Ocsiwn yn America i gefnogi Apêl Eryri

  • Cyhoeddwyd
Llyndy Isaf, Nant GwynantFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ceisio codi £1 miliwn i brynu fferm Llyndy Isaf

Mae ocsiwn yn cael ei gynnal yn Efrog Newydd ddydd Mercher i godi arian at apêl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu fferm Llyndy Isaf yn Eryri.

Cwta dri mis sydd gan yr ymddiriedolaeth i godi'r £1 miliwn sydd ei angen i brynu'r fferm fynydd 600 erw ar lan Llyn Dinas ger Nant Gwynant.

Ddechrau'r mis daeth cyhoeddiad fod yr apêl £150,000 yn brin o'r nod o £1 miliwn.

Mae'r ocsiwn wedi cael ei chynnal gan Sefydliad y Royal Oak, chwaer sefydliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn America, fel rhan o gala flynyddol.

Gwobrau

Ymhlith y gwobrau mae gwyliau dwy noson mewn gwesty moethus yn Eryri, a dau docyn arbennig i weld yr actor Matthew Rhys mewn cynhyrchiad Broadway o'r ddrama 'Look Back in Anger', yn theatr Laura Pels yn Efrog Newydd.

Bydd yr enillydd hefyd yn cael cyfle i gwrdd â'r actor ac aelodau eraill y cast.

Ym mis Mawrth fe lansiodd Matthew Rhys ymgyrch i godi'r £1 miliwn i brynu Llyndy Isaf.

Fe fydd yr arian, yn ôl yr Ymddiriedolaeth, yn sicrhau dyfodol y fferm 600 erw ar lan Llyn Dinas ger Nant Gwynant.

Yn ogystal â Rhys, mae'r actorion Ioan Gruffudd a Catherine Zeta Jones hefyd yn cefnogi'r apêl.

Daw'r ymgyrch i godi'r £1 miliwn cyn diwedd y flwyddyn 13 mlynedd ers i Syr Anthony Hopkins gyfrannu swm sylweddol at apêl flaenorol yr Ymddiriedolaeth yn 1988 i "Arbed Yr Wyddfa" a phrynu stad Hafod y Llan am £3.5 miliwn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol