Etholiad y Senedd yn 'dyngedfennol' i ddyfodol Keir Starmer

Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gallai Etholiad y Senedd fod yn "dyngedfennol" i ddyfodol Syr Keir Starmer fel Prif Weinidog y DU, yn ôl rhai ffynonellau o fewn y Blaid Lafur.

Fe fydd etholiadau'n cael eu cynnal ym mis Mai - yng Nghymru, Yr Alban ac mewn rhai awdurdodau lleol yn Lloegr.

Fe rybuddiodd un ffynhonnell o fewn Llafur fod Syr Keir wedi "colli cefnogaeth pobl gall yn y canol" ac "os nad yw ei gyfnod fel prif weinidog yn dirwyn i ben, dydw i ddim yn gwybod ble i fynd".

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur fod y prif weinidog yn "canolbwyntio'n llwyr" ar "drwsio'r economi" yn dilyn blynyddoedd o lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan.

Yn dilyn colled Llafur yn isetholiad Caerffili, dywedodd Syr Keir Starmer fod ei blaid "yn amlwg angen gwneud llawer mwy".

Ond mae 'na bryderon ymhlith rhai Aelodau Seneddol o Gymru y gallai Llafur wynebu'r un fath o ganlyniad ym mis Mai.

Mae nifer yn y blaid yn rhoi'r bai am y golled fis diwethaf ar gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys pleidleisio tactegol mewn ymdrech i drechu Reform, gwaith Llafur yn ystod 26 mlynedd mewn grym a dadleuon ynglŷn â materion lleol.

Ond mae rhai yn awgrymu bod arweinyddiaeth Keir Starmer hefyd wedi bod yn ffactor.

AS newydd Caerffili, Lindsay Whittle yn dathlu ennilly bleidlais i Blaid Cymru yn yr isetholiadFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Llafur yn drydydd yn isetholiad Caerffili y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK

Mae rhai ASau Llafur Cymreig am weld tro pedol ar gyflwyno trethi ar ffermydd teuluol a diwedd ar y terfyn budd-dal lles dau blentyn er mwyn apelio i bleidleiswyr.

Dywedodd un ffigwr o fewn y blaid seneddol eu bod yn myfyrio nawr cyn wynebu "heb os yr etholiad anoddaf a phwysicaf i ni ei wynebu erioed", a bod canlyniad yr isetholiad wedi rhoi rheswm clir i'r llywodraeth ganolbwyntio ar Gymru.

Mae ffynhonnell o fewn Llywodraeth y DU yn dweud eu bod "yn cydnabod yr angen i ymgysylltu fwy" gydag ASau o Gymru a bod mwy o bwyslais bellach ar faterion Cymreig yn y cabinet.

Ond mae 'na gydnabyddiaeth, meddai, "nad yw pethau yn debygol o fod yn eu lle erbyn mis Mai".

'Dyw Cymru ddim yn bwysig'

Dywedodd ffynhonnell arall o fewn Llywodraeth Prydain nad yw tîm y prif weinidog yn deall difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru.

"Dyw Cymru ddim yn bwysig iddyn nhw," meddai, gan ychwanegu nad ydynt yn gweld colli'r etholiad ym mis Mai fel "trychineb" gan eu bod wedi taro 'nôl ar ôl colli yn Yr Alban yn y gorffennol.

Mae'r ffynhonnell yn awgrymu bod angen newid o fewn arweinyddiaeth y blaid er mwyn canolbwyntio ar ffurfio naratif Llafur clir yn hytrach nag ymateb i bwyntiau trafod Reform UK.

"Mae angen newid cyfeiriad llwyr, dim ryw symudiad bach," meddai.

Ond dydyn nhw ddim yn hyderus mai Syr Keir yw'r person cywir i arwain y newid yma.

"Dwi'n meddwl fod mis Mai yn bendant yn foment tyngedfennol ar gyfer ei arweinyddiaeth. Mae o'n siŵr o aros tan hynny ond fe fydd yna bobl yn paratoi yn y cefndir."

Eluned Morgan a Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llafur yn mynnu eu bod yn mynd i'r afael â materion sy'n bwysig i bobl Cymru

Dywedodd ffynhonnell arall fod y prif weinidog yn araf wrth ymateb i arwyddion clir fel Caerffili, a bod yr esgusodion y mae'n rhaid iddyn nhw ddefnyddio er mwyn amddiffyn record y llywodraeth yng Nghymru yn "ofnadwy".

"Mae pobl gall yn y canol fel fi wedi mynd," meddai. "Mae o wedi colli'r 'stafell ac os nad yw ei gyfnod fel prif weinidog yn dirwyn i ben, dydw i ddim yn gwybod ble i fynd."

Caerffili 'ddim yn refferendwm ar Keir Starmer'

Er hynny, mae rhai o fewn arweinyddiaeth y blaid yn teimlo rhwystredigaeth o weld sylwadau rhai o'u haelodau.

Dywedodd un ffynhonnell fod nifer o bobl "yn ddigon parod i rannu barn am isetholiad Caerffili er nad oedden nhw wedi cnocio ar un drws".

Yn ôl ffynhonnell arall, mae'r ad-drefniant diweddar i'r cabinet - gan gynnwys penodi Shabana Mahmood yn Ysgrifennydd Cartref - yn dangos bod y llywodraeth yn ceisio mynd i'r afael â materion sy'n bwysig i bobl Cymru.

Awgrymodd ffigwr arall o fewn y blaid fod yr awydd i newid yr arweinyddiaeth yn "nodweddiadol o nerfusrwydd y Blaid Lafur" ond mynnodd nad oedd Caerffili yn "refferendwm ar Keir Starmer".

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur y DU: "Wedi 14 mlynedd o anrhefn dan arweinyddiaeth y Torïaid, Brexit blêr a llymder niweidiol, rydyn ni'n deall bod teuluoedd yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd.

"Fe wnaethon ni etifeddu economi oedd wedi torri ac mae'r prif weinidog yn canolbwyntio yn llwyr ar drwsio hynny.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli er mwyn cefnogi teuluoedd, mynd i'r afael â rhestrau aros a buddsoddi mewn rheilffyrdd - ond rydyn ni'n cydnabod bod llawer o waith i'w wneud cyn bod pobl yn gweld effaith hyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig