'Dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli' i atal y pedoffeil Neil Foden

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros bedair blynedd

  • Cyhoeddwyd

Collodd awdurdodau dros 50 o gyfleoedd i atal prifathro wnaeth ymosod yn rhywiol ar ferched dros nifer o flynyddoedd, yn ôl adolygiad.

Cafodd Neil Foden - prifathro yn Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd, ac am gyfnod pennaeth strategol mewn ysgol arall yn y sir - ei garcharu am 17 mlynedd fis Gorffennaf 2024 am gam-drin pedair merch yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Yn ôl Jan Pickles, arweinydd yr adolygiad ymarfer plant, roedd Foden yn "bedoffeil soffistigedig" a "greodd ddiwylliant oedd yn galluogi iddo droseddu yn gwbl agored".

Dywedodd bod "gwendidau mawr" o fewn y trefniadau diogelu "o fewn yr ysgol, ymhlith y llywodraethwyr ac o fewn yr awdurdod lleol".

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at honiad hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i 1979, yn fuan ar ôl i Foden gymhwyso fel athro.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy'n cael eu hamlygu" ac yn "ymddiheuro'n gwbl ddidwyll" i'r dioddefwyr.

52 o gyfleoedd i'w atal

Mewn adroddiad 108 tudalen ac hynod feirniadol a gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, mae'n nodi 52 o gyfleoedd gafodd eu methu i atal Foden.

Mae'n nodi fod Foden yn "ffigwr pwerus" o fewn y gymuned addysg yng Nghymru a oedd wedi creu enw iddo'i hun fel "bwli", ac yn ogystal â cham-drin merched yn rhywiol, roedd hefyd yn defnyddio grym gormodol ar fechgyn.

Yn 2018, cymerodd Foden rôl yr arweinydd diogelu a bugeiliol yn Ysgol Friars, er nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau, arbenigedd na phrofiad yn y maes hwn.

Mae'r adroddiad yn nodi fod rhybuddion a gafodd eu codi dro ar ôl tro am Foden, naill ai wedi'u hanwybyddu neu heb gael ymateb digonol.

Cafodd ei arestio ym mis Medi 2023 ar ôl i un o'i ddioddefwyr ddangos llun ohonyn nhw gyda Foden a sgrinluniau o negeseuon testun rhywiol i oedolyn arall.

Neil Foden yn cael ei dywys i'r llysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu yn 2024

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar gyfnod rhwng Ionawr 2017 a Medi 2023, ac yn tynnu sylw at nifer o adegau pan gafodd pryderon eu codi ynghylch cyswllt amhriodol Foden â merched, gan gynnwys adegau cafodd ei weld ar ei ben ei hun gyda nhw, yn rhoi lifft iddyn nhw yn ei gar ac yn mynychu apwyntiadau meddygol gyda nhw.

Mae'r adroddiad yn dweud eu bod nhw i gyd yn "gyfleoedd a gollwyd" i gymryd camau yn erbyn Foden.

Mae'r adolygiad yn crybwyll un cyfarfod ym mis Ebrill 2019 pan ddaeth pedwar uwch swyddog Cyngor Gwynedd o adrannau addysg, plant a theuluoedd a chyfreithiol ynghyd i drafod materion ynghylch dau blentyn oedd yn agored i niwed.

Roedd y materion yn cynnwys eu bod wedi cael eu gweld ar eu pennau eu hunain gyda Foden am gyfnodau hir, wedi cael eu gyrru adref ar eu pennau eu hunain ganddo, a bod un ferch wedi cael ei gweld gyda'i phen ar ysgwydd Foden.

Ond roedd hon yn drafodaeth ynghylch ymddygiad proffesiynol, nid amddiffyn plant, a ni chafodd unrhyw gysylltiad ei wneud â'r ffaith fod un o'r plant eisoes wedi bod yn destun pryderon a gafodd eu codi am Foden y flwyddyn flaenorol.

Ar achlysur arall, mae'r adroddiad yn nodi bod Foden wedi mynd gyda phlentyn i apwyntiad gynaecolegol yn yr ysbyty ym mis Ebrill 2019 heb i riant y plentyn fod yn ymwybodol o hynny.

Y misoedd canlynol, aeth Foden gyda'r plentyn i apwyntiad ysbyty arall, gan arwain at y clinigwr yn ymgynghori â thîm diogelu y bwrdd iechyd.

Cafodd llythyr ei anfon gan y clinigwr ym mis Mai 2019, yn dweud eu bod yn deall bod y plentyn yn "treulio llawer o amser gyda Foden yn ei ystafell".

Cafodd y llythyr ei anfon at y plentyn drwy law'r ysgol ac roedd wedi'i anfon at Foden.

Cafwyd hyd i'r llythyr yn hen swyddfa Foden mewn cabinet heb ei gloi - dros bum mlynedd yn ddiweddarach.

Mae'r adroddiad yn nodi na chafodd y risg i'r plentyn ei ystyried a bod hwn yn gyfle oedd wedi'i golli.

'Erchyll' bod methiannau'n parhau heddiw

Ar fwy nag un achlysur cododd yr NSPCC bryderon ynghylch "ffiniau proffesiynol amhriodol" Foden, gydag un gŵyn am ei berthynas â phlentyn yn 2020 yn cael ei gwrthod gan Gyngor Gwynedd fel un "heb gyrraedd y trothwy" i fod yn fater amddiffyn plant.

Mae'r adroddiad yn cymharu'r methiannau diogelu a ddaeth i'r amlwg yn achos Foden ag ymchwiliad Clywch a wnaeth amlygu troseddau pedoffeil arall - yr athro ac awdur John Owen yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ym Mhontypridd dros 20 mlynedd yn ôl.

Mae'n nodi pa mor "erchyll" ydy'r ffaith bod yr un materion a gafodd eu nodi yn yr ymchwiliad hwnnw, ynglŷn â methiannau i ddilyn argymhellion am fonitro ymddygiad staff a pholisïau diogelu, yn parhau heddiw.

Disgrifiad,

Ymddiheurodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys "o waelod calon" i'r dioddefwyr

Dywedodd arweinydd yr adolygiad fod diogelu yn "gyfrifoldeb amlasiantaethol" sy'n galw am gydweithio i "gyfrannu at gadw plant yn ddiogel".

Ychwanegodd Jan Pickles: "Mae gennym ni fel oedolion cyfrifol ddyletswydd... i weithredu er mwyn amddiffyn plant, waeth beth fo'r risgiau i'n swyddi. Yn Ysgol Friars, ni wnaeth hyn ddigwydd."

Ond dywedodd mai bwriad yr adolygiad yw dysgu ac nid rhoi bai, a bod y "cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd i'r bobl ifanc yma, oedd eisoes yn cael heriau, gyda Neil Foden".

Estynodd Jenny Williams, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ei chydymdeimlad i ddioddefwyr Foden gan ddweud fod y bwrdd "eisiau cydnabod eu dewrder a'u cryfder wrth gymryd rhan, er mwyn sicrhau bod pobl eraill yn ddiogel yn y dyfodol".

Beth ydy'r argymhellion?

Mae'r adolygiad yn galw am strategaeth genedlaethol i sicrhau fod diogelu yn cael ei addysgu a'i oruchwylio yn gyson ar draws Cymru.

Mae hefyd yn gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys:

  • sicrhau bod llais y plentyn bob amser yn cael ei glywed a bod barn a dymuniadau y plentyn mewn ymchwiliadau diogelu yn cael eu cofnodi a'u parchu bob amser;

  • bod angen diweddaru canllawiau ar ymdrin â honiadau yn erbyn staff ysgolion, a bod rhaid i asiantaethau gydweithio'n gyson.

Mae hefyd yn galw am gydweithio cryfach rhwng asiantaethau ac awdurdodau addysg lleol, byrddau diogelu a'r heddlu, ac yn dweud y dylai llywodraethwyr ysgolion yn ogystal â staff gael eu hyfforddi pan mae'n dod i amddiffyn plant a thrin cwynion.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu'r cwricwlwm "i sicrhau bod disgyblion yn cael y wybodaeth i ddeall ymddygiadau meithrin perthynas amhriodol gan oedolyn" a gwybod sut i roi gwybod "yn ddiogel" am hyn.

Derbyniodd bwrdd iechyd gogledd Cymru argymhellion yn yr adroddiad hefyd, gan gynnwys argymhelliad i "roi sicrwydd... bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn chwilio am gyngor diogelu pan fydd plentyn yn mynychu apwyntiad yng nghwmni trydydd parti heb ganiatâd rhieni".

Manylion 'wedi ein ffieiddio'

Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Lynne Neagle fod y methiannau o fewn yr ysgol dan sylw a Chyngor Gwynedd yn "syfrdanol, yn siomedig ac yn ofidus" a chyhoeddodd y byddai'n cadeirio grŵp i oruchwylio'r camau a gymerir gan y cyngor mewn ymateb i'r adroddiad.

Rhoddodd deyrnged i ddioddefwyr Foden am y "dewrder rhyfeddol" a ddangoswyd ganddynt, gan ymddiheuro am y cam-drin a'r ffaith "eu bod wedi cael eu methu gan gynifer o'r bobl a'r sefydliadau a ddylai fod wedi'u hamddiffyn".

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys bod yr achos "ysgytwol" yma wedi "achosi gymaint o niwed i fywydau plant", a bod y cyngor "wedi ein ffieiddio gan y manylion sydd wedi eu hamlygu".

Dywedodd ei bod yn "cymryd cyfrifoldeb am y camgymeriadau a'r cyfleoedd a fethwyd", gan "ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef ac yn talu teyrnged i'w dewrder a'u cryfder".

Mae'r gwaith o adfer y sefyllfa wedi dechrau, meddai, a bydd y cyngor yn "mynd drwy'r adroddiad efo crib mân i adnabod y camau pellach sydd angen eu cymryd".

"Ni fyddwn yn cuddio o'n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant – nawr ac i'r dyfodol."

Disgrifiad,

Dywedodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, ei bod yn bwysig bod yr ymchwiliad yn annibynnol

Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd a Phennaeth Dros Dro Ysgol Friars eu bod yn "croesawu bod yr adolygiad manwl hwn wedi ei gynnal o weithdrefnau sefydliadau – gan gynnwys yr ysgol – a bod gwersi yn cael eu dysgu a fydd yn cryfhau arferion diogelu ar draws Cymru".

"Fel ysgol, ni fyddwn byth yn colli golwg ar y troseddau erchyll a gyflawnwyd, nac ar gryfder y rhai a safodd i fyny ac a siaradodd."

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud eu bod yn "flin iawn" am yr hyn mae'r dioddefwyr wedi ei brofi, a bod diogelu plant yn "flaenoriaeth sylfaenol".

Dywedodd Angela Wood, cyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth, y byddai'r bwrdd yn "derbyn a gweithredu'r" argymhellion, a bod y gwaith "eisoes wedi dechrau".

Ychwanegodd y byddai'r bwrdd yn ymgysylltu'n llawn gyda'r bwrdd diogelu, ac yn "herio ein hunain i ymdrechu'n barhaus i wella ein hymyriadau diogelu ledled y sefydliad".

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig