Allen eisiau chwarae dros Brydain yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen yn gweld y cyfle fel un rhy dda i'w golli

Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Joe Allen, wedi dweud ei fod yn dymuno cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesa'.

Mae rheolwr y tîm, Stuart Pearce, wedi awgrymu y byddai'n cynnwys chwaraewyr o Gymru.

Ond mae'r ymosodwr Robert Earnshaw wedi dweud y dylai Allen, Gareth Bale ac Aaron Ramsey ystyried yr oblygiadau.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â chymdeithasau Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn erbyn y bwriad i greu tîm Prydeinig.

Hwn fydd y tro cyntaf i dîm pêl-droed o Brydain gystadlu ers Gemau Olympaidd Rhufain yn 1960.

'Cyfle'

Mae Allen, a ddechreuodd chwarae i Gymru yn gynharach yn y mis, yn gobeithio y bydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn newid eu meddwl.

"Os oes 'na olau gwyrdd fe fydd yn gyfle rhy dda i'w golli," meddai Allen.

"Fe fyddwn wrth fy modd yn cael bod yn rhan o'r cyfan, yn enwedig gan fod y gemau ym Mhrydain.

"Mae'n ddigwyddiad arbennig a dwi'n siwr y byddai nifer yn dymuno bod yn rhan o'r cyfan."

Pryder Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yw y bydd dewis eu chwaraewyr yn tanseilio eu statws annibynnol ar y lefel ryngwladol - er gwaetha' sicrwydd FIFA.

Ddim wedi dweud

Ar hyn o bryd dim ond Cymdeithas Bêl-droed Lloegr sydd wedi caniatáu i'w chwaraewyr fod yn rhan o'r tîm Olympaidd.

Dydi Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ddim wedi dweud a fyddan nhw'n rhwystro chwaraewyr Cymru rhag bod yn y tîm Prydeinig.

"Mae'n amlwg fod 'na ddwy ochr i bob dadl ac mae annibynniaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn bwysig," meddai Allen.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robert Earnshaw bod angen rhoi'r flaenoriaeth i Gymru

"Mae angen trafod a dod i benderfyniad," ychwanegodd.

Dywedodd rheolwr ei dîm yn Abertawe, Brendan Rodgers, y byddai'n cefnogi Allen.

Ond dywedodd Earnshaw fod rhaid i chwaraewyr roi'r flaenoriaeth i Gymru cyn unrhyw dîm Olympaidd.

"Mae tîm Cymru wedi bod o gwmpas ers cymaint o amser ac rydym eisiau i'r tîm barhau," meddai.

'Am byth'

"Os ydyn nhw'n creu tîm Prydain Fawr ac nad yw hynny'n effeithio ar unrhyw dîm cenedlaethol yn y dyfodol, iawn.

"Rydym eisiau i dîm Cymru, boed bêl-droed neu rygbi fod yma am byth.

"Rydym yn falch i fod yn Gymry ac yn falch i chwarae dros Gymru."

Mae disgwyl i gemau pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012 gael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ac yn Hampden Park, Glasgow.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol