Boomerang + i ddiswyddo 20
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni teledu Boomerang +, sy'n cyflogi 200, wedi cyhoeddi y bydd 20 yn colli eu gwaith.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni fod telerau cynllun diswyddo wedi eu cyhoeddi.
Bydd cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod yn dechrau'r wythnos nesa.
"Mae'n gam anffodus," meddai llefarydd, "ond daw hyn mewn ymateb i doriadau rhaglenni gan S4C a'r BBC."
Ac mae Boomerang+ yn berchen ar nifer o gwmnïau teledu, gan gynnwys Fflic, Alfresco ac Apollo.