Cynghorau Cymru â stoc sylweddol o halen graeanu

  • Cyhoeddwyd
Stoc o halen graenu yn Llan-ffwyst Sir FynwyFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau Cymru wedi cynyddu eu stoc o halen graeanu

Ar ôl beirniadaeth yn ystod misoedd caled y gaeaf y llynedd mae lefel y graean sydd bellach ar gael gan gynghorau lleol Cymru wedi cyrraedd ei huchaf erioed.

Mae pedwar o'r cynghorau, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent a Sir y Fflint, wedi o leiaf dyblu nifer y graean sydd ar gael wrth gefn - ac mae awdurdodau eraill wedi archebu tunelli'n ychwanegol.

Dywed y corff sy'n cynrychioli cynghorau yng Nghymru bod y lefel yn uchel ond y gallai fod "yn anochel" y byddan nhw'n rhedeg yn isel.

Yr wythnos yma mae'r tywydd wedi oeri er bod disgwyl iddo gynhesu unwaith eto.

Cafodd cynghorau eu beirniadu ar ôl i gyflenwadau brinhau ar ôl eira a rhew ym mis Tachwedd 2010 a barodd am rai wythnosau.

I yrwyr roedd yr amgylchiadau gyrru yn beryglus wrth i awdurdodau lleol gael eu gorfodi i drin ffyrdd yn gynt na'r disgwyl.

Rhannu'r halen

Erbyn y Nadolig, rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod stoc yn prinhau.

Fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru roi £7 miliwn tuag at wella tyllau ffyrdd ac ychwanegu y bydd y stoc halen cenedlaethol yn cael ei rannu rhwng y cynghorau oedd mewn mwy o angen.

Eisoes mae rhai ardaloedd o Gymru wedi gweld rhew ac mae'r cynghorau yn dweud eu bod yn fwy parod i ddelio gyda'r tywydd gaeafol nag yr oedden nhw'r adeg yma'r llynedd.

Dywedodd Cyngor Caerdydd, a gafodd ei feirniadu am eu hymateb i'r eira gwaetha ers 1983, eu bod wedi mwy na dyblu eu stoc o 1,800 tunnell i 4,000 gyda 3,000 arall wedi ei archebu ar gyfer y storfa newydd.

Ond mae apêl ar ysgolion a grwpiau cymunedol i brynu 'cyfarpar eira' am £1,600 er mwyn bod yn barod ar gyfer y tywydd gaeafol wedi methu.

Dim ond 12 o'r 117 ysgol yn y sir wnaeth fanteisio ar y cynnig a dim un meddygfa na grŵp cymunedol yn prynu'r cyfarpar a oedd yn cynnwys dau fin halen graeanu a pheiriant arbennig.

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg bod ganddyn nhw 4,600 tunnell, yr un faint â'r llynedd ond bron i ddwbl y flwyddyn flaenorol sy'n ddigon ar gyfer 80 niwrnod o raeanu.

Dyblu stoc

Cyngor Torfaen sydd wedi cynyddu eu stoc fwya gan storio 58,000 tunnell.

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi prynu nifer o gerbydau bach all gyrraedd strydoedd preswylwyr ac wedi mwy na dyblu eu stoc i 4,500 tunnell.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod awdurdodau mewn sefyllfa gadarn, wedi gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw stoc, ac yn barod ar gyfer y gaeaf.

"Yn anochel, os fydd 'na gyfnodau hir o dywydd caled, o eira yn benodol, fe fydd y stoc yn mynd yn isel," meddai llefarydd.

"Rydym wedi cymryd camau i baratoi ar gyfer y tywydd caled ond dyw hi ddim yn bosib, ar sail cost, i fod â digon o stoc a fydd yn dileu'r risg yn llwyr.

"Fe fydd yr awdurdodau lleol, fel yn y blynyddoedd diwethaf, yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru."

Dywedodd Paul Watters o Gymdeithas Foduro'r AA bod rhai o'r cynghorau wnaeth redeg allan o halen y llynedd wedi paratoi yn well erbyn hyn.

"Os gawn ni aeaf oer, y ffactor allweddol yw am ba mor hir.

"Os gaiff y stoc bresennol ei ddefnyddio, mae 'na drafferthion efo ail archebu...."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol