Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o ladd merch, 17, yn Sir Caerffili

Wheatley Place
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio merch 17 oed yn Sir Caerffili.

Dim ond cadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad wnaeth Cameron Cheng, o Drecelyn, yn ystod y gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd.

Yn ogystal â'i gyhuddo o lofruddio Lainie Williams yng Nghefn Fforest yn y Coed-duon, mae wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dynes arall a bod ag arf yn ei feddiant.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Wheatley Place am 07:15 ddydd Iau diwethaf.

Bu farw Ms Williams, o Gefn Fforest, yn y fan a'r lle.

Cafodd mam Ms Williams, Rhian Stephens sy'n 38 oed, ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad hefyd, ac mae hi bellach wedi gadael yr ysbyty.

Bydd Mr Cheng yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 12 Rhagfyr.

Mae disgwyl i'r achos gael ei gynnal ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig