Cofiwch, cofiwch... am gyfaill Cymreig Guto Ffowc
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Mae pawb yn cofio am Guto Ffowc a'i gynllwyn i ladd Brenin Iago I drwy ffrwydro Tŷ'r Arglwyddi ar 5 Tachwedd 1605.
Ond roedd mwy o enwau yn rhan o Gynllwyn y Powdr Gwn na dim ond Guto, ac roedd un ohonyn nhw yn Gymro...
Roedd Huw Owen o Blas Du, Eifionydd.
Roedd yn Babydd, ac yn teimlo'n gryf dros droi Prydain yn ôl yn wlad Gatholig - rhywbeth oedd wedi cael ei golli o dan arweinyddiaeth Elizabeth I.
Yn 1571, roedd yn rhan fawr o Gynllwyn Ridolfi i lofruddio'r frenhines, a rhoi Mari I o'r Alban ar yr orsedd yn ei lle. Ond methiant fu'r cynllwyn, ac er bod rhai o'i gyd-gynllwynwyr wedi cael eu dienyddio, roedd Huw wedi ffoi i Sbaen ac yna i Frwsel.
Yn ystod ei amser yn Ewrop, roedd yn gweithio gydag alltudion Catholig eraill, yn ysbïwr dylanwadol i frenin Sbaen, ac hefyd yn swyddog ar faterion Lloegr i Lywodraeth yr Iseldiroedd.
Roedd mwy o gynllwynion i geisio cael gwared ar Elizabeth I, ac roedd Huw wrth galon pob un ohonyn nhw, o ddiogelwch ei gartref dros y dŵr.

Roedd Huw Owen yn rhan o gynllwynion i ladd Elizabeth I a Iago I
Daeth Iago I i'r orsedd yn 1603, a dechreuodd pobl gynllwynio sut i gael gwared arno.
Roedd Huw Owen yng nghanol y cwbl ac yn rhan hanfodol o'r cynlluniau. Roedd o wedi cyflwyno Guto Ffowc i weddill y criw - mae sôn fod Ffowc wedi bod yn was iddo yn ystod ei gyfnod ym Mrwsel.
Ychydig o ddyddiau cyn y diwrnod mawr, cafodd yr awdurdodau eu rhybuddio a methodd y cynllwyn. Cafodd nifer o'r cynllwynwyr eu dal a'u cosbi, ond roedd Huw Owen yn ddiogel ar y cyfandir.
Cafodd ei enwi yn yr achos llys, a'i ddisgrifio fel 'y dyn oedd â'i fys ym mhob brad yn ystod y blynyddoedd diwethaf'.
Roedd Llywodraeth Prydain yn benderfynol o gael gafael ar y bradwr. Ers 1574 roedd yr awdurdodau wedi ceisio perswadio llywodraethau tramor i'w anfon yn ôl, ond roedden nhw'n cael eu gwrthod bob tro.
Bu farw Huw Owen yn y Coleg Seisnig yn Rhufain ar 30 Mai 1618.
Llwyddodd y Cymro cynllwyngar, oedd wedi bod yn rhan o gymaint o gynlluniau dros y blynyddoedd, i lithro drwy'r rhwyd unwaith ac am byth.
Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Tachwedd 2017
Geirfa
cynllwyn / plot
lladd / to kill
ffrwydro / explode
Tŷ'r Arglwyddi / House of Lords
Cynllwyn y Powdr Gwn / Gunpowder Plot
Pabydd / Catholic
arweinyddiaeth / leadership
llofruddio / to murder
Yr Alban / Scotland
gorsedd / throne
methiant / failure
cyd-gynllwynwyr / co-conspirators
dienyddio / execute
ffoi / escape
Brwsel / Brussels
alltudion / exiles
ysbïwr / spy
dylanwadol / influential
swyddog / officer
materion / matters
Llywodraeth / Government
Yr Iseldiroedd / Netherlands
cael gwared ar / get rid of
wrth galon / at the heart
diogelwch/ safety
hanfodol / essential
cynlluniau / plans
cyflwyno / to introduce
gwas / servant
awdurdodau / authorities
rhybuddio / to warn
cosbi / to punish
diogel / safe
cyfandir / continent
achos llys / court case
disgrifio / to describe
brad / treachery
penderfynol / determined
perswadio / to persuade
tramor / foreign
gwrthod / to refuse
Coleg Seisnig / English College
Rhufain / Rome
llwyddodd / succeeded
cynllwyngar / scheming
llithro drwy'r rhwyd / to slip through the net
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Hydref

- Cyhoeddwyd15 Medi

- Cyhoeddwyd30 Medi
