Sesiwn holi: Herio Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Y SeneddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi herio Prif Weinidog Cymru i enwi un prosiect cyfalaf sydd wedi cael sêl bendith ers etholiad mis Mai.

Yn sesiwn cwestiynau wythnosol y Prif Weinidog, dywedodd Mr Jones bod cynlluniau cyfalaf yn un ffordd o roi hwb i'r economi, ond honnodd bod Llywodraeth Cymru wedi atal gwariant ar brosiectau newydd ym meysydd iechyd, addysg a thrafnidiaeth.

Gofynnodd Mr Jones: "Oes yna un enghraifft o brosiect cyfalaf newydd sydd wedi cael sêl bendith?

"Allwch chi ddim rhoi un enghraifft o brosiect sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth.

"Trwy lusgo traed, 'da chi'n tanseilio'r ddadl gyda Llywodraeth Prydain"

Trafodaethau

Dywedodd Carwyn Jones bod Llywodraeth Cymru'n bwrw 'mlaen gyda phrosiectau.

Mae Llywodraeth Cymru, meddai, yn archwilio'r dull mwyaf priodol o wario dros £38 miliwn yn ychwanegol a ddaeth gan Lywodraeth Prydain yn ddiweddar.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru: "Yng nghyd-destun prosiectau cyfalaf iechyd tydi hi ddim yn wir i ddweud eu bod nhw wedi dod i derfyn.

"Fe fydd arweinydd Plaid Cymru hefyd yn gwybod bod 'na drafodaethau yn mynd rhagddynt rhwng y pleidiau i weld sut fyddai'n fwyaf priodol i wario'r £38 miliwn o arian ychwanegol."

Cyfeiriodd Kirsty Williams at dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog Iechyd i un o bwyllgorau'r Cynulliad bythefnos yn ôl.

Bryd hynny dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi'n atal arian cyfalaf rhag cael ei wario ar gynlluniau am y tro. Gofynnodd Kirsty Williams beth oedd goblygiadau hynny i'r amryw o brosiectau a gafodd eu cyhoeddi cyn yr etholiad.

Does yr un prosiect mewn perygl, yn ôl Carwyn Jones, ond cyfaddefodd y byddai'n rhaid edrych o'r newydd ar rai ohonyn nhw.

Twf economi

Yn gynharach daeth cadarnhad fod economi Prydain yn dal i dyfu gyda'r twf ychydig yn well nag yr oedd llawer wedi'i ddisgwyl.

Yn ystod y tri mis hyd at ddiwedd Medi, fe dyfodd economi Prydain 0.5%.

"Mae'r ffigyrau'n gam positif," meddai'r canghellor George Osborne.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai llywodraeth Prydain yn parhau gyda'i chynlluniau presennol ychwanegodd Mr Osborne bod yn rhaid "deall mai dyma'r unig daith sydd yn mynd i arwain tuag at ffyniant ac adferiad economaidd."

Ond mae Llafur yn galw am drywydd gwahanol.

Yn ôl llefarydd trysorlys y blaid, yr aelod dros Bontypridd, Owen Smith, mae 'na gost bersonol tu ôl i'r ystadegau.

Dywedodd Mr Smith: "Mae lefelau diweithdra ar eu huchaf ymysg yr ifanc a menywod - tua 100,000 yn ôl yr ystadegau diweddaraf, 16,000 ohonyn nhw yng Nghymru tra bod prisiau'n codi a chyflogau'n disgyn.

"Ddeunaw mis i mewn i lywodraeth Geidwadol ac mae'r gwaddol yn edrych yn gyfarwydd iawn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol