Gyrrwr lorri wedi beio pwl o dagu am achosi damwain angheuol

Dau swyddog heddlu yn edrych ar y niwed i un o'r ddwy lorri oedd yn  y gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Fe wrthdarodd y ddwy lorri ei gilydd ar stad ddiwydiannol yng Nghaerffili yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Fe gafodd honiad gyrrwr lorri mai pwl o dagu wnaeth achosi iddo wyro i ochr anghywir y ffordd a tharo lorri arall ei wrthbrofi gan sain ei recordiad dashcam.

Fe amlygodd y lluniau o gerbyd Mariusz Korkosz ei fod wedi camyrru ar stad ddiwydiannol yng Nghaerffili am bron i 20 eiliad, cyn mynd benben â cherbyd dyn lleol, Gary Rees, a fu farw maes o law.

Doedd Korkosz, oedd yn gweithio i gwmni cludiant o Wlad Pwyl, heb sylwi bod y camera'n recordio sain, ond fe fynnodd y dylai fod wedi dangos pwl drwg o dagu a achosodd iddo "lewygu" a drysu.

Datgelodd ymchwiliad heddlu, a gafodd ei ffilmio gan raglen The Crash Detectives, mai'r unig beth oedd i'w glywed yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad oedd y gyrrwr yn rhegi.

Fe gafodd ei garcharu am 20 o wythnosau.

Gary Rees, dyn moel mewn siwmper ddu, yn eistedd o flaen gwely - mae dau gi yn eistedd ar y gwely naill ochr iddo.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gary Rees yn ffigwr adnabyddus yng Nghaerffili a bu farw ychydig dros dair wythnos wedi'r gwrthdrawiad

Roedd grym y gwrthdrawiad yn enfawr, medd yr ymchwilydd fforensig Dean Burnett o Heddlu Gwent.

"I bob pwrpas, roedd fel petai un o'r cerbydau, neu'r ddau, wedi taro wal frics - wal frics sydd ddim yn chwalu, daeth y ddau i stop yn syth," esboniodd.

Bu'n rhaid torri Mr Rees, oedd yn 55 oed ac yn dad i ddau, yn rhydd o'i gerbyd wedi'r gwrthdrawiad ym mis Gorffennaf 2022.

Fe gafodd driniaeth i'w ben a'i goes ac roedd yn ymddangos ei fod yn dechrau gwella ond bu farw dair wythnos yn ddiweddarach.

Cafodd ei ddisgrifio fel "cymeriad mawr, chwedlonol" yng Nghaerffili, ac yn ôl ei deulu, roedd yn yrrwr campus oedd heb gael damwain mewn 30 mlynedd ar y ffyrdd.

Hunlun o Gary a Hayley Rees, y ddau yn eistedd mewn carFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed gweddw Gary Rees, Hayley, nad oedd yn dal dig wedi'r gwrthdrawiad ac nad oedd eisiau gweld Korkosz yn cael ei garcharu

Yn yr oriau wedi'r gwrthdrawiad, dywedodd wrth ei wraig, Hayley Rees "doedd dim gobaith" osgoi cael ei daro, er iddo geisio gwyro'r lorri o'r ffordd.

Y cyfan yr oedd yn ei gofio, meddai, oedd "rhoi fy nwylo o flaen fy wyneb".

Ond mae lluniau dashcam y ddwy lori, a dadansoddiad wedi'r digwyddiad, wedi dangos ei fod wedi ymateb yn syth o weld lorri Korkosz yn teithio'n syth ato ar ôl troi cornel.

Amlygodd goleuadau rhybudd ei lori, a marciau ar wyneb y ffordd, fod Mr Rees wedi pwyso ar y brêc ar frys, ac mae'r lluniau'n dangos ei fod wedi ceisio symud i ochr chwith y ffordd.

Archwilwyr yn asesu marciau teiars fel rhan o'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Daeth crwner i'r casgliad bod Gary Rees wedi marw o ganlyniad i gymhlethdodau'r anafiadau a gafodd yn y gwrthdrawiad

Dywedodd Korkosz, 46, wrth yr heddlu nad oedd yn teimlo'n dda yn ystod y daith i Gymru, ond ei fod wedi parhau i gludo nwyddau i Stad Ddiwydiannol Penyfan.

Dywedodd ei fod wedi cael pyliau o dagu cyn mynd o'r stad i'r ffordd fawr.

Roedd synau'r injan, y teclyn sat nav a thician y dangosydd (indicator) i'w clywed yn y recordiad dashcam, ond dim tagu.

Rhegodd Korkosz wrth sylweddoli bod y gwrthdrawiad ar fin digwydd.

'Doedd Gary ddim mo'yn iddo fynd i'r carchar'

Yn ôl Hayley Rees, ni wnaeth ei gŵr ddal dig - yn hytrach roedd yn drugarog tuag at gyd-yrrwr.

"Dywedodd Gary wrtha'i nad oedd wedi gwneud e ar bwrpas, a doedd e ddim mo'yn iddo fynd i'r carchar," meddai.

"Roedd yr heddlu wedi dweud wrtho bod ganddo deulu a phlant. Rwy'n ei gofio'n dweud 'Beth amdanyn nhw?

"Dydyn nhw ddim yn gwybod ble mae eu tad. Bydd e mewn carchar yn y DU a sai'n credu bod e'n siarad Saesneg - fydd hynny ddim yn braf iawn'."

Fe lynodd Korkosz i'w honiad ond fe blediodd yn euog i achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru'n beryglus, a chafodd ei garcharu am 20 wythnos.

Dywedodd Ms Rees fod ei gŵr "wedi mynd yn dawel iawn" pan dorrodd y newyddion iddo.

"Roedd wir wedi gofidio. Roedd dagrau yn ei lygad. Dywedodd 'rhaid i mi orwedd'... nes i aros yno am ychydig oriau a doedd e ddim mo'yn siarad amdano."

Tair wythnos a thridiau wedi'r gwrthdrawiad, fe lewygodd Mr Rees yn ei gartref a marw.

Daeth rhannau o Gaerffili i stop ar ddiwrnod ei angladd, a bu'n rhaid cynnal rhan o'r achlysur yng Nghlwb Rygbi Bedwas gan fod gymaint o bobl eisiau bod yno.

Daeth crwner i'r casgliad bod Mr Rees wedi marw o ganlyniad i gymhlethdodau'r anafiadau a gafodd yn y gwrthdrawiad.

Ond erbyn hynny roedd Korkosz wedi ei estraddodi wedi i'w ddedfryd ddod i ben a doedd dim camau pellach yn ei erbyn.