Ydy hi'n amser dychwelyd trysorau Castell Powys i India?

Clive of IndiaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain yn aml yn cael ei feirniadu am y ffaith bod trysorau gwerthfawr o wledydd eraill wedi eu lleoli yno, fel yr Elgin Marbles a Charreg Rosetta.

Ond a oes gan Gymru hefyd drysorau a gafodd eu cymryd dan amodau amwys?

Mae wythnos yma'n nodi 300 mlynedd ers geni Robert Clive, (Barwn Clive o Plassey), sy'n cael ei adnabod gan amlaf fel Clive of India.

Roedd Clive a'i deulu'n gyfrifol am gymryd nifer fawr o eitemau gwerthfawr o India a'u cadw mewn casgliad sydd dal i'w gweld yng nghanolbarth Cymru.

Pwy oedd Robert Clive?

Roedd Clive yn arweinydd milwrol effeithiol a oedd yn cael ei edmygu am ei waith yn adeiladu'r Ymerodraeth Brydeinig yn India. Ond roedd hefyd yn ffigwr dadleuol, ac mae'n cael ei gyhuddo gan lawer o gam-drin a chymryd mantais o bobl India.

Daw Clive o Sir Amwythig yn wreiddiol, ychydig filltiroedd o'r ffin â Chymru, ond mae ei gysylltiadau â Chymru'n helaeth.

Cafodd ei eni ger Market Drayton ar 29 Medi, 1725 - yr hynaf o 13 o blant i Richard a Rebecca Clive.

Roedd Richard Clive yn gyfreithiwr ac yn Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn am flynyddoedd, ac er ei fod yn byw yn Sir Amwythig roedd gan y teulu eiddo a grym ar ochr Gymreig y ffin.

Styche Hall
Disgrifiad o’r llun,

Styche Hall yn Sir Amwythig, ble cafodd Robert Clive ei eni

Aeth Robert Clive i India am y tro cyntaf yn 1744 fel clerc i'r East India Company, cwmni a gafodd ei sefydlu yn 1600 a oedd yn rheoli masnach yn India a'r is-gyfandir yn y cyfnod, yn aml drwy ddefnyddio grym milwrol.

Nid Prydain yn unig oedd â diddordeb yn yr ardal; roedd gan wledydd Ewropeaidd eraill fel Ffrainc a'r Iseldiroedd gwmnïau a oedd yn ceisio elwa o nwyddau a thrysorau tramor.

Doedd gweithio fel clerc ddim yn siwtio Clive ac yn 1746 fe ymunodd â changen filwrol y cwmni.

Erbyn 1751 roedd wedi creu dipyn o enw i'w hun, yn dilyn amddiffyniad o Warchae Arcot, ble ymladdodd Clive a'i filwyr yn erbyn byddin o Ffrancwyr a rhyfelwyr Indiaidd.

Yn 1756 fe lwyddodd Clive a'i filwyr i adennill Kolkata gan y Nawab Siraj-ud-Daulah (rheolwr annibynnol olaf Talaith Bengal), gan atgyfnerthu safle Prydain yn yr ardal.

Clive of IndiaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o Clive ym Mrwydr Plassey yn 1757

Ond mae'n debyg mai buddugoliaeth fwyaf nodedig Clive oedd Brwydr Plassey ar 23 Mehefin, 1757. Digwyddodd yr ymladd ger tref Plassey yn Bengal, gogledd-ddwyrain India. Roedd lluoedd Clive yn fuddugol yn erbyn y Nawab Siraj-ud-Daulah, ac mae'r fuddugoliaeth yma'n cael ei hystyried fel moment allweddol yn hanes reolaeth Prydain yn nwyrain India, ac yn yr ardal ehangach.

Yn 1759 roedd buddugoliaeth nodedig arall, y tro hwn yn erbyn yr Iseldirwyr ym Mrwydr Chinsurah, ac yn 1765 cafodd Clive ei enwi fel Llywodraethwr ar dalaith Bengal.

Trysorau Castell PowysFfynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Pen teigr oedd yn eistedd ar orsedd y Tipu Sultan, a thecstilau amhrisiadwy sydd yn rhan o'r Casgliad Clive yng Nghastell Powys

Yn sgil cyfnodau Robert Clive fel Llywodraethwr yn Bengal, ac yna ei fab Edward fel Llywodraethwr Madras yn ddiweddarach, daeth llawer o drysorau a chelfi gwerthfawr o India i Gastell Powys.

Mae dros fil o eitemau gwerthfawr yn rhan o Gasgliad Clive yng Nghastell Powys heddiw.

Ymhlith y creiriau yno mae pen teigr y Tipu Sultan a thecstilau gwerthfawr.

Creulondeb Clive

Mae ei ymdrechion milwrol yn cael ei ddathlu gan rai, ond mae hefyd llawer o gwestiynau ynglŷn ag ymddygiad Clive yn India.

Mae llawer yn ei feirniadu am fod yn llwgr a ddiegwyddor, ac mae sôn iddo dalu Indiaid nodedig fel Mir Jafar er mwyn sicrhau buddugoliaeth ym Mrwydr Plassey.

Yn ystod ei amser yn India mae'n debyg iddo gasglu cyfoeth sy'n cyfateb i £70m heddiw, gan gynnwys trysorau gwerthfawr o Dalaith Bengal. Cymaint oedd ei awch am gyfoeth iddo gael ei alw'n 'Lord Vulture' gan bobl y cyfnod.

Wedi buddugoliaeth Brwydr Plassey fe gododd Clive drethi ar bobl werin, dlawd, Bengal, ac fe ddioddefodd y boblogaeth o ganlyniad.

Mae llawer o haneswyr o'r farn bod Newyn Bengal 1769-73, a laddodd filiynau o bobl, wedi ei sbarduno gan weithredoedd Clive, a roddodd fuddiannau'r East India Company uwchlaw lles y boblogaeth. Gan mai Clive oedd Llywodraethwr Bengal pan ddechreuodd y newyn, mae llawer yn ei gyhuddo am beidio gwneud digon i atal y drychineb.

Clive o IndiaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o Clive yn derbyn dogfennau tir ar gyfer Bengal, Bihar ac Orissa, 1765

Mae'r hanesydd, William Dalrymple, sy'n adnabyddus ar ei waith ar hanes India a'r Ymerodraeth Brydeinig, yn dweud bod sefydlu goruchafiaeth Brydeinig yn India yn cyfateb i "the supreme act of corporate violence in world history".

Dywed Dalrymple hefyd bod Clive yn "unbelievably aggressive and ruthless operator, an incredibly violent man. Even as a child he was running a protection racket in his village in Shropshire, threatening to break the windows of shopkeepers if they didn't give him money."

Yn ôl Dalrymple cafodd Clive effaith hollol radical ar yr East India Company, gan ei droi o fod yn gorfforaeth a oedd yn ymwneud â gweithrediadau masnachol i fod yn bŵer imperialaidd a oedd yn gorchfygu gwledydd.

Fe dorrodd Clive bob rheol fel arweinydd milwrol yn ôl Dalrymple; roedd yn llwgr, yn cuddio ei luoedd mewn niwl a thywydd drwg, ac roedd yn ddidostur ond yn hynod effeithiol.

"Whatever he did he succeeded in achieving his aims, through sheer ruthlessness, through unbelievable aggression and through sheer determination. He's a very unlovable character."

Yn ogystal â Dalrymple, mae'r hanesydd Jon Wilson yn hynod feirniadol, gan honni mai'r ffordd a oedd Clive yn arwain yr East India Company oedd y prif reswm tu ôl i'r newyn ym Mengal.

Roedd Robert Clive yn dioddef o iselder a chyflyrau ar ddiwedd ei oes, a daeth yn ddibynnol ar opiwm i leddfu'r boen. Bu farw ar 22 Tachwedd, 1774, yn 49 mlwydd oed, gyda'r dyfarniad swyddogol yn datgan mai hunanladdiad oedd y rheswm dros ei farwolaeth.

Y teulu Clive a Chymru

Yn ogystal â'r ffaith bod tad Robert Clive, Richard, yn Aelod Seneddol yn Sir Drefaldwyn, mae nifer o gysylltiadau eraill rhwng y teulu Clive a Chymru.

Yn 1771 fe brynodd Robert Clive Gastell Powys; castell o'r 13eg ganrif, ger Y Trallwng. Bellach mae wedi ei adnewyddu ac yn un o brif atyniadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Roedd Clive yn Arglwydd Raglaw ar Sir Drefaldwyn o 1773 i 1774 gan atgyfnerthu ei wreiddiau yng Nghymru. Roedd hwn yn deitl y byddai eraill yn ei deulu'n ei etifeddu ar ei ôl.

Cafodd Clive naw o blant, gan gynnwys mab o'r enw Edward a anwyd yn 1754. Yn 1784 fe briododd Edward â Henrietta Antonia Herbert, Iarlles Powys, a oedd yn rhan o'r teulu a oedd berchen ar Gastell Powys cyn i Robert Clive ei brynu.

Roedd teulu Henrietta'n berchen ar eiddo yn Llundain, ac ystadau sylweddol yng Nghymru a Swydd Amwythig.

Roedd Edward yn Aelod Seneddol dros Ludlow o 1774 i 1794, a rhwng 1798 a 1803 fe ddilynodd esiampl ei dad drwy fynd i India, ac fe gafodd ei benodi yn Llywodraethwr talaith Madras.

Pan fu farw brawd Henrietta heb blant, fe etifeddodd Edward y teitl Iarll Powys. Roedd hefyd, fel ei dad, yn Arglwydd Raglaw dros Sir Drefaldwyn rhwng 1804 ac 1830.

Yn ogystal â hyn roedd Edward Clive yn gyfrifol am ddatblygu Camlas Sir Drefaldwyn, a oedd yn galluogi i'r bonedd werthu cynnyrch amaethyddol yn Lloegr yn fwy effeithlon.

Castell PowysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Powys, sydd heddiw'n atyniad poblogaidd yng nghanolbarth Cymru

Fe briododd mab Edward, Robert Henry Clive, i mewn i deulu bonedd y Windsor yn 1819. Roedd yn ffigwr hynod bwerus yn y cyfnod, yn dirfeddiannwr ac yn nodedig ym maes y gyfraith.

Robert Henry Clive oedd y swyddog oedd yn archwilio i ddigwyddiadau Terfysg Beca yn 1843.

Roedd gan y teulu llawer iawn o dir yn ne Cymru, yn enwedig yn ardal Caerdydd, gan gynnwys Castell San Ffagan. Mae dylanwad y Clives yng Nghaerdydd dal i'w weld hyd heddiw, gyda Clive Street yn Nhrelluest, a Clive Road a thafarn y Clive Arms yn Nhreganna wedi eu henwi ar ôl y teulu.

clive
Disgrifiad o’r llun,

Atgof o ddylanwad Clive yng Nghaerdydd; Clive Street yn Nhrelluest, a Clive Road a thafarn y Clive Arms yn Nhreganna. Mae gan dafarn y Clive Arms botread o Robert Clive of India uwch y fynedfa

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi nodi yn y gorffennol eu bod yn ymwybodol o natur sensitif y casgliad yng Nghastell Powys, ond ni chafodd BBC Cymru Fyw ateb pan ofynnwyd am sylw ar gyfer yr erthygl yma.

Cafodd un o brif strydoedd yn ardal ariannol Kolkata ei enwi'n Ffordd Clive er cof amdano fel Llywodraethwr Bengal. Ond fe benderfynwyd newid yr enw i Stryd Netaji Subhas, er teyrnged i Subhas Chandra Bose, un o arwyr India a frwydrodd yn erbyn Prydain am annibyniaeth.

Hyd yma, does dim bwriad i ailenwi'r ffyrdd na'r dafarn yng Nghaerdydd, na dychwelyd y trysorau i India, ac mae hanes a chyfoeth y teulu Clive yn parhau'n un dadleuol.

Clive of IndiaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cerflun o Robert Clive sy'n sefyll ar Stryd y Brenin yn Llundain, tu allan i Dŷ Gwydr, Pencadlys Swyddfa Cymru yn Whitehall

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig