Sefydlogrwydd yn Antur Waunfawr wedi profedigaeth yn 'amhrisiadwy'

Dafydd a'i fam, Y Parchedig Casi JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd a'i fam, Y Parchedig Casi Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae mam weddw o'r gogledd yn dweud nad yw pobl yn deall pwysigrwydd gofal sefydlog i bobl ag anableddau dysgu fel ei mab.

Mae gan fab y Parchedig Casi Jones, Dafydd, 28, awtistiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd fod y gefnogaeth iddo gan ganolfan Antur Waunfawr yng Ngwynedd yn "gwbl amhrisiadwy".

Daw sylwadau Casi Jones wrth i deulu dyn sydd ag anableddau dwys erfyn ar Gyngor Ceredigion i ailystyried penderfyniad sy'n effeithio ar ei ddyfodol.

Mae'r cyngor wedi dweud nad oes lle i Rory White bellach mewn canolfan yn Llanbed am ei fod wedi symud i fyw i Sir Gâr.

Y ParchediG Casi Jones a'i gŵr, y diweddar Barchedig Lloyd Jones, yn Llydaw yn 2019 Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Casi Jones a'i gŵr, y diweddar Barchedig Lloyd Jones, yn Llydaw yn 2019

Bu farw gŵr Casi, y Parchedig Lloyd Jones, a oedd ar y pryd yn ficer ar eglwysi yng ngofalaeth Beuno Sant, Uwchgwyrfai, yn gwbl ddirybudd yn eu cartref yng Nghlynnog Fawr ddiwedd 2020.

Roedd ei farwolaeth sydyn yn 54 oed yn "ergyd anferth" iddi hi a'u meibion Dafydd a Tomos.

"Dydy pobl ddim wir yn sylweddoli pwysigrwydd cysondeb a sefydlogrwydd mewn gofal i oedolion gydag anghenion dysgu ychwanegol," medd Casi, sy'n weinidog ym Mangor.

"Bum mlynedd yn ôl roedd hi'n gyfnod hynod o anodd i ni fel teulu wedi i ni golli Lloyd ond yn arbennig i Dafydd."

Dafydd a TomosFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd parhau i fynd i ganolfan Antur Waunfawr yn rhoi sefydlogrwydd i Dafydd - yma gyda'i frawd iau Tomos

Drwy gyd-ddigwyddiad wedi iddo golli ei dad roedd angen i Dafydd, sy'n byw yn annibynnol gyda gofalwyr, symud llety.

Gan bod ei rieni a'i frawd yn byw mewn rheithordy, roedden nhw yn gorfod symud hefyd.

"Yr unig gysondeb yn ei fywyd drwy'r cyfnod anodd yma oedd ei leoliad gwaith a gofal yn Antur Waunfawr," ychwanegodd Casi.

"I berson gydag anghenion dysgu, mae lleoliad gwaith a gofal dyddiol yn fwy na jyst lle i wario amser, mae fel teulu arall.

"Mae'r cydweithwyr a'r staff cefnogol yn chwarae rhan allweddol yn eu lles a'u hiechyd meddwl nhw.

"Mae gallu pobl fel Dafydd i gyfathrebu yn gyfyng, ond mae staff Antur Waunfawr yn ei ddeall yn iawn a byddai'n anodd iddo fynd i le arall."

Yn achos Rory White, oedd yn arfer byw ym Metws Bledrws yng Ngheredigion ond sydd bellach yn byw ym Mhencarreg yn Sir Gâr, dywedodd Cyngor Ceredigion bod yn rhaid iddyn nhw "ganolbwyntio ar sicrhau bod trigolion Ceredigion yn gallu cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt" ac felly nad yw'n bosib iddo barhau i fynd i'r ganolfan yn Llanbed.

Wrth drafod yr achos hwnnw dywedodd y Parchedig Casi Jones: "Dwi'n gallu teimlo gymaint dros y dyn ifanc yma sy'n poeni am golli ei le yn y ganolfan yn Llanbed a thros y teulu hefyd.

"Wrth geisio ymgodymu gyda galar o golli aelod o'r teulu agos, y peth diwethaf 'da chi isio ydy rhoi eich mab drwy drawma arall o golli cefnogaeth teulu'r ganolfan lle mae o wedi bod yn mynd ers 17 o flynyddoedd.

"Fe ddylai cynghorau farnu pob achos yn unigol a chymryd popeth i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad i newid lleoliad gofal oedolion gydag anghenion arbennig.

"Mae cael cwmni a chefnogaeth pobl gyfarwydd mewn lleoliad cyfarwydd yn amhrisiadwy iddyn nhw."

Dafydd yn gweithio gyda chefnogaeth Aled Jones yn Antur WaunfawrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn gweithio gyda chefnogaeth Aled Jones yn Antur Waunfawr

Ychwanegodd Dewi Jones, rheolwr iechyd a lles Canolfan Antur Waunfawr: "Mae cael lleoliad cyson yn rhoi trefn a sefydlogrwydd i fywyd pobl ag anableddau dysgu, gyda chymuned o bobl o'u cwmpas i ddarparu cefnogaeth a gofal.

"Nid yn unig gan y staff cefnogi, ond hefyd drwy gwmni eu cydweithwyr a ffrindiau.

"Mae'r lleoliadau hyn yn creu ymdeimlad o deulu ble gyda'n gilydd gallwn gefnogi ein gilydd a datblygu sgiliau newydd yng nghanol pobl sy'n eu 'nabod a'u deall, ac mae hyn yn chwarae rhan allweddol tuag at eu hiechyd a lles."

Wrth ymateb i achos Rory White dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddiwallu anghenion gofal a chymorth cymwys.

"Pan fydd unigolion yn symud ar draws ffiniau awdurdodau lleol, disgwylir i gynghorau weithio gyda'i gilydd i osgoi tarfu'n ddiangen ar wasanaethau."

Mae cyfweliad y Parchedig Casi Jones i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul 5 Hydref ac yna ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig