Ymgyrch £500,000 o daclo heroin ar strydoedd Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Nodwydd HeroinFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae 61 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â heroin wedi digwydd yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ers 2007

Mae Heddlu De Cymru yn gwario hanner miliwn o bunnau ar eu hymgyrch ddiweddaraf i waredu heroin o strydoedd Abertawe.

Dywed yr heddlu fod hyn yn ddefnydd da o'u harian.

Ond mae asiantaethau sy'n cynorthwyo pobl sy'n gaeth i'r cyffur yn dweud fod angen mwy o arian arnyn nhw hefyd.

Bwriad yr heddlu yw targedu'r 3,000 o ddefnyddwyr heroin yn Abertawe, sy'n cael ei adnabod fel prifddinas heroin Cymru.

Dywed yr heddlu fod 80% o droseddwyr cyson y ddinas yn ddefnyddwyr heroin, ac mae'r cyffur felly yn gyfrifol am fwyafrif y troseddu yn rhanbarth Abertawe.

Cost i gymdeithas

Mae'r Prif Uwch-Arolygydd Mark Mathias yn dweud fod y gost o £500,000 yn werth yr arian.

"Gall pob person sy'n gaeth i'r cyffur gostio £850,000 i gymdeithas.

"Pan ydych chi'n ystyried cost y driniaeth, yr holl faterion cyfiawnder troseddol sy'n codi, yna fe welwch chi gostau sylweddol yn codi o hyn."

Mae rhaglen Week In Week Out BBC Cymru wedi cael cyfle unigryw i weld yr ymgyrch yn erbyn gwerthwyr a defnyddwyr heroin.

Disgrifiad,

Ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau am nifer o flynyddoedd mae Aled Williams bellach yn ôl adref ar Ynys Môn a bu'n rhannu ei brofiad gydag Aled Hughes.

Mae cyrchoedd diweddar wedi dangos cysylltiadau gyda gangiau cyffuriau o leoedd mor bell i ffwrdd a Llundain a Lerpwl, ac mae'r Uwch-Arolygydd Phil Davies yn dweud fod yr heddlu wedi ymrwymo i daclo'r fasnach anghyfreithlon.

"Mae rhai o'r gwerthwyr cyffuriau yma wedi dweud na allwn ni eu cyffwrdd," meddai.

"Fy neges i iddyn nhw yw nad oes lle i guddio, fe wnawn ni ddod o hyd i chi, fe wnawn ni eich dal ac fe gewch chi'ch rhoi o dan glo."

Dros y pythefnos diwethaf, mae heroin fyddai wedi arwain at 1,100 o achosion o werthu heroin ar y stryd wedi cael ei gipio.

Mae'r rhai sy'n gaeth i heroin hefyd yn cael eu targedu.

Gall talu am gaethiwed i'r cyffur gostio hyd at £100 y dydd.

Mae'r heddlu am i ddefnyddwyr dorri'n rhydd o droseddu, ond hefyd am geisio gweddnewid bywydau'r defnyddwyr.

'Difetha bywyd'

Mae Amy Protheroe wedi bod yn gaeth i heroin ers yn 13 oed. A hithau bellach yn 20 oed, mae hi newydd ddechrau ei phumed cwrs o driniaeth.

Mae hyn wedi arwain ati'n troi at droseddu, ac mae'n cyfadde' iddo gael effaith ddinistriol ar ei bywyd.

"Pan ydych chi'n gaeth i heroin, rydych chi'n deffro ac yn meddwl o ble daw'r arian heddiw," meddai.

"Lle ga' i afael ar heroin? Ry'ch chi'n cael yr heroin, ei gymryd, ac mae'r cyfan yn dechrau eto.

"I fod yn onest mae heroin wedi difetha fy mywyd."

Pryder

Ond mae ymgyrch ddiweddaraf Heddlu'r De yn golygu cyfeirio mwy o bobl am driniaeth, ac mae'r Prif Uwch-Arolygydd Mathias yn poeni os oes gan asiantaethau sy'n darparu rhaglenni o driniaeth ddigon o adnoddau i ddelio gyda'r gwaith ychwanegol.

Mae rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n gaeth i'r cyffur yn ddyddiol yn rhannu'r pryder, fel Christine Skelton o Canolfan Cyrenians i'r digartref yng nghanol y ddinas.

"Mae'r adnoddau sydd gennym yn Abertawe yn wych," meddai.

"Mae gennym asiantaethau bendigedig, ond does dim digon.

"Os na chawn ni fwy o arian o hyn, fe allai pethau waethygu'n sylweddol."

Mae asiantaethau adferiad cyffuriau yn cefnogi ymgyrch yr heddlu, ond os nad oes digon o leoedd i'w trin y pryder yw y gallai nifer o ddefnyddwyr droi yn ôl at fywyd o droseddu a chaethiwed i heroin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol