Cofio marathon cyntaf Caerdydd... wrth baratoi am y ras nesaf yn 79 oed

John yn paratoi i gychwyn rhedeg Marathon Caerdydd 1981, ac yn barod am hanner marathon y brifddinas eleni
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr 79 oed o orllewin Cymru yn barod i redeg Hanner Marathon Caerdydd 44 mlynedd ers rhedeg ei farathon cyntaf erioed - sef un cynta'r brifddinas.
Dydd Sul, fe fydd John Jones ymysg 27,500 o bobl fydd yn rhedeg y ras a bydd miloedd ar hyd y daith yn eu cefnogi.
Ond mae'r gŵr o Landysul yn cofio rasio ar ddechrau'r 1980au cyn iddyn nhw haneru hyd y ras a chyn i redeg ddod yn boblogaidd.
"Roedd rhan fwya' o bobl yn edrych arnon ni ac yn meddwl 'beth uffern sy'n mynd ymlaen?' Fel mae pethe wedi newid!" meddai.
Dydd Sul, fis cyn ei ben-blwydd yn 80, bydd John yn rhedeg ei bumed hanner marathon Caerdydd yn olynol.

Mae degau o filoedd bellach yn rhedeg ac yn gwylio Hanner Marathon Caerdydd. Fe gafodd y gyntaf ei gynnal yn 2003, yr un pryd â'r marathon. Daeth y marathon i ben yn 2006
Fe ddechreuodd John Jones - sy'n cael ei adnabod fel John Clogs, gan ei fod yn arfer clocsio - ymddiddori mewn rhedeg ar ôl gwylio diwedd ras ar deledu du a gwyn pan oedd o'n blentyn.
"Sai'n gwybod os mai'r Empire Games neu'r Olympics oedd e ond roedd y bachan yma yn dod mewn i'r stadiwm ac roedd e'n igam ogam a dros y lle i gyd, a doedd neb yn gallu ei helpu fe, ac fe ddaeth e'n gynta'," eglurodd. "O'n i wastad yn meddwl 'uffarn, ma' raid bod hynny'n bell'!
"A doedd dim energy drinks na sgidie iawn adeg 'ny - y pwr dabs, roedd e'n galed iawn iddyn nhw."
Pan ddechreuodd gadw tafarn yr Hydd Gwyn yng Nghenarth ar ddechrau'r 1980au dechreuodd redeg yn rheolaidd.
"Roedd yn rhaid cau yn y prynhawn yr adeg hynny a'r unig ffordd i gael gwared â'r bois oedd gwisgo lan yn fy kit rhedeg - roedd hynny'n dodi nhw off," meddai.
"O'n i'n mynd mas i redeg a doedd neb wedi gweld shwt beth - neb wedi gweld rhywun mewn shorts yn mynd trwy'r pentre' yn rhedeg. A'r ffaith o'n i'n gallu siarad Cymraeg wedyn - wel jiw jiw roedde nhw'n synnu fwy."
Un noson yn y dafarn fe drodd y sgwrs i drafod ras newydd - Marathon Caerdydd.
O fewn dim roedd John wedi cytuno i roi cynnig arni a chasglu arian i greu cae chwarae i blant y pentref.
"Roedd y pentre' i gyd wedyn yn rhan o'r holl beth ac wrth gwrs roedd e'n helpu trade y dafarn - roedd mwy o bobl yn dod mewn i drafod y peth a'r hen fois yn gweud 'o ti off dy ben, ti off dy ben'…"

John ar ddiwedd Hanner Marathon Caerdydd mis Mawrth 2022
Yn wahanol i heddiw, a rhedeg yn fusnes mawr efo bob math o ddillad ac esgidiau arbenigol ac aps hyfforddi ar gael, dim ond un siop redeg fechan yng Nghaerdydd mae John yn ei chofio. Roedd colofn wythnosol yn rhoi cyngor ar hyfforddi ym mhapur y Western Mail.
Ar 20 Medi1981, roedd John ymysg y 4,000 wnaeth redeg marathon cyntaf Caerdydd.
Meddai: "Fi'n cofio ar y dechre meddwl reit ma' raid fi beni hwn achos ma'r bois nôl yn Cenarth yn watshad a ma' nhw'n aros - y peth pwysig oedd beni. O'n gwybod bod fi ddim yn mynd i ennill.
"Fi'n cofio bod yn Y Barri. O'n i'n arfer byw yng Nghaerdydd felly o'n i'n meddwl 'iyffan ma' fama yn bell - fi'n mynd i redeg nôl o'r Barri nawr!'
"Oedd e'n anhygoel ond doedd dim lot o crowds."
Gwyliwch John yn cyrraedd llinell derfyn y Carten 100 yn 2025
Yn 1982 fe redodd Marathon Caerdydd eto a Marathon Llundain. A gyda hynny, oni bai am ambell i ras hwyl leol, daeth ei gyfnod o rasio i ben am bedwar degawd.
Fe gadwodd yn heini dros y blynyddoedd, yn enwedig drwy seiclo, tan i reolau Covid newid ei batrwm dyddiol a dechreuodd redeg yn amlach.
Pan ddaeth bywyd yn ôl i drefn wedi'r pandemig doedd dim stop arno.

John Clogs gyda'i nai Bruce yn y Tour de Môn
Fe redodd y ddau hanner marathon gafodd eu cynnal yng Nghaerdydd yn 2022, seiclo 106 milltir yn y Tour de Môn a ras beics 100 milltir y Carten o Gaerdydd i Ddinbych y Pysgod. Ac mae wedi gwneud hynny bob blwyddyn ers hynny.
Gyda'r ddwy ras feics wedi eu gwneud eisoes eleni, dim ond yr hanner marathon sydd ganddo i'w gwblhau cyn ei ben-blwydd yn 80 ar 11 Tachwedd.
"Sai'n nerfus - fi'n excited," meddai John, fydd yn casglu arian i'r elusen plant NSPCC. "Fi wedi trainio'n iawn - sdim byd yn twitcho, sdim byd yn bod a 'sa i ar unrhyw dabledi. Fi'n lwcus iawn fel yna, ac mae lot o lwc yn involved. Dwi wedi cael lot o anlwc ond fi'n lwcus hefyd.
"Mae pawb yn helpu ei gilydd yn y ras ac mae awyrgylch bendigedig.
"Mae bands yn 'ware, ma'r côr yn 'ware, street band rwle arall, trwmpets, ma' partis yn mynd mlân - ma'n grêt.
"A ma'n syndod faint mae hynny'n helpu chi - ma' shwt gymaint yn dy ben di."
Ac mae John, sy'n dad i'r gyflwynwraig Heledd Cynwal, yn barod yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf - ac wedi gosod her i gael tair cenhedlaeth o'i deulu i redeg y ras.
"Flwyddyn nesaf bydda i'n 80, fydd Heledd dal yn 50, a fydd fy ŵyr i, sef ei chrwt hi, yn 20. Felly 30 mlynedd rhyngddo ni, felly flwyddyn nesa fydd rhaid iddi 'neud e."

Dywedodd Heledd Cynwal bod ei thad wedi ei hannog i fwynhau ymarfer corff a'r awyr agored pan oedd hi'n blentyn, gan gynnwys ei dysgu i nofio a rhwyfo cwrwgl
Gyda'r trefnwyr yn bwriadu newid y system gofrestu i fod yn system balot yn hytrach na cyntaf i'r felin, does gan neb sicrwydd o gael lle yn ras 2026.
Ond hanner marathon neu beidio dywedodd Heledd bod ei thad yn ysbrydoliaeth gyda'i agwedd at fywyd.
"Fi'n cofio fe'n trefnu'r ras hwyl, ro'n i tua chwech neu saith oed, a fi'n cofio rhedeg gydag e chael y synnwyr o gymuned," meddai. "A dyna sy'n dda ambyti fe - yr ysfa i greu rhywbeth neu drefnu neu fod yn rhan o rywbeth - mae hynny wedi bod yn rhan o fe erioed.
"Fi wedi dysgu bod ni lot gwell off yn dilyn ei bersbectif
"Pan ma' fe'n hyfforddi ac yn cael diwrnod gwael neu os oes rhiw o'i flaen e bydde fe'n gwenu i dricio'r meddwl i feddwl bod e'n mwynhau - a ma' fe'n gweithio. Y weithred o wneud yn hala neges i'r ymennydd."
Ac i John, mae'r effaith bositif mae rhedeg yn ei gael ar y meddwl yr un mor bwysig â'r effaith ar y corff.
Meddai: "Ti'n anghofio am bopeth achos pan ti mas yn rhedeg 'na i gyd ti'n meddwl am yw dy anadl di ac a wyt ti am neud y rhiw hyn a fel ti'n mynd i gyrraedd fan hyn a'r llall.
"Ma' fe'n gwneud lles."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd22 Medi