Eira o bosib wrth i'r tymheredd ostwng eto ganol wythnos

- Cyhoeddwyd
Mae eira a thywydd oer yn debygol o daro Cymru wrth i'r tymheredd ostwng ganol wythnos.
Mae disgwyl i aer oer o'r Arctig gyrraedd rhannau o'r DU wythnos yma a dywed y Swyddfa Dywydd y gallai hi fwrw eira ac eirlaw yng ngorllewin Cymru.
Fe ddaw'r tywydd oer wrth i'r gwaith clirio mewn sawl man yn y de barhau. Cafodd nifer o fusnesau ac eiddo eu difrodi yn ardal Trefynwy a'r Fenni.
Mae'r gymuned gyfan yn Nhrefynwy wedi dod ynghyd yn dilyn Storm Claudia ar ôl cael gwerth mis o law mewn ychydig ddyddiau.
Gwaith clirio 'sylweddol' yn parhau wedi llifogydd difrifol Trefynwy
- Cyhoeddwyd1 awr yn ôl
Trigolion Trefynwy'n dod ynghyd i glirio yn dilyn llifogydd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.