sydd wedi eu gweld gan Dawn, yn dangos ei mab yn ceisio cerdded i ffwrdd sawl gwaith.
"Fe wnaeth Foden afael ynddo, rhoi ei ddwylo ar ei ysgwyddau, ei droelli, a'i ddal i lawr, gan hofran drosto gyda'i ddwylo ar ei frest," meddai.
Cafodd y digwyddiad ei ffilmio gan staff, ac yn ôl adroddiadau, mae sain i'w glywed o'r bachgen yn apelio ar Foden i adael iddo fod.

Mae Dawn Roberts yn dweud bod Foden wedi "ymosod" ar ei mab 11 oed yn yr ysgol, a bod hynny'n dal i achosi gofid iddi
Ar ôl y digwyddiad, fe wnaeth Dawn Roberts gais am gael gweld cofnodion ysgol ei mab, gafodd eu hanfon gyntaf i adolygydd i'w golygu.
Fe wnaeth yr adolygydd gysylltu â Heddlu'r Gogledd a gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â phryderon amddiffyn, ac fe ddaeth yr heddlu i gartref Ms Roberts i ofyn iddi ystyried cymryd camau yn erbyn Foden.
"Roedd yn amlwg bod ganddyn nhw ddigon o bryderon i ddod ata i, nid fi aeth atyn nhw," meddai.
Ar ôl holi Foden, cafodd Ms Roberts wybod nad oedd digon o dystiolaeth i gymryd camau pellach.
"Be' dwi ddim yn ei ddeall ydi pam roedd yna ddigon o dystiolaeth i'r heddlu ddod ata i, ond wedyn, ar ôl cyfweliad Foden gyda'i gyfreithiwr, bod y mater wedi mynd i ffwrdd."
Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae hi'n dweud nad ydi hi wedi derbyn unrhyw esboniad gan unrhyw un.
Mae Ms Roberts yn dweud ei bod yn aml yn "teimlo'n euog" am beidio parhau i fynd ar ôl ei hachos yn erbyn Foden, ond ar y pryd y byddai cymryd camau pellach yn rhy gostus.
"Petawn i wedi gwneud mwy, a allwn i fod wedi arbed y merched yna? Allwn i fod wedi helpu rhywun petawn i wedi trio yn galetach?"
'Credu ei fod yn well na phawb arall'
Dywedodd Ms Roberts iddi ddarganfod bod Cyngor Gwynedd wedi adolygu ymddygiad Foden yn 2019, ac iddi gael sioc o ddarganfod y gallai fod mor ymosodol tuag at ei mab mor fuan ar ôl adolygiad swyddogol.
"Fe fyddech chi'n credu y byddai ar brawf ac o dan oruchwyliaeth, pam nad oedden nhw'n cadw golwg arno?"
Mewn gwrthgyferbyniad i hynny, cafodd ei mab ei roi ar brawf am dri mis pan gafodd ei atal o Ysgol Friars.
"Tri mis i fachgen 11 oed, ond doedd neb yn ei wylio fo [Foden]," meddai.
Gan ddisgrifio Foden fel dyn "haerllug", dywedodd Ms Roberts: "Mae o'n credu ei fod yn well na phawb arall, mae o'n credu ei fod uwchben popeth.
"Roedd Foden yn credu y gallai o gamu drosta' i, ond wnaeth o ddim. Fe wnes i frwydro."

Mae Morfudd Mill yn dweud iddi brofi'r "math gwaethaf o fwlio y gallai unrhyw un ei ddychmygu" gan Neil Foden tra roedd hi'n athrawes yn Ysgol Friars
Mae cyn-athrawes fathemateg a gafodd ei bwlio gan Foden yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i gam-drin plant hanesyddol yn Ysgol Friars.
Roedd Morfudd Mill yn athrawes fathemateg yn yr ysgol am bron i 30 mlynedd, ac mae'n rhybuddio bod y cam-drin yn mynd tu hwnt i'w phrofiadau personol ei hun.
"Mae 'na fathau eraill o gamdriniaeth - meddyliol, seicolegol, corfforol.
"Roedd o'n cam-drin bechgyn yn enwedig - o'r cychwyn cyntaf o'i yrfa yn gorfforol," meddai.
Mae adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant yn nodi mai bechgyn oedd "dioddefwyr grym gormodol" Foden wrth iddo ddefnyddio "dulliau atal".
Er ei bod yn croesawu argymhellion yr adolygiad, tydi Morfudd Mill ddim yn credu bod yr adroddiad yn mynd yn ddigon pell.
"Mae 'na bedwar degawd o ddioddefwyr, ac mae yna lot o gwestiynau yn dal heb eu hateb.
"Yn ddelfrydol dwi'n meddwl mai ymchwiliad cyhoeddus fydda'n bodloni lot o bobl."
'Pa bris 'da chi'n rhoi ar fywyd person ifanc?'
Disgrifiodd Ms Mill ei phrofiadau o dan reolaeth Foden fel "y math gwaethaf o fwlio y gallai unrhyw un ei ddychmygu".
Mae hi'n credu iddo gynllwynio yn ei herbyn am flynyddoedd, gan ei gwahardd o'i gwaith ddwywaith.
Er iddi ennill apêl a dychwelyd i'r ysgol am gyfnod byr, gadawodd Ysgol Friars yn 2009 oherwydd y pwysau gwaith ychwanegol a roddodd Foden arni.
Hyd yn oed ar ôl gadael mae'n dweud iddi gael ei thargedu gan Foden.
Collodd Morfudd Mill "lawer o'i bywyd" meddai, ac mi "wnaeth Foden yn siŵr na faswn i'n cael swydd yn 'unlle arall".
Ar ôl gwneud cais am dros 100 o swyddi, mae hi'n credu bod Foden wedi rhybuddio eraill rhag ei chyflogi drwy ddarparu geirda diffygiol.
Gan gydnabod y gallai rhai weld ymchwiliad cyhoeddus fel proses gostus, mae hi'n pwysleisio bod rhaid i ddiogelwch plant ddod yn gyntaf.
"Pa bris 'da chi'n rhoi ar fywyd person ifanc sydd i fod yn ddiogel yn eu gwaith bob dydd yn yr ysgol?
"Mae gennym ni ddyletswydd fel athrawon a rhieni i ofalu am y plant achos nhw ydi ein dyfodol ni."
Ychwanegodd ei bod yn benderfynol o godi ei llais er mwyn gwneud yn siŵr bod "plant a phlant ein plant yn saff o ddydd i ddydd dan yr awdurdodau sydd wedi troi eu cefnau yn y gorffennol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.