Aamir Siddiqi: Tad yn disgrifio'r farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae tad welodd ei fab yn cael ei drywanu wrth iddo agor y drws i ddau ddyn wedi dweud nad yw'n gwybod pam y byddai rhywun am ei ladd.
Bu farw Aamir Siddiqi, 17 oed, yn ei gartref yn ardal y Rhath, Caerdydd, yn 2010.
Fe wyliodd rheithgor Llys y Goron Caerdydd recordiad o gyfweliad gyda Sheikh Iqbal Ahmad, tad Aamir.
Mae Ben Hope, 38 oed, a Jason Richards, 37 oed, yn gwadu llofruddiaeth a cheisio llofruddio ac wedi beio ei gilydd.
Yn ei gyfweliad dywedodd tad Aamir, oedd yn disgrifio eiliadau olaf bywyd ei fab, fod ei fab wedi bod yn astudio yn ei ystafell wely.
Fe ganodd cloch y drws ac fe aeth y tad i'w ateb ond roedd Aamir wedi cyrraedd o'i flaen.
Roedd y ddau yn disgwyl athro Koran ond ar garreg y drws roedd dau ddyn yn gwisgo mygydau.
Udo
Dywedodd y tad fod y ddau wedi dechrau ymosod ar Aamir yn syth.
Ceisiodd ei fab ddianc a llwyddodd i redeg drwy'r tŷ i'r ystafell fwyta ond dilynodd un o'r dynion ef a'i drywanu eto.
Dywedodd y tad fod yr ymosodiad yn frawychus a bod y ddau wedi gwneud sŵn udo uchel gydol yr ymosodiad.
Hefyd dywedodd iddo lwyddo i ddal un o'r dynion yn erbyn wal ond ei fod wedi dianc a'i dorri gyda chyllell.
Y cyfnod aros am help wedi'r ymosodiad oedd y gwaethaf yn ei fywyd, meddai.
Roedd ei ddwy ferch yn feddygon a thrwy ddefnyddio'r wybodaeth a gafodd ganddyn nhw, fe geisiodd sefydlu a oedd ei fab yn anadlu ai peidio. Doedd e ddim.
Tric
Mae'r rheithgor hefyd wedi clywed recordiad o gyfweliad gyda mam Aamir Siddiqi, Parveen Ahmad.
Dywedodd hithau ei bod yn credu fod rhywrai'n ceisio chwarae tric ar ei mab pan ddaeth dau ddyn yn gwisgo mygydau at y drws.
Ychwanegodd ei bod "wedi colli'r person yr oedd yn ei garu fwyaf" pan gafodd ei hunig fab ei drywanu i farwolaeth ym mis Ebrill 2010.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011