Cyfres yr Hydref: 'Pethe ddim yn edrych yn dda i Morgan'

Jac Morgan yn cydio yn ei ysgwydd chwith ac yn edrych tua'r llawr wedi'r anaf a gafodd wrth sgorio cais i Gymru yn erbyn Yr ArianninFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddatgymalodd Jac Morgan ysgwydd wrth sgorio trydydd cais Cymru yn y golled yn erbyn Yr Ariannin

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n debygol o fod heb y capten Jac Morgan ar gyfer gweddill gemau Cyfres yr Hydref wedi iddo ddatgymalu ysgwydd yng ngêm ddydd Sul yn erbyn Yr Ariannin.

Cafodd y blaenasgellwr anaf wrth sgorio cais yn ail hanner yr ornest yn erbyn yr ymwelwyr a'u trechodd o 52 pwynt i 28.

Dywedodd y priof hyfforddwr Steve Tandy: "Dydy pethe ddim yn edrych yn dda i Jac.

"Mae'n ergyd enfawr - mae'n chwaraewr o'r radd flaenaf ar lefel byd-eang.

"Mae'n chwaraewr pwysig i ni a ry'n ni'n gwybod gymaint mae e'n caru chwarae i Gymru a sut mae e'n arwain y tîm.

"Rwy' wedi ei weld yn yr ystafelloedd newid - mae wedi ei lorio. Yn y pendraw nawr, y flaenoriaeth yw adferiad Jac."

Roedd cais Morgan - ei wythfed cais rhyngwladol - yn un o uchafbwyntiau'r gêm yn Stadiwm Principality, Caerdydd ac roedd ei berfformiad, yn ôl Tandy, "yn rhagorol".

Wrrth drafod yr angen i lenwi'r bwlch yn y garfan ar gyfer gweddill y gemau prawf cyn diwedd y mis yn erbyn Japan, Seland Newydd a De Affrica, awgrymodd Tandy chwaraewr Caerlŷr Tommy Reffell a blaenasgellwr y Gweilch Harri Deaves fel opsiynau posib.

Pynciau cysylltiedig