Poblogaeth Cymru i godi 5%

  • Cyhoeddwyd
PoblFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogaeth Cymru dros 3 miliwn

Mae disgwyl i boblogaeth Cymru godi 5% i 3.17 miliwn erbyn 2020 a 12% i 3.37 miliwn erbyn 2035.

Er bod disgwyl i nifer y genedigaethau fod yn fwy na nifer y marwolaethau, disgwylir mai'r prif reswm dros y cynnydd fydd mewnfudo net.

Yn ôl yr 'Amcanestyniadau Poblogaeth Cenedlaethol' a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae disgwyl i nifer y plant dan 16 oed gyrraedd uchafswm o ryw 605,000 erbyn 2027 cyn gostwng ychydig rhwng 2027 a 2035.

Mae disgwyl i nifer y plant godi 7% rhwng 2010 a 2035.

Ond mae disgwyl i nifer y bobl rhwng 16 a 64 oed aros yn weddol ddigyfnewid, gan godi 1% i 20,000 rhwng 2010 a 2035.

Disgwylir i nifer y bobl dros 65 oed godi rhyw 306,000 neu 55% rhwng 2010 a 2035 ac i'r oedran cyfartalog yng Nghymru godi o 41.5 i 43.7 yn ystod yr un cyfnod.

dwywaith gymaint o fenywod

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, mae poblogaeth Cymru wedi cyrraedd 3 miliwn am y tro cynta' erioed.

Roedd yna 3,006,400 yn byw yn y wlad yn 2010.

Am y tro cynta' erioed roedd nifer y rhai yn 65 oed neu'n hŷn yn fwy na nifer y plant dan 16 oed.

Roedd yna 558,100 (18.6% o'r boblogaeth) o bobl yn 65 oed neu'n hŷn tra bod nifer y plant dan 16 yn 548,000.

Mae yna 76,500 o'r boblogaeth dros 85 oed, sef 2.5% o'r boblogaeth, a dwywaith gymaint o fenywod na dynion yn eu plith.

Chwyldro

Bu'r cynnydd mwyaf yn y boblogaeth yng Nghaerdydd, cynnydd o 10% er 2001 ac roedd y gostyngiad mwyaf ym Mlaenau Gwent (-2.3%) a Merthyr (-0.9%)

Yn 1841 roedd gan Gymru boblogaeth o 1.05 miliwn.

Bu cynnydd sylweddol rhwng 1841 a 1911, cyfnod y Chwyldro Diwydiannol, gyda'r nifer yn dyblu i 2.42 miliwn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol