Ffordd osgoi: Pryder am ddiffyg cynnydd
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg cynnydd mewn cynllun ffordd osgoi ym Mhowys yn dechrau bod yn "rhwystr mawr" i fusnesau ac yn drysu trigolion yn ôl cynghorydd sir.
Cafodd cynlluniau newydd i liniaru'r tagfeydd traffig yn Y Drenewydd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru'n llynedd.
Ond yn awr, mae aelod o Gabinet Cyngor Powys, Wynne Jones, wedi gofyn am gadarnhad fod y cynllun yn dal o'r flaenoriaeth flaenaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n penodi ymgynghorwyr technegol yn ystod yr hydref.
Tagfeydd traffig
Dywedodd Mr Jones y byddai arweinydd y cyngor, Michael Jones, yn ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones ynglŷn â phryderon yr awdurdod lleol.
Mae gyrwyr wedi gorfod dygymod â thagfeydd traffig yn y dref ers blynyddoedd ond mae mwy o bobl wedi dechrau cwyno wedi i oleuadau traffig gymryd lle trogylch ger archfarchnad Tesco.
Cafodd y cynllun ei ddadorchuddio ym mis Hydref 2010 gan Ieuan Wyn Jones, oedd ar y pryd yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
Dywedodd y byddai'r ffordd osgoi nid yn unig yn torri amser siwrneiau ac yn lleihau damweiniau, ond byddai hefyd yn helpu i hybu datblygiad economaidd y dref.
Bydd y ffordd osgoi ddeheuol i'r dref i'r de o Ystâd Ddiwydiannol Mochdre, gan basio o dan brif linell reilffordd Cambrian i'r dwyrain o Ystâd Ddiwydiannol Dyffryn.
Y disgwyl yw i waith adeiladu'r ffordd osgoi yn nhref fwyaf Powys ddechrau yn 2014.
Dywedodd Wynne Jones, aelod cabinet y cyngor sy'n gyfrifol am adfywio: "Mae mwy na 12 mis wedi mynd ers i'r cyn dirprwy Brif Weinidog ddadorchuddio'r cynllun a dweud y byddai'r ffordd osgoi yn helpu i hybu datblygiad economaidd Y Drenewydd.
"Mae'r diffyg cynnydd a gwybodaeth fanwl am y cynllun nid yn unig yn rhwystredig iawn i fusnesau a thrigolion yr ardal ond yn dechrau bod yn rhwystr mawr i adfywio'r dref.
"Mae'r ansicrwydd hwn yn atal busnesau rhag datblygu cynlluniau tymor canolig a thymor hir.
"Mae rhaid i ni wybod nad yw'r cynllun wedi cael ei anghofio."
Bydd Llywodraeth Cymru'n penodi ymgynghorwyr technegol yn ystod yr hydref ac yn penodi contractwyr yn ystod yr haf y flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn cael ei flaenoriaethu gan Y Gweinidog Trafnidiaeth ac fe fydd e'n cyhoeddi cynllun cyflenwi sydd wedi ei ail-restru yn ystod yr hydref.
"Fe fydd y cynllun hwn yn cynnwys cynllun ffordd osgoi'r Drenewydd."