Dyn yn cyfaddef gwerthu cemegyn hunanladdiad ar-lein

Llun ddalfa'r heddlu o Miles Cross Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Miles Cross yn cael ei ddedfrydu ym mis Ionawr ac mae'r barnwr wedi rhybuddio ei fod yn wynebu cyfnod o garchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed o Wrecsam wedi cyfaddef gwerthu cemegion ar-lein y gallai pobl eu defnyddio i ladd eu hunain.

Fe blediodd Miles Cross yn euog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i bedwar cyhuddiad o weithred bwriadol a all annog neu gynorthwyo hunanladdiad.

Mewn gwrandawiad byr, clywodd y llys ei fod wedi cyflenwi sylwedd cemegol i bedwar person gwahanol rhwng Awst a Medi 2024.

Ni chafodd fanylion eu rhoi yn y llys, ond mae erlynwyr yn dweud bod Cross wedi derbyn £100 yr un gan ddau ddyn a dwy ddynes fel rhan o fusnes y sefydlodd ar-lein.

Mae'r Barnwr Rhys Rowlands wedi ei rybuddio i ddisgwyl dedfryd o garchar yn ei wrandawiad llys nesaf ym mis Ionawr.

Unig eiriau Cross oedd i gadarnhau ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad, ac i bledio'n "euog" i bob cyhuddiad yn ei dro.

Clywodd y llys bod un o'r bobl a brynodd cemegyn ganddo rhwng 9 Awst a 13 Medi 2024 - Subhreet Singh, oedd yn 26 oed ac o Leeds - wedi marw ers hynny.

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron bod Cross wedi derbyn taliadau o £100 ac wedi anfon cemegyn atyn nhw trwy'r post.

Pan archwiliodd yr heddlu ei eiddo ym mis Ionawr eleni, daethon nhw o hyd i'r cemegyn a chyfarpar cysylltiol.

'Ecsploetio dioddefwyr anobeithiol'

Roedd Cross, meddai'r Ditectif Uwcharolygydd Chris Bell o Heddlu'r Gogledd, "wedi cymryd mantais ac ecsploetio'i ddioddefwyr yn eu heiliadau mwyaf anobeithiol, gan elwa o'u bregusrwydd a salwch meddwl.

"Rwy'n gobeithio bod cyfaddefiad heddiw'n rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i ddioddefwyr a'u teuluoedd a rhyddhad na fydd rhaid mynd trwy achos llys."

Ychwanegodd fod yr ymchwiliad 10 mis wedi bod yn un "eithriadol o gymhleth a sensitif" ac fe roddodd deyrnged "i ddewrder tystion oedd â rhan annatod yn yr ymchwiliad dan amgylchiadau anodd".

Miles Cross, mewn crys gwyn a siwt a thei du, yn gadael y llys, gan anwybyddu criw newyddion oedd yn ceisio ei holi
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Miles Cross ymatal rhag gwneud sylw i aelodau'r wasg a'r cyfryngau wrth adael Llys y Goron Yr Wyddgrug

"Manteisiodd Cross ar bedwar unigolyn oedd mewn trallod a darparu, yn ymwybodol, sylwedd oedd â'r pwrpas o ddod â'u bywydau i ben," meddai Alison Storey, erlynydd arbenigol gydag Adran Trosedd Gwasanaeth y Goron.

"Roedd ei weithredoedd, yn llwyr, er budd ariannol, ac fe wnaeth y broses o archebu'r cemegyn ar-lein yn hawdd.

"Mae'r achos yma'n ein hatgoffa o berygl y rheiny sydd â'r nod o ecsploetio unigolion bregus ar-lein."

Fe adawodd Cross y llys gan ymatal rhag gwneud unrhyw sylw i newyddiadurwyr.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 7 Ionawr 2026.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.