Ystyried 40 safle newydd i dyrbinau
- Cyhoeddwyd

Mae tyrbinau gwynt yn bethau cyfarwydd yng ngogledd yr ynys ers blynyddoedd
Mae dros 40 o safleoedd newydd ar Ynys Môn dan ystyriaeth ar gyfer codi tyrbinau gwynt.
Mae Cyngor Môn yn dweud eu bod nhw am lunio polisïau cynllunio newydd i ddelio efo'r holl geisiadau maen nhw'n ei dderbyn, ac mi fydd 'na gyfle cyn bo hir i bobl yr ynys roi eu barn nhw.
Ond mae mudiad sydd wedi'i sefydlu i wrthwynebu'r datblygiadau yn dweud y byddai mwy o dyrbinau'n dinistrio cefn gwlad.
Dywedodd un aelod o'r grŵp, Owain Evans:
"Ein pryder mwyaf ni ydi bod hyn yn mynd i effeithio ar ein tirlun ni, ein ffordd o fyw ni a thwristiaeth ar yr ynys.
"Mae'r rhain yn bethau sydd yn creu sŵn, a dydyn nhw ddim y pethau gorau o ran creu trydan."
Llawer mwy
Mae tyrbinau gwynt yn bethau cyfarwydd yng ngogledd Môn ers blynyddoedd.
Ond yn ystod y 18 mis diwethaf mae Cyngor Môn wedi caniatáu tyrbinau gwynt ar 20 o safleoedd.
Mae ceisiadau ar gyfer 14 safle arall dan ystyriaeth, ond yn ystod y cyfnod yma mae datblygwyr wedi mynegi diddordeb ffurfiol ynglŷn â 56 o safleoedd - awgrym fod llawer mwy o geisiadau ar y ffordd.
Un o'r ardaloedd lle mae tyrbinau'n destun dadlau ydi Penmynydd.
Dywedodd un arall sy'n ymgyrchu yn erbyn y tyrbinau, Llinos Edwards:
"Poeni ydan ni fel grŵp bod Ynys Môn yn mynd i gael ei droi i mewn i ynys ddiwydiannol, hyll iawn, gyda thyrbinau gwynt ar wasgar ar draws yr ynys."

Yn ôl map gan y mudiad mae 'na gynlluniau ar droed am dyrbinau mewn sawl ardal ar hyd a lled yr ynys
Map
Mae tri chynllun posib dan drafodaeth yma, gydag un ohonyn nhw ar gyfer tri thyrbin 100 medr o uchder, pedair gwaith yn uwch na Thwr Marcwis sydd i'w weld o'r ardal.
Yn ôl map gan y mudiad mae 'na gynlluniau ar droed am dyrbinau mewn sawl ardal ar hyd a lled yr ynys.
Yn wyneb y llif o geisiadau mae Cyngor Môn wrthi'n llunio polisi newydd ar gyfer cynlluniau ynni gwynt.
Ond cyn i'r polisi yna gael ei dderbyn, maen nhw'n dweud y bydd pobl yr ynys yn cael cyfle i leisio'u barn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011