Canolfan Gymraeg yn gwahodd noddwyr
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp yn gobeithio denu noddwyr er mwyn ail-agor hen dafarn
Mae trefnwyr sydd yn ceisio agor canolfan Gymraeg mewn hen dafarn yn Wrecsam yn gwahodd pobl i ymweld â'r adeilad ddydd Sadwrn.
Mae'r grŵp cymunedol cydweithredol sydd am agor y ganolfan yn cynnal sesiwn agored er mwyn dangos yr hen dafarn i noddwyr posibl.
Y bwriad yw ail-agor y bar a'r gegin er mwyn darparu cynnyrch lleol a chwrw Cymreig.
Gobeithir cael swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod i fyny'r grisiau gyda phwyslais arbennig ar ddarparu lle ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn yr ardal.
'Ymateb bositif'
Dywedodd y cynghorydd Mark Jones, sydd yn cadeirio'r fenter: "Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd agored mis diwethaf a chawsom ymateb bositif iawn gan y rhai a ddaeth.
"Y brif sialens yw codi digon o arian i adnewyddu'r gegin, prynu stoc, a chyflogi rheolwr a staff.
"Dyna pam rydyn ni'n cynnal sesiwn agored arall er mwyn caniatáu noddwyr i mewn i'r adeilad ddydd Sadwrn."
Gall noddwyr fuddsoddi cyn lleied â £100, meddai Mr Jones.

Mae'r dafarn yn dyddio o 1898 ac arferai fod yn sinema
Dywedodd hefyd eu bod wedi cael llawer o gymorth gan bobl Wrecsam.
"Mae brwdfrydedd am y syniad gan siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a rhieni sy'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg wedi bod yn gefnogol iawn.
"Rydyn ni'n bwriadu'r adeilad i fod yn ganolfan ar gyfer pob peth Cymraeg yn y dref ac rydym yn ei weld fel etifeddiaeth barhaol o'r Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus iawn a gynhaliwyd yma ym mis Awst."
Bydd teithiau tywys o amgylch yr adeilad am 11am, 12pm, 1pm a 2pm ddydd Sadwrn 29 Hydref.