Brwydr i Henson ennill ei le
- Cyhoeddwyd

Gallai Gavin Henson ffurfio partneriaeth yng nghanol cae gyda Jamie Roberts
Mae Gavin Henson yn cydnabod ei fod yn wynebu brwydr i ennill ei le yn nhîm y Gleision y tymor yma.
Cafodd seren rygbi Cymru ei gyflwyno fel chwaraewr y Gleision ddydd Iau ar ôl iddo arwyddo cytundeb tan ddiwedd y tymor.
Bydd Henson yn ailddechrau ymarfer ddydd Llun wedi iddo dorri ei arddwrn ym mis Awst.
Dywedodd y chwaraewr 29 oed: "Mae'r gystadleuaeth am le yn anferth. Fe fydd hi'n dalcen caled cael lle yn y tîm yma.
"Dim ond tan ddiwedd y tymor yr wyf wedi arwyddo fel rhyw fath o gyfnod prawf, ac rwy' am i hwn fod fy nghlwb olaf.
"Rhaid i mi weithio'n galed i gael lle yn y tîm, a dwi ddim yn siŵr eto ym mha safle.
"Rwy'n mwynhau chwarae rhif 10. Rwy'n mwynhau chwarae rhif 12. Rhaid i mi aros i weld beth mae'r hyfforddwyr am ei weld gen i."
Llewod
Gobaith Henson yw ail-danio ei yrfa ryngwladol, ac mae'n gobeithio cael lle yn nhîm y Llewod fydd yn teithio i Awstralia yn 2013.
Cafodd ei freuddwyd o chwarae yng Nghwpan y Byd eleni ei chwalu gan yr anaf, ond mae'n gobeithio y gall ymddangos ar y llwyfan mwyaf am y tro cyntaf ymhen pedair blynedd.
"Roeddwn i'n falch iawn o'r bois i fod yn onest," meddai Henson am berfformiadau Cymru yn Seland Newydd.
"Yn fy nghalon, rwy'n gefnogwr rygbi Cymru. Dyna oedd y gorau i mi weld Cymru'n chwarae erioed.
"Heblaw am yr anaf, fe fyddwn i wedi gallu bod ar yr awyren, ond i fod yn onest doeddwn i ddim yn haeddu bod yna.
"Roedd y bois wedi bod gyda'i gilydd ers dwy flynedd yn gweithio'n galed, ac fe fyddai wedi bod yn annheg petawn i wedi bod yn rhan o hynny."
Cythryblus
Daw'r symudiad i'r Gleision ar ddiwedd cyfnod cythryblus i Henson.
Yn dilyn 18 mis lle y dewisodd beidio chwarae i'r Gweilch, fe gafodd gyfnodau aflwyddiannus gyda'r Saracens a Toulon.
Cafodd ei wahardd yn ystod ei gyfnod yn Ffrainc am ymladd gyda'i gyd chwaraewyr.
Ond mae Henson nawr yn edrych ymlaen at gyfnod mwy llewyrchus yng Nghaerdydd, a dywedodd:
"Mae'n gyfnod cyffrous gyda'r Gleision. Mae yna ieuenctid da yn dod drwodd, ac mae'r adnoddau yn wych yma.
"Bydd cael chwarae wrth ochr Jamie Roberts bob wythnos yn arbennig iawn.
"Mae blaenwyr anhygoel yma hefyd - Sam Warburton yw un o'r rhifau 7 gorau yn y byd, mae Martyn Williams yn dal yma a Gethin Jenkins yw'r prop gorau yn y byd.
"Rwy'n credu fod fy rygbi gorau eto i ddod."