Galw am wyliau o drethi busnes
- Cyhoeddwyd
Mae angen ystyried trethi busnes er mwyn cadw canol dinasoedd a threfi yn fyw, yn ôl arweinydd Cyngor Dinas Abertawe.
Mae Chris Holley wedi annog llywodraethau Cymru a'r DU i roi rhyddhad o drethi busnes wrth i'r wlad gyfan baratoi am gyfnod allweddol y Nadolig.
Mae Mr Holley'n awgrymu cyfnod gwyliau o drethi er mwyn cynorthwyo masnachwyr.
"Mewn gwirionedd, mae'n rhaid edrych ar drethi busnes er mwyn gwneud busnesau yn fwy llewyrchus," meddai, "a dyna lle mae llywodraethau Cymru a'r DU yn rhan o'r peth.
"Mae'n un peth i Aelodau Seneddol a Chynulliad ddweud wrthym am gael trefn ar ganol dinasoedd, ond pa gymorth sydd ar gael i ni?
"Mae'r trethi busnes mor uchel fel eu bod yn rhan fawr iawn o gyllidebau'r busnesau yna."
Cwymp
Mae Mr Holley yn rhoi'r bai ar ddatblygiadau siopa y tu allan i'r ddinas am y cwymp yn nifer y siopwyr sy'n dod i ganol y ddinas.
Ychwanegodd : "Yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud yw gorfodi canolfannau siopa y tu allan i ddinasoedd dalu mwy er mwyn roi cymhorthdal i ganol dinasoedd.
"Byddwn yn dweud fod cyfnod y Nadolig yn allweddol i nifer o fusnes, nid dim ond yn Abertawe ond ar draws Cymru a'r DU."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach, ac wedi ymestyn a gwella'r cynllun cymorth trethi busnesau bach.
"Mae'r Gweinidog Busnes hefyd wedi sefydlu grŵp dan gadeiryddiaeth Robert Lloyd-Griffiths - pennaeth Cymru o Sefydliad y Cyfarwyddwyr - i ystyried y ffordd orau o gefnogi busnesau bach a busnesau bach iawn yng Nghymru."