Achos bachgen fu farw ar Ynys y Barri yn parhau'n ddirgelwch

Taha SoomroFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Taha Soomro yn y fan a'r lle

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi agor i farwolaeth bachgen 16 oed a fu farw mewn ffair ar Ynys y Barri.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar 23 Mai eleni ar ôl i Taha Ali Soomro ddioddef o'r hyn a gredir o fod yn drawiad ac ataliad ar y galon.

Cafodd ei drin gan barafeddygon yn y fan a'r lle ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond mae Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Andrew Morse, wedi cael gwybod nad yw achos marwolaeth Taha Ali Soomro wedi'i ganfod hyd yma.

Cafodd bachgen 15 oed o Grangetown ei arestio ar amheuaeth o ymosod mewn cysylltiad â'r digwyddiad - cafodd yna ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Cafodd y cwest yn Llys y Crwner Pontypridd ei ohirio tan ddyddiad diweddarach.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig