Cwmni'n tynnu cais yn ôl i greu ynni o wastraff

  • Cyhoeddwyd
Argraff artistFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cwmni oedd llosgi 750,000 o dunelli o wastraff bob blwyddyn

Mae cwmni ynni Covanta wedi penderfynu tynnu cais i godi llosgydd gwastraff ger Merthyr Tudful yn ôl.

Roedd y cwmni am sefydlu'r llosgydd ym Mrig-y-Cwm.

Y bwriad oedd codi gwaith gwerth £400 miliwn, a fyddai'n creu ynni o wastraff nad oedd modd ei ailgylchu.

Yn ôl y cwmni, dydi'r "cynllun ddim yn gynaliadwy" o ystyried bod yr awdurdod lleol wedi mabwysiadu "ymdriniaeth dameidiog" o ran delio gyda gwastraff dros ben.

"Roeddem yn chwilio am ateb cenedlaethol ar gyfer y gwastraff sylweddol yng Nghymru sy'n mynd i safleoedd tirlenwi," meddai'r cwmni.

"Fe fyddai hyn wedi cynnig ateb o ansawdd effeithiol uchel; carbon isel a chostau isel.

'Trawsnewid'

"Ar ôl cryn amser yn chwilio roeddem am sefydlu'r gwaith a buddsoddi ym Merthyr Tudful, un o drefi mwya' difreintiedig Cymru."

Ychwanegodd y byddai'r dref wedi ei thrawsnewid o ganlyniad i'r buddsoddiad.

"Ond mae'r cyngor lleol wedi mabwysiadu ymdriniaeth dameidiog (ddim ymdriniaeth genedlaethol) i ddelio â gwastraff dros ben.

"Mae hyn yn gwneud y cynllun yn anghynaladwy.

"Rydym felly wedi penderfynu dod â'r broses gynllunio i ben ac rydym yn canolbwyntio ar ein cynlluniau eraill yn y DU."

Roedd hwn yn un o bedwar cais gwreiddiol ar restr fer gan gonsortiwm Prosiect Gwyrdd, sef pum awdurdod lleol yn ne Cymru a oedd yn edrych am ateb i'r broblem o waredu gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu.

Ym mis Ebrill fe dynnodd cwmni Waste Recycling Ltd eu cais yn ôl felly, wedi cyhoeddiad Covanta nawr, dim ond dau gais sydd gan y consortiwm i'w ystyried ym mis Rhagfyr.

Beirniadaeth

Y ddau arall yw cais Veolia ES Aurora Ltd, sydd am greu gwaith ar hen waith dur Llanwern yng Nghasnewydd, a Viridor Waste Management Ltd, sydd am godi llosgydd yn ardal Sblot yng Nghaerdydd.

Yn ôl cais Covanta, fe fyddai'r ynni wedi bod yn ddigon ar gyfer holl dai ardal Merthyr Tudful a Chaerffili.

Roedd y datblygiad wedi denu cryn feirniadaeth, gyda Chyfeillion y Ddaear yn honni y byddai'n tanseilio ymdrechion i dorri ar wastraff a chynyddu ailgylchu.

Mae Aelod Seneddol Merthyr Tudful a Rhymni, Dai Havard, wedi dweud ei fod yn falch bod Covanta wedi tynnu'r cynllun yn ôl.

Roedd o'n gwrthwynebu'r cynlluniau ac yn feirniadol o fwriad y cwmni i sefydlu'r gwaith yn y lle cyntaf.

Dywedodd Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, Huw Lewis, fod y cyhoeddiad yma yn newyddion da i bawb sydd wedi ymgyrchu yn erbyn y datblygiad.

"Mae'n fuddugoliaeth glir i'r ymgyrchwyr.

"Mae'r ymgyrch wedi uno pawb o fewn cymunedau Merthyr Tudful a Rhymni ac o bob cefndir gwleidyddol.

"Dwi'n hynod o falch bod y cais wedi ei dynnu'n ôl."

Ym mis Medi daeth i'r amlwg, wedi ymchwiliad gan raglen Taro Naw BBC Cymru, bod Covanta wedi torri rheoli amgylcheddol yn yr Unol Daleithiau.

Gwelodd y rhaglen dystiolaeth bod y cwmni wedi talu dirwyon gwerth cannoedd o filoedd o ddoleri yn nhalaith Connecticut ar ôl gollwng lefelau rhy uchel o ddeuocsidau i'r amgylchedd.

Ond mae'r cwmni wedi gwadu bod 'na unrhyw berygl i iechyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol