Cwpan y Byd: Cymru'n ail yn y grŵp ar ôl trechu Gogledd Macedonia

Harry Wilson yn dathlu i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Harry Wilson o'r smotyn i Gymru ar ei ymddangosiad cyntaf fel capten

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi gorffen yn ail yn y grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026, ar ôl rhoi cweir i Ogledd Macedonia adref yng Nghaerdydd nos Fawrth.

7-1 oedd y sgôr terfynol, yn dilyn tair gôl gan Harry Wilson a gôl yr un i David Brooks, Brennan Johnson, Daniel James a Nathan Broadhead.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Cymru ym mhot 2 ac felly'n wynebu llwybr haws yn y gemau ail gyfle - gêm gartref yn erbyn un o dimau pot 3.

Fe fydd Cymru'n cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle ddydd Iau, 20 Tachwedd.

David Brooks yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David Brooks wnaeth sgorio'r ail gôl i Gymru

Cychwynnodd Cymru yn ddisglair, gyda Brennan Johnson yn creu problemau i amddiffyn Gogledd Macedonia a David Brooks yn taro ergyd ychydig dros y trawst.

Fe setlodd yr ymwelwyr i mewn i'r gêm am gyfnod, ond enillodd Brooks gic o'r smotyn i Gymru ychydig ar ôl chwarter awr.

Plannodd Harry Wilson y gic yn gampus i gornel isaf y rhwyd i adael sgôr o 1-0, yn ei gêm gyntaf fel capten ar ei wlad.

Buan yr oedd hi'n 2-0, wedi i Johnson groesi'n dda i Brooks - wnaeth sgorio gydag ergyd oddi ar amddiffynnwr.

David Brooks a Brennan JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu David Brooks a Brennan Johnson yn achosi problemau cyson i Ogledd Macedonia nos Fawrth

Rhyw funud yn ddiweddarach, 2-1 oedd y sgôr, wedi i'r bêl gael ei chwarae i Bojan Miovski rhwng amddiffyn Cymru, i'w gosod yng nghefn y rhwyd.

Roedd hi'n hanner cyflym a llawn cynnwrf ac fe darodd Neco Williams y postyn ar ôl tua 34 munud.

Johnson oedd nesaf i sgorio, wrth iddo lithro ar hyd ymyl y cwrt cosbi a thanio am y gôl oddi ar goes amddiffynnwr.

3-1 i Gymru oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner.

Daniel James yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel James yn un o'r sgorwyr

Fel y cyntaf, dechreuodd Cymru'r ail hanner ar y droed flaen, gan roi pwysau ar yr ymwelwyr yn syth.

Wedi tua 56 munud, ehangodd Daniel James y sgôr i 4-1 trwy sgorio'n daclus, yn dilyn gwaith da gan Wilson eto.

Doedd Gogledd Macedonia methu cystadlu gydag egni a chyflymder Cymru.

Yna, ar ôl 75 munud, coronodd Wilson ei noson trwy saethu roced o gic rydd i gornel uchaf y rhwyd. 5-1.

Doedd Cymru heb sgorio pum gôl ers ennill yn erbyn Belarws yn 2021 ac roedd yr anthem yn cael ei bloeddio yn Stadiwm Dinas Caerdydd erbyn hyn.

Harry Wilson yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Saethodd Harry Wilson roced o gic rydd ar ôl tua 75 munud

Bum munud yn ddiweddarach, cafodd Wilson ei faglu yn y cwrt cosbi a chafodd Cymru gic arall o'r smotyn.

Doedd neb ond Wilson yn debygol o gymryd y gic a dyma'n union ddigwyddodd wrth iddo rwydo ei drydedd o'r noson.

Cafodd Isaak Davies ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ychydig cyn i'r cochion ennill cic gornel.

Rhoddodd Davies ei ben ar y gic gornel honno a'i gwyro at Nathan Broadhead - wnaeth sgorio a gadael sgôr o 7-1 ar y chwiban olaf.

Gareth Bale oedd yr unig enw i sgorio tair gôl i Gymru mewn un gêm, ers dros ugain mlynedd - tan heno - a doedd Cymru heb sgorio saith mewn un gêm ers 1978.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.