Tîm hoci dan-21 Cymru yn codi arian i ddilyn breuddwyd Cwpan y Byd

Mae carfan hoci dan-21 Cymru yn gobeithio cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Chile
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n freuddwyd i unrhyw un yn y byd chwaraeon allu chwarae mewn cystadleuaeth fel Cwpan y Byd.
Mi fydd carfan hoci merched dan-21 Cymru yn gobeithio y bydd y freuddwyd honno yn cael ei gwireddu fis nesaf.
Ond mae 'na un broblem fach - arian!
Fe sicrhaodd Cymru eu lle yng Nghwpan y Byd nôl ym mis Gorffennaf gyda buddugoliaeth o 3-2 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.
Mae'r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yn Chile fis nesaf - ond cyn mynd maen nhw angen codi £40,000 ar gyfer costau teithio, llety a'r cystadlu ei hun.
Maen nhw wedi codi dros £22,000 yn barod, ond mae ganddyn nhw dal dipyn o ffordd i fynd.
Ymhlith y rhai sydd wedi rhannu'r apêl ar y cyfryngau cymdeithasol mae cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru Jess Fishlock.
"Mae'n anffodus o'n safbwynt ni nad oes 'na lot o gyllid a chefnogaeth ar gael," meddai'r priff hyfforddwr Walid Abdo.
"Mae 'na lot o rieni wedi cyfrannu'n ariannol barod.
"Mae'r garfan yn gweithio'n galed. Tydi hi ddim yn hawdd chwarae ar lefel elît ac hefyd canolbwyntio ar bethau eraill fel swyddi, gwaith ysgol a gwaith prifysgol.
"Maen nhw bob tro yn rhoi 100%, a dwi'n falch iawn i fod yn hyfforddwr arnyn nhw."
Yn ôl y chwaraewyr, mae mynd i Gwpan y Byd yn Chile yn gyfle "gwirioneddol anhygoel"
Os y bydd Cymru'n llwyddo i godi digon o arian yna mi fydden nhw'n yr un grŵp ag Ariannin, Gwlad Belg a Zimbabwe.
Fe orffennodd Ariannin yn yr ail safle yn 2023, gyda Gwlad Belg yn gorffen yn drydydd.
Os am unrhyw obaith o gyrraedd rownd yr wyth olaf mi fydd yn rhaid i Gymru orffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp.
'Mae ganddo ni lot o hyder'
Ac er fod y grŵp yn un anodd mae'r capten Betsan Thomas yn hyderus y gallen nhw achosi ambell i sioc yn Santiago.
"Mae e'n siawns gwirioneddol anhygoel i allu mynd mas 'na i ddangos be mae Hoci Cymru yn gallu ei wneud," yn ôl Betsan.
"Fel tîm o ferched ifanc ni'n edrych ymlaen i chwarae hoci i standard da.
"Da ni'n mynd mewn i'r gystadleuaeth fel underdogs, ond mae ganddo ni lot o hyder yn ein gallu ein hunain fel tîm."
Mae Iona Roderick yn mynd i'r brifygol yn Ohio yn yr Unol Daleithiau, ond yn teithio'n ôl i chwarae dros ei gwlad.
"Dwi'n caru chwarae hoci yn America. Dwi wedi cael mynd i lefydd fel San Fransisco yn ddiweddar, " meddai Iona.
"Ond dwi'n caru gwisgo crys a bathodyn Cymru, mae o'n golygu lot i fi.
"Dwi'n meddwl y gallwn ni fynd yn bell yng Nghwpan y Byd, a gorffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp.
"Dwi methu aros i fynd yno a chwarae'n erbyn rhai o dimoedd gorau y byd."
Carfan Cymru
Seren Bean, Leni Beard, Makenzy Beard, Amy Cradden, Freya Diamond, Holly Done, Poppy Done, Emily Edwards, Tilly Edwards, Olivia Forey, Amy Hughes, Bella Lowton, Amber Millard-Smith, Eloise Moat, Amy Partridge, Iona Roderick, Stephanie Smith, Betsan Thomas (capt), Nancy Whittlestone, Caitlin Witham.
Trefn gemau Cymru
Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr
Gwlad Belg v Cymru 18:45
Dydd Iau, 4 Rhagfyr
Zimbabwe v Cymru
Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr
Ariannin v Cymru
Mae Cwpan y Byd yn cael ei gynnal rhwng 1-13 Rhagfyr.