Gobaith o wella diogelwch yr A465 ym Mlaenau'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Yr A465 rhwng Gilwern a BrynmawrFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Trefnwyd nifer o arddangosfeydd cyhoeddus dros y pythefnos nesaf

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd cynllun i ddeuoli ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd yn gwella diogelwch a chwtogi amser teithio.

Cafodd y cynlluniau i wella rhan o'r ffordd eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae'r cynigion drafft ar gyfer y prosiect £150 miliwn yn rhan o'r cynllun cyffredinol i ddeuoli'r ffordd ac mae'n cynnwys deuoli tua 5 milltir rhwng Gilwern a Brynmawr.

Mae'r A465 yn un o ffyrdd prysuraf Cymru.

Mae hefyd yn lleoliad i nifer o ddamweiniau, 473 o ddamweiniau yno rhwng 2005 a 2010.

Ystyriaethau amgylcheddol

Trefnwyd nifer o arddangosfeydd cyhoeddus dros y pythefnos nesaf a fydd yn rhoi cyfle i drigolion lleol weld y cynlluniau.

Bydd cynrychiolwyr o dîm Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r contract, y contractwr a'i ddylunwyr yn bresennol i esbonio manylion y cynllun ac i ateb cwestiynau.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth: "Mae'r A465 yn un o brif wythiennau ein rhwydwaith trafnidiaeth a'r prif gyswllt rhwng Gorllewin Cymru a Chanolbarth Lloegr."

"Bydd deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd yn helpu i wella diogelwch, i gwtogi ar amseroedd teithio i gymudwyr a busnesau ac yn cyfrannu at adfywio'r rhanbarth yn ehangach.

"Rydym yn ymwybodol hefyd fod y llwybr hwn yn pasio drwy rai ardaloedd hardd iawn ac amgylcheddol sensitif a dyna paham rydym wedi sicrhau bod y contractwyr yn cadw'r materion hyn mewn cof o'r cychwyn cyntaf ac yn rhoi sylw iddyn nhw wrth ddylunio ac adeiladu'r prosiect."

Mae'r cytundeb wedi'i ddyfarnu eisoes i Costain Limited i ddylunio ac adeiladu'r bedwaredd ran o waith deuoli'r A465 i gael ei chyflawni.

Lleolir y rhan hon yn llwyr o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae'n pasio trwy Gwm Clydach.

Cwm Clydach yw un o ardaloedd pwysicaf a mwyaf sensitif De Cymru o safbwynt yr amgylchedd ac ecoleg a dyna paham y bydd ystyriaethau amgylcheddol, ecolegol a threftadaeth wrth wraidd y cynlluniau gyda chymorth dylunio ac amgylcheddol yn cael ei ddarparu gan Atkins/Halcrow ac RPS.

Caiff y dyluniad ei ddatblygu dros y flwyddyn nesaf gan arwain at gyhoeddi Gorchmynion statudol drafft ac Arddangosfa Gyhoeddus.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol