Prisiau tocynnau trên yng Nghymru 'ddim yn gwneud synnwyr'

Trên Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Dyw prisiau tocynnau trenau yng Nghymru "ddim yn gwneud unrhyw synnwyr", yn ôl arbenigwr blaenllaw ar drafnidiaeth.

Dywed yr Athro Stuart Cole y dylai prisiau fod yn seiliedig ar y pellter a deithiwyd.

Mae'n dweud y gallai Cymru gael system fel yr un sy'n yr Iseldiroedd, ond nad yw gweinidogion yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn barod ar gyfer y buddsoddiad fyddai ei angen.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod y "system wedi torri", ond mae gweinidogion yn dweud y bydd diwygio'r rheilffyrdd, dan arweiniad Llywodraeth y DU, yn helpu yn y tymor hir.

Stuart Cole
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stuart Cole yn pwyntio at yr Iseldiroedd fel enghraifft o wlad lle mae'r system docynnau rheilffordd yn llawer cliriach

Y pris bws o £1 i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, a ddaeth i rym fis yn ôl, yw'r ymgyrch ddiweddaraf gan weinidogion sy'n ceisio cael mwy ohonom ni i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ond er bod talu punt y daith yn glir i bawb, mae system docynnau ein rheilffyrdd ymhell o fod yn eglur.

Er enghraifft, os yn teithio o Gaerfyrddin i Gaerdydd, mae gwahaniaeth sylweddol yn y math o brisiau mae'n rhaid i chi eu talu - hyd yn oed y tu allan i oriau brig.

Os wnaethoch chi brynu tocyn ddydd Mercher diwethaf, i deithio ddydd Mercher nesaf - 8 Hydref - gallech fod wedi defnyddio'r trên 09:21 a fyddai'n costio £15.50 i chi.

Ond hanner awr yn ddiweddarach, am 09:57, dim ond £7.70 y byddai'n rhaid i chi ei dalu.

Yna, am 10:31, mae dewis o ddau drên.

Mae un yn costio £15 a'r llall ond yn £7.70 - er bod y trên rhatach yn cymryd 21 munud yn hirach.

'Ddim yn gweld y ddadl drosto'

Mae'r arbenigwr trafnidiaeth, yr Athro Emeritws Stuart Cole, yn dweud bod hyn wedi tyfu dros y blynyddoedd, oherwydd prisio deinamig gan gwmnïau rheilffyrdd gwahanol.

Ond mae'r Athro Cole yn dweud bod angen datrys anghysondebau fel y rhain.

"Mewn llawer o achosion, hyd y gwela' i, dyw e' ddim yn gwneud synnwyr.

"Oherwydd, does dim perthynas rhwng cyfnodau brig a chyfnodau eraill yn y prisiau hynny.

"Dyw hwn ddim yn gwneud synnwyr ac alla' i ddim gweld y ddadl drosto."

Mae Stuart Cole yn pwyntio at yr Iseldiroedd fel enghraifft o wlad lle mae'r system docynnau rheilffordd yn llawer cliriach.

Yn gyffredinol, mae'r pris yr un peth gydol y dydd yno.

Bertien van BaakFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pob teithiwr yn gwybod y pris" yn yr Iseldiroedd, medd Bertien van Baak

Eglurodd Bertien van Baak o Reilffyrdd yr Iseldiroedd bod yna gyfnodau rhatach, ond ar wahân i hynny, mae'r swm sy'n cael ei dalu yn dibynnu ar y pellter y mae angen i chi ei deithio.

"Mae gynnon ni bris sylfaenol, felly mae pob teithiwr yn gwybod y pris yna ac yna mae yna ffyrdd o gael gostyngiad ar y pris hwnnw, yn dibynnu - a ydych chi'n rhan o grŵp penodol.

"Felly, fe all plant neu'r henoed gael prisiau penodol, neu os ydych chi'n teithio fel grŵp."

'Llywodraethau ddim yn hoffi risg'

Dywed Stuart Cole y gallai Cymru gael system fel yr un honno, ond nad yw gweinidogion yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn barod ar gyfer y buddsoddiad y byddai ei angen.

"Does unrhyw reswm dros beidio â'i wneud, oni bai ei fod yn ariannol," meddai.

"Mae'n risg, a dyw llywodraethau ddim yn hoffi ymgymryd â phrosiectau peryglus.

"Yn sicr bydd gweision sifil sy'n cynghori yn dweud: 'Wel weinidog, mae hyn yn ddewr iawn'."

"Dyna, yn fy marn i, yw'r prif reswm - y goblygiadau ariannol y byddai gweinidogion yn poeni amdanynt, oherwydd ein bod ni'n brin o arian."

Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates efallai na fyddai symleiddio prisiau rheilffyrdd yn darparu gwerth am arian

Dywed yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates AS, ei fod yn cytuno bod angen diwygio'r system, a bod y newid hwnnw ar y gweill.

"Felly, mae gynnon ni, ledled Prydain, fwy nag 20 o gwmnïau rheilffyrdd ac mae'r system, mae arna' i ofn, wedi torri i raddau helaeth.

"Dyna pam mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno diwygiad radical o wasanaethau rheilffyrdd o dan Great British Railways ac maen nhw'n mynd i fod yn edrych ar y system docynnau."

'Risg bod pobl yn colli allan'

Ond dywedodd Mr Skates efallai na fyddai symleiddio prisiau rheilffyrdd yn darparu gwerth am arian.

"Mae risg eich bod chi'n creu carfan fawr o bobl sy'n colli allan.

"Felly ni fyddai creu cyfundrefn docynnau sylfaenol o reidrwydd yn gwneud teithio ar y rheilffordd yn rhatach.

"I lawer o bobl, bydd yn ei gwneud yn ddrytach ac rydyn ni yn y busnes o'i wneud mor fforddiadwy i gynifer o bobl â phosibl."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn tynnu sylw at y gwelliannau sydd eisoes wedi'u gwneud, ac mae'n dweud y gallai cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio sut mae'r rheilffyrdd yn gweithio arwain at system ffioedd gliriach yn y pendraw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.