Shaun Edwards yn gadael clwb Wasps
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif hyfforddwr Shaun Edwards wedi gadael ei swydd gyda chlwb Wasps yn Llundain.
Edwards oedd hyfforddwr ffitrwydd Cymru hyd at Gwpan y Byd yn Seland Newydd.
Yn ystod y gystadleuaeth, fe awgrymodd Edwards y byddai'n ystyried gadael pan fyddai'n dychwelyd adre.
Bydd cyn chwaraewr rygbi 13 Prydain yn gadael Wasps yn nwylo'r cyfarwyddwr rygbi Dai Young, cyn hyfforddwr y Gleision, a'i ddirprwy Paul Turner, cyn hyfforddwr y Dreigiau.
Deellir fod y clwb am leihau bil cyflog y clwb wedi iddo gael ei roi ar werth y mis diwethaf.
Bydd ymadawiad Edwards yn cynyddu'r sibrydion am rôl bosib gyda Lloegr er nad yw eu prif hyfforddwr nhw, Martin Johnson, wedi gwneud penderfyniad am ei ddyfodol hyd yma.
'Heriau newydd'
Y mis diwethaf dywedodd Edwards: "Mae siawns go dda na fyddaf yn gysylltiedig â chlwb nac ar lefel rhyngwladol pan fyddaf yn dychwelyd (o Gwpan y Byd).
"Efallai ei bod hi'n bryd i mi symud ymlaen at heriau newydd.
"Mae fy nyfodol yn aneglur, does dim dwywaith am hynny. Rwy'n hoff o hyfforddi rygbi, ac fe fydd gen i feddwl agored i unrhyw beth a dweud y gwir."
Ymunodd Edwards gyda Wasps yn 2001 fel hyfforddwr yr olwyr, ac yna daeth yn olynydd i Warren Gatland fel prif hyfforddwr yn 2005.
Yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb, fe enillon nhw Uwchgynghrair Lloegr ar bedwar achlysur, a chodi Cwpan Heineken ddwywaith yn 2004 a 2007.
Daeth cytundeb Edwards gyda Chymru i ben ar ôl i Gymru golli yn erbyn Awstralia i orffen yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd.
Rôl rhan amser oedd ganddo gyda Chymru, ac mae'n wybyddus fod prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, yn awyddus i sicrhau bod Edwards - a gweddill tîm hyfforddi Warren Gatland - yn aros gyda'r tîm cenedlaethol yn y dyfodol.
Mae sibrydion hefyd y gallai Edwards ymuno gyda thîm hyfforddi'r Gleision.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011