Y da, y drwg a'r rygbi: Blwyddyn fawr Rhys Patchell ar gamera

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell wedi cael blwyddyn brysur, wrth iddo symud i Japan i chwarae rygbi, dod yn dad am y tro cyntaf, ac yna penderfynu gadael y gamp.
Blwyddyn fawr i unrhyw un... ond un hyd yn oed yn fwy heriol am fod camerâu teledu yno i ddogfennu'r cyfan ar gyfer cyfres i S4C.
Roedd Rhys a'i wraig, y gohebydd chwaraeon Heledd Anna, wedi cytuno i gael camerâu yn eu dilyn ar yr antur i ochr arall y byd, ond ar ôl iddyn nhw ffeindio allan fod babi ar y ffordd, bu'n rhaid i Heledd aros nôl gartref yng Nghaerdydd.
Roedd y flwyddyn, felly, yn anodd i bawb ar adegau, ond roedd y ddau yn awyddus i'r camerâu ddal yr holl emosiynau.
"Oedden ni'n meddwl, 'os ni am wneud hyn, man a man i ni ei wneud e'n iawn'," eglurodd Rhys. "Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig, os yw sefyllfa yn anodd, dangos ei fod yn anodd.

Heledd yn cefnogi Rhys ei gŵr yng Nghwpan y Byd yn Japan yn 2019 - y cynllun gwreiddiol oedd i Heledd ymuno â Rhys pan aeth i chwarae yno y llynedd, ond ar ôl ffeindio allan fod babi ar y ffordd, roedd rhaid i bethau newid
"Dyna oedd yr ail flwyddyn 'naethon ni fel yma – es i i Seland Newydd y flwyddyn cynt - ac felly, o'n ni sort of yn gwybod beth oedden ni'n gadael ein hunain mewn iddo fe, ond falle amgylchiadau bach yn wahanol y tro hyn.
"O'dd criw ohonon ni yn yr un fath o sefyllfa, mas (yn chwarae) yn Japan, a'r teuluoedd wedi aros adref. Ni sy'n gwneud y penderfyniad hynny – dwi ddim yn disgwyl i bobl gael y feiolins mas! Ond falle bod e'n gofnod gonest o beth oedd e fel."
Yr hapusrwydd a'r hiraeth
Mae pobl yn aml yn gorfod byw oddi wrth eu teuluoedd am gyfnodau... ond nid pawb sydd yn gwneud hynny gyda chamerâu yn eu dilyn i bob man, wrth gwrs.
Sut brofiad oedd cael y camerâu yn dogfennu popeth; yr achlysuron hapus a'r cyfnodau anoddach?
"O'n ni'n lwcus, 'naeth y tîm cynhyrchu drio eu gorau i beidio bod yn amlwg, er ei bod hi'n anodd peidio cymryd sylw o gamera oedd jest yn fan'na," meddai Rhys ar raglen Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru.
"Ond roedd Elis [Dafydd Roberts] yn dda iawn am droi'r camera bant a dweud 'mae hwn jest ar eich cyfer chi'. Felly ni'n ddiolchgar iawn am hynny."
"Fi’n credu ei bod hi’n gofnod go onest o’r flwyddyn"
Rhys Patchell yn sgwrsio ar raglen Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru
Ym mhennod olaf y gyfres, mae Rhys yn datgelu ei benderfyniad i ymddeol o chwarae rygbi ac i ddychwelyd yn ôl gartref i Gaerdydd.
Ond wrth gwrs, nid yw wedi ffarwelio â'r gamp yn gyfan gwbl, gan ei fod bellach yn gweithio fel ymgynghorydd cicio i dîm y Dreigiau.
"Dwi'n joio mas draw. Dwi'n gwybod mwy na thebyg erioed mod i eisiau ymwneud â'r byd hyfforddi. Pan o'n i'n yr ysgol, ar un adeg doedd rygbi ddim yn edrych fel ei fod am fod yn yrfa broffesiynol i fi, a'r bwriad oedd bod yn athro addysg gorfforol.
"Dwi'n edrych ar ôl yr elfen cicio a gweithio gyda'r chwaraewyr sydd eisiau gwella eu rhan yna o'r gêm. Dwi'n joio helpu pobl i wneud rhywbeth doedden nhw falle ddim yn credu bydde nhw'n gallu ei wneud a trio helpu nhw i ddatblygu a rhoi'r tools fel bod nhw'n medru mynd a gweithio arno fe eu hunain, a gweld y twf a'r datblygiad yna dros gyfnod."

Enillodd Rhys 22 o gapiau dros Gymru yn ystod ei yrfa, a chwarae i Gleision Caerdydd, y Scarlets, Highlanders yn Seland Newydd a Green Rockets Tokatsu yn Japan
Edrych tua'r dyfodol
Gyda'i fab, Llew, bellach yn chwe mis oed, roedd gallu treulio mwy o amser gyda'i deulu yn sicr wedi chwarae rhan fawr yn y penderfyniad i roi'r gorau i chwarae.
Ond mae Rhys hefyd wedi gallu profi'r rhyddid sydd wedi dod o ganlyniad i beidio bod ynghlwm â thîm rygbi, a hynny am y tro cyntaf ers bron i 20 mlynedd, meddai.
"Mae'r gwaith gyda'r Dreigiau a siarad am rygbi ar y teledu yn gweithio'n neis i fi ar hyn o bryd o ran gallu rhoi'r amser yna i'r teulu. A gwneud be' fi mo'yn am gyfnod bach - bo' fi ddim yn byw wrth amserlen y clwb rygbi, sy'n neis.
"'Nes i rili fwynhau fy ngyrfa i, ac ar hyn o bryd, dwi yn eistedd yma yn teimlo 'dwi 'di gwneud y penderfyniad cywir i gamu i ffwrdd a mynd i'r peth nesa' ar yr adeg cywir. Dwi'n teimlo'n ffodus iawn."
Mae Rhys Patchell: Japan a'r Gic Olaf ar S4C ar nos Iau am 20:25 neu gwyliwch y dair bennod nawr ar BBC iPlayer
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
- Cyhoeddwyd30 Ionawr