Glaw trwm yn achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr

Llifogydd y tu allan i'r Cresselly Arms ym Mhontargothi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llifogydd difrifol ym Mhontargothi, Sir Gaerfyrddin nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd a thrafferthion mewn sawl man yng Nghymru.

Fore Mercher roedd Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol wedi cyhoeddi 17 o rybuddion llifogydd yn y de orllewin, yn ogystal â 42 o rybuddion 'byddwch yn barod' ar hyd y wlad.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm yn ne a gorllewin Cymru rhwng 12:00 dydd Mawrth a 08:00 fore Mercher.

Mae'r tywydd garw wedi arwain at gau ffyrdd, tra bod nifer o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu canslo.

llifogyddFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers | johnm
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 17 rhybudd llifogydd yn parhau mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru fore Mercher

Mae'r amodau ar ffyrdd yn siroedd Penfro, Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys wedi'u disgrifio fel rhai peryglus mewn mannau.

Oherwydd llifogydd mae'r A483 yng Nghwmbwrla, Abertawe wedi'i chau rhwng y gylchfan a Rhodfa Gors.

Nos Fawrth dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro bod llawer o ffyrdd ar gau yn sgil y glaw trwm a bod Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gorfod achub sawl gyrrwr o'u cerbydau.

Does yna ddim trenau yn teithio rhwng Hendy-gwyn a Chaerfyrddin na thrwy Bontarddulais.

Y Gwasanaeth Tân yn rhoi cymorth i yrrwyr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r Gwasanaeth Tân achub sawl gyrrwr o'u cerbydau nos Fawrth

Roedd yna lifogydd yn ardal Cwmbwrla yn Abertawe nos Fawrth, ac ar un adeg roedd nifer o gartrefi heb drydan.

Dywedodd Vicky Sheffield o dafarn The Gatehouse yng Nghwmbwrla, fod y llifogydd yn "waeth" nag yr oeddent chwe wythnos yn ôl.

"Mewn 26 mlynedd nid yw hyn erioed wedi digwydd o'r blaen ac mae bellach wedi digwydd ddwywaith mewn chwe wythnos. Mae'n eithaf brawychus."

Nos Fawrth dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wella'r sefyllfa o gwmpas cylchfan Cwmbwrla.

"Mae'r cylfat o dan glwb Cwmfelin yn dal i fod wedi blocio a dyma yw'r brif broblem," medd llefarydd.

"Yn y cyfamser, rydym wedi dod ag offer pwmpio i mewn i gynorthwyo llif y dŵr.

"Fodd bynnag, mae glaw trwm a pharhaus yn golygu efallai bod gormod o ddŵr i'r offer pwmpio ac efallai y bydd yn rhaid cau'r ffordd nes bod y gwaith trwsio wedi digwydd.

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl."

Pontargothi
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd perchennog tafarn y Cresselly Arms ym Mhontargothi, Jon Davison (dde) fod y llifogydd wedi bod yn "ofnadwy"

Ymhellach i'r gorllewin, mae Jon Davison, cyd-berchennog tafarn y Cresselly Arms ym Mhontargothi yn cyfrif y gost ar ôl i ddŵr lifo i'w dafarn.

"Mae'n syfrdanol, beth allwch chi ei ddweud? Mae'n ofnadwy," meddai.

"Mae boncyffion yn pentyrru o dan y bont bob tro y cawn law trwm.

"Rydyn ni wedi paratoi ar gyfer hyn, i bobl yn y tai ar draws y ffordd, mae'n ofnadwy," ychwanegodd.

Esboniodd hefyd bod y coed wedi malu rhai o ffenestri'r dafarn.

Pynciau cysylltiedig