Cynnydd mewn lladrata yn cael 'effaith enfawr' ar fusnesau Caerdydd

Mae Canna Deli yn un o sawl busnes yng Nghaerdydd sydd wedi dioddef achos o ladrata dros yr wythnosau diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog bwyty yng Nghaerdydd yn galw am wneud mwy i fynd i'r afael ag achosion o ladrata a fandaliaeth yn y brifddinas.
Mae Canna Deli yn un o sawl busnes yn ardaloedd Pontcanna a Threganna sydd wedi dioddef achos o fandaliaeth fasnachol dros yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd Tom Roberts ei fod yn "teimlo fel bo' rhywun 'di torri mewn i fy nghartref," gan eu bod wedi "violateio fy ardal saff i".
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "gweithio'n galed i ddod â'r cynnydd diweddar mewn lladrata masnachol i ben".

Dywedodd Tom Roberts fod gwerth tua "£500 o ddifrod" wedi'i achosi
Cafodd ffenestr flaen Canna Deli ei thorri rhywbryd nos Sul neu fore Llun, meddai Tom.
"Nes i gerdded fyny a sylwi bod y ffenest 'di torri ag o'n i ddigon naïf i feddwl 'oh ma' rywbeth 'di torri'r ffenest' ond nes i feddwl wedyn 'oh na dani 'di chael hi yma'."
Er nad oedd unrhyw ddifrod y tu mewn i'r bwyty fe gafodd drôr arian y til ei ddwyn.
"Faswn i'n dweud falle bo' nhw 'di bod yma am funud yn unig - yn llythrennol gafael yn hwnna a legio hi o 'ma - mynd am yr arian."
Esboniodd ei fod yn cymryd elw'r dydd o'r til bob nos ond bod dal rhyw "£500 o ddifrod - dyna sy'n anodd".
Mae "angen i ni dalu excess o £400" ar ein hyswiriant "so wedyn ydy o werth rhoi o ar insurance ac wedyn goro talu premiwm blwyddyn nesa? Wel nadi 'dy'r ateb."
'15 busnes 'di chael hi yn y tair wythnos diwethaf'
"Ma' Canna Deli'n gartref' i mi", meddai, ac felly mae'r profiad yn teimlo'n bersonol iawn.
"Dwi'n gallu enwi 15 busnes sy' 'di chael hi yn y tair wythnos diwethaf," meddai.
"Ma' hynna'n 15 busnes sy' 'di cael eu heffeithio mewn 15 diwrnod o tradeio ond does 'na ddim byd yn cael ei 'neud."
Eglurodd nad oedd yr heddlu wedi gallu bod yno nos Lun na bore Mawrth ond ei fod wedi siarad â swyddogion dros y ffôn.

Mae Katie Bishop yn dweud bod siop Goji hefyd wedi cael ei thargedu yn ddiweddar
Mae siop trin gwallt Goji yng Nghaerdydd hefyd wedi cael ei thargedu yn ddiweddar, yn ôl Katie Bishop.
Dywedodd fod y cyfan wedi dechrau tua phythefnos yn ôl, tra bod y digwyddiad mwyaf diweddar ar ddydd Mercher, 12 Tachwedd.
"Doedden nhw ddim wedi cymryd dim byd ond ni yn meddwl eu bod nhw'n chwilio am arian," meddai.
"Mae'n mynd i gostio lot o arian i ni drwsio'r ffenestri."
Mae'n cael effaith "enfawr" ar fusnesau, meddai.
"Dyma adeg prysura'r flwyddyn ac roedd rhaid i ni neud yn siŵr bod dim cleientiaid yn dod."
'Newyddion trist'
"Mae'n ddigon anodd rhedeg busnes y dyddiau hyn heb wynebu ymddygiad o'r fath," meddai'r Aelod lleol o'r Senedd, Rhys ab Owen.
Mae'n "newyddion trist", meddai, bod "busnesau uchel eu parch a phoblogaidd yn y gymuned" yn cael eu targedu
"Mae'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yma'n tanseilio eu gwaith o redeg busnesau arbennig."

Cafodd ffenestri siop Goji eu torri yn ddiweddar
Mae'r heddlu'n credu mai un neu ddau berson sy'n gyfrifol am yr achosion hyn oherwydd tebygrwydd y troseddau.
Maen nhw'n dweud eu bod yn siarad gyda thystion ac yn adolygu deunydd teledu cylch cyfyng (CCTV) er mwyn adnabod ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r De eu bod yn gofyn i fusnesau adolygu eu systemau diogelwch a'i gwneud hi'n amlwg nad does arian ar y safle dros nos.
"Byddem yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus o unrhyw un sy'n loetran o gwmpas busnesau neu safleoedd manwerthu yn oriau mân y bore.
"Os ydych chi'n gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, galwch yr heddlu ar unwaith ar 999."
Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achosion i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.