Cofio hanes Mam-gu fu'n gweini i'r teulu Guinness yn Llundain

Ceinwen Mary Roberts yn ystod ei chyfnod yn Llundain yn gweithio i'r teulu Guinness
- Cyhoeddwyd
Un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd ar Netflix ar y funud yw The House of Guinness.
Mae'r ddrama yn olrhain teulu'r diod enwog Guinness gan ddechrau gyda marwolaeth pennaeth y teulu yn 1868.
Mae wedi ei gosod yn Nulyn er bod rhannau ohoni wedi ffilmio yng Nghastell Penrhyn ar gyrion Bangor.
Ond cysylltiad Cymreig arall yw bod merch o'r Rhondda yn arfer gweini i'r teulu Guinness yn Llundain - ac mae ei hwyres yn dal i gofio'r bwyd egsotic roedd hi'n ei goginio.
Symud i Lundain
Roedd Ceinwen Mary Roberts wedi'i geni yng Nghwm Clydach, Y Rhondda yn 1909 ac fel oedd yr arfer y dyddiau hynny, aeth hi i chwilio am waith yn Llundain.
Dywedodd ei wyres Siân Teifi, sy'n byw yn ardal Caernarfon, ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru: "Dwi'n credu fod nifer o ferched yn mynd i weini i Lundain, fel bydde merched o'r gogledd yn mynd i weini i Lerpwl.
"Fi'n deall fod pobl Llundain yn falch iawn i gael merched bach cefn gwlad o Gymru yn dod lan i wasanaethu yna, achos roedd 'na dyb eu bod nhw'n fwy parod i weithio'n galed ac roedd hynny'n wir am hanes fy Mam-gu."
Symudodd Ceinwen i Lundain yn 14 oed, a hynny ar y trên laeth cynnar yn 1923 o Gwm Rhondda.
Roedd hi wedi cael bywyd go galed yn blentyn; roedd ei thad wedi marw o'r Ffliw Sbaenaidd yn 1919 ac roedd ei mam yn gorfod gweithio bob awr yn glanhau, papuro, peintio a golchi i deuluoedd eraill i gadw dau pen llinyn ynghyd.
Dywedodd Siân: "Dechre gweithio gyda doctor yn Harley Street wnaeth fy Mam-gu, dechre o'r gwaelod wrth gwrs, ac o fewn ychydig o amser, dyna le odd hi, yn gweithio i'r teulu Guinness yn Grosvenor Square."

Mae rhai golygfeydd yn The House of Guinness wedi eu ffilmio yng Nghastell Penrhyn
Mae'r ddrama Netflix yn canolbwyntio ar stori pedwar plentyn Benjamin Guinness yn dilyn ei farwolaeth.
"Roedd fy Mam-gu yn gweithio i ddisgynnydd Edward," medd Siân.
"Mae Edward yn y gyfres yn rhedeg y bragdy mawr Guinness yn Nulyn, a'i fab e wedyn, Walter, a'i wraig yntau, Evelyn - iddyn nhw oedd fy Mam-gu yn gweithio yn Grosvenor Square."

Cerdyn Nadolig wedi'i roi i Ceinwen gan y teulu Guinness
Roedd gwaith Ceinwen yn cynnwys coginio, gofalu am y plant a gweini.
"Roedd y teulu Guinness yn ariannog iawn, felly roedd 'na lot fawr o ymwelwyr amrywiol," medd Siân.
"Fe fyddai'r teulu brenhinol yn galw i mewn ac roedd Churchill ei hun yn galw i mewn, achos roedd Walter Guinness yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Bury St Edmonds ac roedd e'n agos iawn at Churchill yn y cyfnod 'ma.
"Ond wrth gwrs bydde hi heb gael mynd yn agos at westeion mor arbennig."
Dychwelyd i Gwm Rhondda
Wedi cyfnod yn Llundain daeth Ceinwen yn ôl i fyw i Gwm Rhondda.
"Fe briododd hi fy Nhad-cu a the rest is history, fel ma nhw'n g'weud," meddai.

Tair cenhedlaeth: Siân, ei mam a'i mam-gu, Ceinwen, ar achlysur ei phenblwydd yn 90 yn 1999
"Dwi'n meddwl bod fy Mam-gu wedi gweld lot yn nhŷ'r teulu Guinness – y fath gyfoeth i ddechre, a dwi'n meddwl mai falle fan hyn y dysgodd hi gwcan mor dda, achos rodd hi'n gogyddes sbesial iawn, yn gallu creu pryd o fwyd mas o ddim byd, bron, a hwnnw'n ffein ryfedda.
"Gyda hi y blasodd fy mrawd a finne ein sbageti go iawn cynta' – hwnnw'n dod yn droedfedd o hyd wedi'i lapio mewn papur glas wedi'i gwyro.
"Roedd hi hefyd yn neud cyris ffein, a dwi'n meddwl bod plant yr ysgol gynradd yn Nhre-wen yn credu bod 'mrawd a finne'n eitha egsotig, yn bwyta bwyd fel hyn!"
Wrth edrych yn ôl ar hanes Ceinwen, mae'n amlwg fod y lliw du wedi chwarae rhan mor bwysig; ei bywyd wedi dechrau yng nghanol tlodi llwch y glo yng Nghwm Rhondda, ac yna draw at berchnogion cyfoethog yr hylif du yng nghanol Llundain.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl