Barddoni ar fws ysgol cyn dod yn fardd plant Cymru

Siôn Tomos OwensFfynhonnell y llun, Jon Poutney
  • Cyhoeddwyd

Cartwnydd, cyflwynydd, awdur a nawr Bardd Plant Cymru.

Rhyw bythefnos sydd ers y cyhoeddiad mai Siôn Tomos Owens sydd wedi'i benodi i'r rôl.

Go brin y buasai'r bachgen ifanc o Dreorci wedi dychmygu cael gwneud gwaith o'r fath pan oedd yn ddisgybl ysgol, ond mae ei alw'n "pinacl" ei yrfa.

Pan oedd yn tyfu i fyny roedd yn aml yn barddoni am bethau pob dydd a dyna mae'n ceisio cael plant Cymru i'w efelychu, meddai.

"Does dim rhaid ysgrifennu i fod yn fardd, mae gwahanol ffyrdd o fynegi eich hun," meddai.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud wrth Cymru Fyw ychydig oriau ar ôl iddo gyflawni ei sesiwn cyntaf fel Bardd Plant Cymru.

Ysfa i ysgrifennu

"Nes i ddechre bant yn ysgrifennu drwy ennill cystadlaethau ym mhapur Bro'r Glorian.

"Roedd Mam-gu yn sgrifennu hanesion lleol a dwi'n cofio sgrifennu cerdd fach ac ennill 53c yn chwe mlwydd oed am y gerdd fuddugol," meddai Siôn.

Ers hynny mae'r ysfa i ysgrifennu a bod yn greadigol wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Siôn.

"Roedd fy nhad yn gweithio fel athro Celf a phan oedden ni'n mynd dramor ar wyliau, ro'n i'n prynu cardiau post ac yn ysgrifennu am y gwyliau.

"Wedyn yn yr ysgol, dwi'n cofio un daith rygbi i'r Iwerddon, fe roddodd Mam lyfr bach gwyrdd i mi fynd gyda fi i sgrifennu am y trip a 'nes i sgrifennu cerddi am yr hyn oedden ni'n 'neud. Roedd eu hanner nhw yn llinellau a hanner arall yn lluniau.

"Ro'n i wedyn yn fy arddegau yn ysgrifennu am bethau reit heriol, pethau pob dydd... doedd y math o bethau o'n i'n sgrifennu ddim yn bethau Eisteddfodol," meddai.

SiônFfynhonnell y llun, Siôn Tomos Owens
Disgrifiad o’r llun,

Siôn gyda dystysgrif gan Y Glorian

Cafodd Siôn dipyn o gyfnod yn teithio, aeth i'r Coleg Celf yn Barcelona a chadw cofnod o'i brofiadau yno.

Roedd yn cyfuno ysgrifen a chartŵn, ac roedd Robert Crumb, y cartwnydd Americanaidd oedd yn gwneud lot o underground comix yn ddylanwad arno.

"Pan dwi'n mynd i wneud y sesiynau mewn ysgolion, dwi'n pwysleisio nad oes angen ysgrifennu pob tro i greu barddoniaeth.

"Mewn ysgol y bore 'ma, fe ddechreuodd y broses greadigol gyda scribble ar ddarn o bapur.

"O hynny daeth sawl syniad ac erbyn diwedd y sesiwn roedd gan y disgyblion i gyd stori neu ddarn i gyd wedi deillio o'r un linell oddi ar y darn papur.

"Creu rhywbeth o ddim byd - does dim angen i bobl fecso am bapur gwag, tynnwch lun a wedyn fe fedrwch chi wneud rhywbeth yn syth. O'r scribble yn yr ysgol daeth anifail a wedyn person.

"Mae posib creu bywyd o amgylch scribble, does dim angen saga neu gael rant er mwyn bod yn fardd," meddai.

'Eisiau i blant gael hwyl'

Fe gymerodd hi ychydig o hyder i Siôn ymgeisio am y rôl, ond nawr ei fod wedi llwyddo, mae'n benderfynol o geisio ysbrydoli'r plant mae'n gweithio gyda nhw.

Mae Siôn hefyd wrth ei fodd yn adrodd straeon i'w blant ei hun, sy'n cadw ei feddwl yn brysur wrth ddod fyny â straeon gwreiddiol iddyn nhw.

Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy'n Digwydd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, a'i gyhoeddiad diweddaraf yw nofel i blant o'r enw Gerwyn Gwrthod a'r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen.

Mae ei farddoniaeth a'i straeon hefyd wedi eu cynnwys ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail iaith.

"Fe all y plant fod yn gwneud limrigau lawr y clwb rygbi neu free style rap, dim ond eu bod nhw'n creu rhywbeth.

"Dwi eisiau i blant gael hwyl a digon o nonsens wrth fynd ati, does dim angen sgrifennu am bethau dwys drwy'r amser. Does dim digon o nonsens yn digwydd dyddie yma, pethau fel Rala Rwdins a phethe felly," meddai.

Wrth i Siôn ymweld ag ysgolion ledled Cymru yn sgil ei rôl newydd, mae'n edrych ymlaen i geisio ysbrydoli plentyn fydd falle yn Fardd Plant Cymru y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.