Y Ceidwadwyr Cymreig yn addo 'cynllun credadwy' i 'drwsio' Cymru

Darren Millar yn annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ddydd Sul
Disgrifiad o’r llun,

Darren Millar yn annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi dweud wrth gynhadledd ei blaid ym Manceinion fod Plaid Cymru a Reform yn cynrychioli dewisiadau "peryglus" i bleidleiswyr yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Darren Millar ddydd Sul mai'r Ceidwadwyr yw'r unig blaid sydd â "chynllun credadwy" i "drwsio" Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr ar ei hôl hi yn y pedwerydd safle mewn arolygon barn diweddar a hynny ar ôl cael y nifer uchaf erioed o ASau yn etholiad y Senedd yn 2021.

Daeth sylwadau Mr Millar ychydig ddyddiau ar ôl i arweinydd y Torïaid, Kemi Badenoch, gyfaddef na fydd hi'n troi ffawd y blaid o gwmpas "dros nos".

Ar hyn o bryd, mae llywodraeth Cymru dan reolaeth Llafur, gyda rhai polau piniwn yn awgrymu y gallai Plaid Cymru a Reform wneud yn dda yn yr etholiad mis Mai nesaf.

Cyfeiriodd Mr Millar at y posibilrwydd o glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd bod y Blaid Lafur yn cynllunio "unwaith eto" gyda Phlaid Cymru i gynnig yr un peth "ailadroddus" - "sosialaeth sy'n methu, ac sydd heb unrhyw ddaioni, y mae pobl Cymru wedi cael llond bol ohono".

Ond y tro hwn, gydag ychydig o "genedlaetholdeb peryglus".

"Dwi'n dweud peryglus gan mai dyna ydy eithafiaeth a chenedlaetholdeb Plaid - peryglus.

"Maen nhw eisiau rhwygo Cymru oddi wrth y Deyrnas Unedig a chodi mur o lechi ar draws ein ffin.

"Mur a allai ddod â'r hawl i fyw, gweithio, astudio a masnachu unrhyw le yn y DU i ben."

Aeth ymlaen i ddweud y "byddai eu cynlluniau'n costio miloedd o bunnoedd bob blwyddyn i deuluoedd cyffredin sy'n gweithio yng Nghymru".

"Gadewch i mi fod yn glir - mae Plaid Cymru'n rhoi swyddi, pensiynau a thwf economaidd Cymru mewn perygl."

Mae'n credu hefyd bod Reform yn "peri perygl clir a phresennol i'n diogelwch cenedlaethol".

'Mae yna obaith'

Fe gyfeiriodd ei araith at y newyddion bod cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi cyfaddef iddo gymryd llwgrwobrwyon i wneud datganiadau o blaid Rwsia tra'n Aelod o Senedd Ewrop a dywedodd nad oedd hynny'n "syndod".

Ond, ychwanegodd bod yna obaith gan "fod gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, gynllun credadwy i drwsio Cymru".

"Rydym yn barod i dorri treth incwm Cymru, sgrapio cyfraddau ar gyfer busnesau bach, cefnogi cwmnïau a ffermydd teuluol, dileu gwariant gwastraffus, buddsoddi yn ein ffyrdd, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, adfer disgyblaeth a chodi safonau yn ein hysgolion, mynd i'r afael â'r argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac amddiffyn y Deyrnas Unedig."

Mims Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mims Davies AS yw Ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru

Yn siarad o'r gynhadledd fe ddywedodd Ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru Mims Davies nad oedd Reform yn blaid "i'r dde o'r canol" hyd yn oed gan eu bod yn ceisio plesio pawb.

Fe ddisgrifiodd Farage hefyd fel "Nigel Mirage, fel rwy'n hoffi ei alw, y cyfalafwr, y poblyddwr a'r sosialydd pan fydd yn addas iddo".

Disgrifiodd Blaid Cymru fel "plaid sy'n credu yng nghenedl noddfa".

"Mewnfudo a materion mudo yw problem ein hoes a dyw hynny ddim yn cyd-fynd â'r hyn y mae pobl yn poeni amdano yng Nghymru," meddai.

'Cyfle euraidd'

Yn ôl Ms Davies, mae'r "cyfle hwn i ymladd yn ôl yn y Senedd yn un euraidd", er bod "pobl, wrth gwrs, wedi ein diystyru, am mai dyna sy'n eu siwtio".

"Mae Llafur wedi marw," dywedodd. "Mae pobl yn dweud bod angen i ni ymladd yn ôl, dal sownd [oherwydd] ar ôl 14 mis mewn llywodraeth [yn San Steffan] a 25 mlynedd ym Mae Caerdydd, mae pobl o'r diwedd yn deffro i'r methiannau yng Nghymru."

Mae'r Ceidwadwyr, meddai, wedi ymrwymo i ymyrryd yn y Gwasanaeth Iechyd a chyflwyno ysgolion academi ac ysgolion rhydd, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer symudedd cymdeithasol.

Ychwanegodd: "Ni yw'r unig blaid sydd â chynllun ar fudo a ni yw'r unig blaid sydd wir yn poeni am y bobl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig