Gavin Henson yn ymuno â Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gavin HensonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Henson wedi arwyddo cytundeb wyth mis

Mae Gavin Henson yn dychwelyd i Gymru ar ôl cytuno i ymuno â Gleision Caerdydd.

Mae'r chwaraewr 29 oed wedi bod yn chwilio am glwb ers i Toulon benderfynu peidio ag adnewyddu ei gytundeb y tymor diwethaf.

Mae o wedi arwyddo cytundeb wyth mis gyda thîm y brifddinas.

Dydd Mawrth dywedodd ei asiant, Arruga Sport, ar wefan Twitter: "Llongyfarchiadau i Gavin Henson am arwyddo gyda Gleision Caerdydd ... newyddion gwych!" cyn i'r clwb gadarnhau'r newyddion.

"Dwi wedi bod yn dweud fy mod eisiau chwarae yng Nghymru eto ac mae'n gyfle gwych gan y Gleision.

"Dwi eisiau gwneud popeth posib i'w gwneud yn hapus a mwynhau'r rygbi.

"Dwi'n falch fy mod wedi arwyddo yma."

Y gred yw y bydd o bosib yn chwarae yn safle'r maswr.

Deellir bod Henson wedi bod yn trafod gyda'i gyn-glwb, Y Gweilch, er bod y clwb wedi dweud bod y trafodaethau'n "fater o gwrteisi".

Anaf

Roedd yng ngharfan Cymru cyn Pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd a chwarae i Gymru am y tro cyntaf mewn dwy flynedd yn erbyn Y Barbariaid, dolen allanol ym mis Mehefin.

Chwaraeodd ar ddechrau'r gêm lle trechodd Cymru Loegr 19-9, dolen allanol yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Awst cyn cael ei anafu.

Roedd yr anaf i'w arddwn yn golygu nad oedd ar gael i fynd i Seland Newydd.

Bu am gyfnod byr gyda'r Saraseniaid ar ôl cael ei ryddhau gan y Gweilch ym mis Hydref 2010.

Dywedodd mai "rhesymau personol" oedd y rheswm am symud i Lundain.

Er ei fod yn ystyried ei hun yn faswr, mae wedi ennill y rhan fwyaf o'i 33 o gapiau i Gymru fel canolwr a chefnwr.

Cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod yn 2005 i Seland Newydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol