Mewn lluniau: ffotograffau o Landudno yn oes Fictoria

  • Cyhoeddwyd
Llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Mae arddangosfa newydd yn talu teyrnged i ffotograffwyr Fictorianaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Llandudno yn arddangos lluniau gan ffotograffwyr megis William Silvester Laroche (ganed ym 1840) a gymerodd y llun yma.

Disgrifiad o’r llun,

Ymwelodd Elisabeth o Wied, Brenhines Gydweddog Rwmania, â Llandudno ac mae ei henw llenyddol, Carmen Sylva, i'w weld o hyd mewn enwau strydoedd ac adeiladau'r dref.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth y ffotograffydd Thomas Edge (1829-1900) i fyw yn Llandudno. Roedd yn cynhyrchu 'stereocards' a oedd yn rhaid edrych arnynt gan ddefnyddio dyfais arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Ym 1860 fe gododd William Lot (1841-1919), berisgop ar fryn uwchben y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Ym 1877 fe godwyd pier haearn i gymryd lle'r pier pren gwreiddiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Mostyn, prif dirfeddianwyr yr ardal, yn ymddangos yn rhai o luniau'r arddangosfa a grewyd o gasgliad gan John Lawson-Reay, is-gadeirydd Cymdeithas Hanesyddol Llandudno a Bae Colwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa yn para tan 14 Tachwedd ac mae yna wahoddiad i bobl fynd â'u hen luniau eu hunain i'r amgueddfa ar 2 Tachwedd er mwyn i gopïau ohonynt gael eu hychwanegu i'r arddangosfa.