Siddiqi: Arestio dyn yn India

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei lofruddio ym mis Ebrill y llynedd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Aamir Siddiqi o Gaerdydd wedi arestio dyn yn India.

Roedd yr heddlu wedi bod yn awyddus i holi Mohammed Ali Edge mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth a daeth cadarnhad fod dyn 33 oed o ardal Glanyrafon, Caerdydd, wedi cael ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio ac o fod â dogfennau ffug yn ei feddiant.

Mae teulu Mr Siddiqi, sy'n parhau i gael cefnogaeth swyddog cyswllt teulu, wedi cael gwybod am y datblygiad.

Ac mae Heddlu De Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau yn India mewn cysylltiad â phrosesau estraddodi.

Yn y cyfamser, mae achos llofruddiaeth Mr Siddiqi wedi dechrau o'r newydd yn Llys y Goron y brifddinas.

Rhyddhau

Roedd aelodau'r rheithgor gwreiddiol wedi eu rhyddhau.

Mae Jason Richards, 37 oed, a Ben Hope, 38 oed, y ddau o Gaerdydd, yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Fe gafodd rhieni Aamir - ei dad Iqbal, 68 oed, a'i fam Parveen, 55 oed - eu hanafu wrth geisio helpu eu mab.