Ymestyn cyfreithiau gwelyau haul yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae hi bellach yn anghyfreithlon i ddefnyddio gwelyau haul heb oruchwyliaeth yng Nghymru.
Fe all unrhyw fusnes sy'n defnyddio peiriannau hunanwasanaeth, gael dirwy o hyd at £5,000.
Mae'r cyfreithiau yn cael eu hymestyn yng Nghymru ddydd Llun wedi i bobl o dan 18 oed gael eu gwahardd, dolen allanol rhag defnyddio gwelyau haul yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill.
Mae'n ymgais gan Lywodraeth Cymru i geisio gostwng nifer y bobl sy'n datblygu canser y croen.
Fe fydd rhaid cael goruchwyliaeth ymhob salon haul o hyn ymlaen.
Mae'r rheolau newydd yn gosod mwy o gyfyngiadau ar y diwydiant ac mae'r cyfreithiau yn:
gwahardd defnyddio gwelyau haul heb eu goruchwylio.
gwahardd gwerthu neu logi gwelyau haul i unigolion dan 18.
sicrhau bod rheolaethau gwelyau haul yn berthnasol i fusnesau sy'n gweithredu o eiddo domestig.
nodi y dylid sicrhau bod gwybodaeth iechyd penodol yn unig (posteri a thaflenni) yn cael ei harddangos / ar gael yn y salon.
ei gwneud yn ofynnol i ddarparu a gwisgo offer diogelu llygaid.
Yng Nghymru, mae 500 achos o'r math mwyaf difrifol o ganser y croen yn flynyddol sy'n arwain at 100 o farwolaethau.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda'r diwydiant gwelyau haul i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau newydd.
Dywedodd Philip Evans, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Rheoleiddio Cyngor Sir Conwy, mai eu prif ffocws fydd diogelu defnyddwyr gwelyau haul masnachol a hefyd plant a phobl ifanc rhag y risg cynyddol o ddatblygu canser y croen.
"Dylai mabwysiadu perthynas waith agos yn fuan gyda gweithredwyr gwelyau haul yn y ddwy sir sicrhau ein bod yn chwarae rhan arwyddocaol wrth gyflawni'r canlyniad iechyd y cyhoedd pwysig hwn."
Ychwanegodd Sharon Frobisher, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd yn Sir Ddinbych, mai canser y croen yw un o'r ffurfiau mwyaf cyffredin o ganser.
"Y nod yw lleihau'r risg, yn enwedig i bobl ifanc, trwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth newydd i helpu i roi gwybod iddyn nhw am beryglon gorddefnyddio gwelyau haul a hefyd i sicrhau fod busnesau gwelyau haul yn cael eu cynnal yn briodol ac yn adlewyrchu'r newidiadau yn y gyfraith."
Mi fydd busnesau sy'n cynnig defnyddio gwelyau haul hefyd yn gorfod dangos posteri yn rhybuddio am y peryglon.
£122,000
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £122,000 i awdurdodau lleol yn 2011/12 i'w helpu i gyflwyno a gorfodi'r rheoliadau.
"Does dim amheuaeth ymhlith arbenigwyr iechyd y gallai gwelyau haul fod yn niweidiol iawn," meddai'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.
"Maen nhw wedi'u cysylltu â chanser y croen, niwed i'r llygaid a chroen yn heneiddio cyn amser.
"O 31 Hydref, bydd yn drosedd i safleoedd gwelyau haul fod ar agor heb oruchwyliaeth, neu i werthu neu logi gwely haul i unrhyw un o dan 18 oed.
"Os bydd rhywun dros 18 oed am ddefnyddio un o'r gwelyau hyn, rhaid i'r safle gynnig gorchudd amddiffynnol ar gyfer ei lygaid".
Dywedodd Sarah Woolnough, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil Canser y DU, nad ydi gwely haul yn ffordd ddiogel o gael lliw haul.
"Mae defnyddio gwely haul cyn bod yn 35 oed yn cynyddu'r risg o gael melanoma malaen, y math mwyaf peryglus o ganser y croen, a hynny 75%."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011