Siân Reese-Williams: 'S'dim pawb yn drist am beidio cael plant'

Siân Reese-WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

"Ti'n cael pobl yn dweud bod rhaid bod ti'n drist am beidio cael plant a dyw hwnna ddim yn wir am bawb. Bydde fe'n neis i weld mwy o gymeriadau cryf heb blant ar sgrin a ni'n gweld hynny yn Caryl yn Y Golau."

Mae'r actores Siân Reese-Williams wedi dychwelyd i chwarae cymeriad Caryl Huws yng nghyfres Y Golau: Dŵr ar S4C ac yn falch o bortreadu menyw sy' heb gael plant sy'n hapus ei byd.

Meddai mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "Ni'n gweld lot o fenywod canol oed yn chwarae mamau ar y sgrin ond dyw nhw ddim yn lot mwy na hynna.

"S'ym plant gyda fi – dwi wedi penderfynu bod fi ddim rili ishe nhw a 'sei'n drist amdano fe. Dyna beth o'n i moyn 'neud gyda 'mywyd i.

"Ni'n gweld menywod ar sgrin yn galaru ar ôl methu cael plant ac mae wedi troi nhw yn chwerw. Dyw hwnna ddim yn wir am lot o fenywod sy' ddim â phlant, ddim i fi anyway.

"Ac mae Caryl yn cael bywyd llawn – mae hi'n dechrau neud rhywbeth exciting ar yr un pryd mae lot o bobl yn penderfynu cael plant.

"Mae dynion yn gallu bod yn bachelors ond does dim gair tebyg ar gyfer menywod sy' ddim wedi cael plant."

Siân Reese-Williams Ffynhonnell y llun, S4C

Dychwelyd

Siân yw'r unig actor sy'n ailgydio yn ei rôl o gyfres wreiddiol Y Golau ac mae'n chwarae cymeriad digyfaddawd, cymhleth: "Mae Caryl yn mynd drwy math o fetamorffosis, ac roedd hynny'n hynod ddiddorol i'w chwarae.

"Mae'n rhywbeth dwi'n credu bod llawer o bobl ei hoedran hi'n ei brofi, ac nid yw'n rhywbeth ni'n gweld yn aml ar y sgrin - ro'n i wir yn gwerthfawrogi'r cyfle i'w phortreadu.

"Hefyd dydyn ni ddim yn gweld lot o fenywod ar y sgrin sy' ddim yn famau o gwbl yn eu 30au neu 40au hwyr.

"Fel arfer os ydyn ni'n gweld nhw maen nhw'n gymeriadau negyddol - baddies neu mistresses neu bitch bosses a does dim lot o gynhesrwydd iddyn nhw.

"Ar yr un pryd maen nhw ddim yn bwysig i'r stori a ddim yn brif ran."

Nia Roberts, Siân Reese-Williams a Mark Lewis-JonesFfynhonnell y llun, S4C

Roedd cael nifer o fenywod yn y cast ac ar y tîm cynhyrchu yn brofiad arbennig, yn ôl Siân, ac wedi arwain at gymeriadau benywaidd difyr.

Ysgrifennwyd y gyfres newydd gan Regina Moriarty, gyda rhai penodau wedi'u hysgrifennu gan awduron Cymreig benywaidd - Siân Naiomi, Anwen Huws, Catherine Linstrum ac Angharad Elen.

Mae cymeriad Nia Roberts, sy' hefyd yn serennu yn y gyfres ynghyd â Mark Lewis Jones, hefyd yn fenyw gymhleth, yn ôl Siân: "Ddim jest cymeriad fi sy'n gwthio'r ffiniau ond y ddwy o nhw yn y gyfres ac mewn ffyrdd rili gwahanol."

Mae Siân yn wyneb cyfarwydd oherwydd ei gwaith ar opera sebon Emmerdale ac, yn fwy diweddar, ar y gyfres Craith.

Mae hi wedi siarad yn y gorffennol am y sylw negyddol gafodd hi tra'n actio ar Emmerdale ond mae ei phrofiad hi yn serennu ar ddramâu S4C wedi bod yn wahanol iawn: "Pan ti yn rhywbeth fel opera sebon ti ar teledu trwy'r amser - dyw pobl ddim yn sylweddoli beth maen nhw'n ddweud a ddim yn cymryd mewn i account bod ti'n gallu darllen e.

"Mae bron fel bod pobl ddim cweit yn gwerthfawrogi bod ti'n berson.

"Mae'r rhan fwya' o bobl yn lyfli ond ti dim ond yn cofio'r pethau negatif."

Erbyn hyn mae ei bywyd yn wahanol iawn: "Mae bod mewn opera sebon neu bod yn seleb ddim yn rhan o'm mywyd i o gwbl nawr. Mae hwnna'n rhywbeth unigryw a tough o'n i ddim yn dda iawn yn delio 'da fe."

Siân Reese-Williams Ffynhonnell y llun, S4C

Crochenwaith

Pan nad yw Siân yn actio mae'n creu ac yn gwerthu crochenwaith sy'n tanio ei chreadigrwydd mewn ffordd wahanol, meddai: "Mae wedi bod yn brilliant dysgu sgil newydd a trio troi e mewn i fusnes ond mae'n anodd achos mae dau yrfa gyda fi.

"Dwi'n gorfod rhoi un lawr i 'neud y llall. Oedd e arfer bod yn rhywbeth i wneud i ymlacio ond dwi'n trio 'neud arian ohono hefyd nawr.

"Mae fe'n waith caled a chorfforol. Mae'r ddau beth yn greadigol mewn ffyrdd hollol wahanol."

Gwyliwch Y Golau: Dŵr ar S4C bob nos Sul neu ar S4C Clic, dolen allanol a BBC iPlayer

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig