Hybu iechyd a lles trwy weithdai celf
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cyfres o weithdai celf arbennig yn cael eu cynnal yng Ngwynedd er mwyn hybu iechyd a lles.
Mae Gweithdai Celf mewn Iechyd a Lles yn brosiect ar y cyd rhwng Mind Ynys Môn, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Fe fydd y gweithdai 2D a 3D yn cael eu cynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn.
Mae cyfres o sesiynau misol yn cael eu cynnal rhwng Tachwedd 2011 a Mawrth 2012.
Bydd y gweithdai celf 2D yn cael eu cynnal dan arweiniad yr artist Manuela Niemetscheck a bydd Mari Elain Gwent yn cymryd yr awenau ar gyfer y gweithdai 3D.
'Arbrofi a mynegi'
"Mae nifer o bobl yn ymwybodol erbyn hyn fod gwaith celf a chreadigrwydd yn weithgareddau gwych o safbwynt hybu a gwella iechyd a lles," meddai Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.
"Bydd y gweithdai celf yma yn rhoi cyfle i bobl arbrofi, mynegi a mwynhau.
"Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o waith celf a thrwy gynnal gweithdai celf 2D a 3D, bydd rhywbeth at ddant pawb."
Dywed Mind Ynys Môn Mind mai un o'r amcanion yw hyrwyddo iechyd meddwl ac iechyd cyffredinol, ar gyfer yr holl gymuned.
"Mae dod o hyd i ffyrdd i wella iechyd meddwl yn ein galluogi i ddelio gyda bywyd dyddiol," meddai llefarydd.
"Mae'r celfyddydau yn un ffordd o wneud hyn ac mae Mind Ynys Môn Mind wedi hyrwyddo'r celfyddydau i'r perwyl hwn er 2007."
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r gweithdai hyn neu angen mwy o wybodaeth gellir cysylltu ag Ynys Môn Mind.