Ymchwiliad i ymddygiad cynghorwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae Ombwdsmon Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddau o arweinwyr Cyngor Abertawe.

Bydd arweinydd y Cyngor Chris Holley a'i ddirprwy John Hague yn cael eu holi am eu hymddygiad.

Deellir mai prif weithredwr y cyngor, Jack Straw, wnaeth gyfeirio'r gŵyn i'r Ombwdsmon.

Mae ymchwiliad hefyd yn cael ei gynnal i arweinydd y Ceidwadwyr ar y cyngor, Paxton Hood-Williams.

Gwrthododd y tri chynghorydd wneud sylw ar y mater tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Cefnogaeth

Credir fod y gŵyn yn ymwneud â thrafodaethau honedig rhwng aelodau blaenllaw o'r Democratiaid Rhyddfrydol a rhai o'r cynghorwyr Ceidwadol yn Abertawe, a bod y trafodaethau yn ymwneud â'u cefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae yna awgrym fod yna drafodaethau wedi bod ar gynyddu gwariant mewn prosiectau mewn seddi Ceidwadol cyn yr etholiadau fis Mai nesa.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ombwdsmon: "Gallaf gadarnhau ein bod yn ymchwilio i gŵyn yn erbyn y cynghorydd Chris Holley a'r cynghorydd John Hague".

Gwrthododd ymhelaethu ar fanylion y gŵyn.

Fe wnaeth y llefarydd hefyd gadarnhau fod yna ymchwiliad i Mr Hood-Williams.

Gwrthododd Cyngor Abertawe wneud unrhyw sylw tra bod yr Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad.

Clymblaid o 36, yn cynnwys 22 o Ddemocratiaid Rhyddfrydol, sy'n rheoli Cyngor Abertawe.

Mae yna 26 o gynghorwyr Llafur a 5 o Geidwadwyr y tu allan i'r grŵp rheoli.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol