Ymgyrchwyr yn erbyn parlwr godro yn 'ystyried apelio'
- Cyhoeddwyd
Mae grwpiau sy'n gwrthwynebu cais cynllunio ar gyfer parlwr godro enfawr ym Mhowys yn ystyried apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor sir, a gyhoeddodd ddydd Mawrth eu bod yn 'dueddol i gymeradwyo'r cais'.
Yn ôl Roger Clegg, un o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn y cynllun, byddan nhw nawr yn trafod yr opsiynau gyda chyrff eraill oedd yn gwrthwynebu - gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cadw, Ymgyrch Ddiogelu Cymru Wledig a Bwrdd Iechyd Addysgol Powys.
Dywedodd Mr Clegg, sy'n byw gerllaw'r safle arfaethedig ar gyfer y parlwr godro, ei fod yn hynod siomedig gyda phenderfyniad y pwyllgor cynllunio ac wedi'i synnu fod cynghorwyr wedi "mynd yn groes i'w cynllun datblygu eu hunain".
Dwy bleidlais
Daeth penderfyniad y pwyllgor cynllunio ar ddiwedd trafodaeth tair awr a hanner yn y Trallwng ddydd Mawrth.
Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod y cais.
Bu dwy bleidlais ar y mater. Yn y bleidlais gyntaf i wrthod y cais, pleidleisiodd pedwar o blaid a chwech yn erbyn.
Roedd yr ail bleidlais ar gynnig i ddweud fod "y pwyllgor yn tueddu tuag at gymeradwyo'r cais yn dibynnu ar dderbyn adroddiad am faterion penodol".
Cafodd y cynnig yma ei basio 6-4.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys fod y pwyllgor wedi cymryd y cam anarferol o fynd yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio, a bod penderfyniad heddiw yn ei gwneud hi'n "debygol" y bydd y parlwr godro yn cael sêl bendith yr awdurdod mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Pryderon
Mae Fraser Jones yn bwriadu codi parlwr o'r fath ar gyfer 1,000 o wartheg yn Nhre'r-llai ger Y Trallwng.
Pan gafodd y cynllun ei grybwyll yn ôl ym mis Awst fe wnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fynegi pryder am ddŵr y safle a sut y byddai tail y gwartheg yn cael ei reoli.
Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad i'r cais diweddaraf - felly hefyd gwasanaethau iechyd amgylcheddol Powys a'r Bwrdd Dreiniau Mewnol.
Ond mae swyddogion cynllunio Cyngor Powys yn poeni y gallai'r datblygiad gael effaith ar Glawdd Offa.
Mae adroddiad gan y swyddogion yn dweud eu bod wedi astudio cais Mr Jones yn fanwl, ac yn dod i'r casgliad y byddai maint a lleoliad y datblygiad "yn sylfaenol yn groes" i'r cynllun datblygu.
Ychwanegodd y byddai'r parlwr yn cael effaith weledol ar adeiladau cofrestredig yn lleol, ac yn amharu ar y golygfeydd o Gastell Powys gerllaw.
"Mae'r safle mewn ardal sy'n sensitif gan ei fod yn agos o safbwynt gweledol at asedau treftadaeth, gan gynnwys adeiladau cofrestredig, tirlun wedi'i gofrestru a heneb restredig".
Gwrthod honiadau
Mae Mr Jones yn gwrthod honiadau am iechyd gan ddweud y byddai iechyd ei anifeiliaid yn cael ei fonitro drwy'r amser, a dywedodd y byddai'r parlwr yn gwella amodau godro.
Dywedodd y cyngor ei fod wedi derbyn nifer fawr o wrthwynebiadau gan bobl leol i'r cais gwreiddiol, a bod grŵp gweithredu lleol wedi cael ei ffurfio.
Mae'r grŵp yn pryderu am effaith weledol y cynllun, sŵn ac arogl drwg allai ddod o'r safle, a'r ffaith y byddai'r parlwr godro'n agos at gartrefi ac ysgol gynradd Tre'r-llai.
Roedd mudiad Compassion in World Farming hefyd wedi gwrthwynebu'r cais y llynedd - felly hefyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (perchnogion Castell Powys) sydd hefyd yn gwrthwynebu'r cais diweddaraf.
Datblygiadau
Dywedodd llefarydd ar ran undeb ffermwyr yr NFU:
"Mae'r diwydiant llaeth wedi newid llawer dros yr 20 mlynedd diwetha' wrth i ffermwyr elwa o dechnolegau bridio, godro a ffermio newydd.
"Does dim angen ofni'r datblygiadau; mae'n golygu ein bod yn barhaol yn dod o hyd i ffyrdd gwell a newydd o reoli'n gwartheg, tra'n parhau i ddarparu ystod eang o gynnyrch llaeth Prydeinig safonol i'n defnyddwyr."
Ar hyn o bryd mae gan Mr Jones 200 o wartheg godro ar ei fferm yn Nhre'r-llai, ond mae ganddo gyfanswm o 450 o wartheg a 400 o wyn.
Ond os caiff ei gais ei gymeradwyo gan gynghorwyr, fe fydd yn cadw 1,000 o wartheg godro a dim anifeiliaid eraill.